Skip to main content

Ceredigion County Council website

Ceredigion county council logo

Dathlu doniau eithriadol yng Ngheredigion – cyhoeddi enillwyr Gwobrau Caru Ceredigion 2025

Cynhaliwyd Gwobrau Caru Ceredigion 2025 neithiwr, 11 Rhagfyr, ar gampws Llanbedr Pont Steffan, Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant, a dathlwyd cyfraniadau a chyflawniadau eithriadol busnesau, prosiectau cymunedol ac unigolion ledled y sir.

Wedi'i drefnu o dan faner Caru Ceredigion, derbyniwyd dros 110 o geisiadau ar gyfer y gwobrau a oedd yn cynnwys rhai categorïau newydd eleni, gyda 40 yn ymddangos ar y rhestrau byr ar draws 12 categori. Roedd y digwyddiad yn noson o ddathlu a chydnabod, a welodd Cynghorwyr Sir, swyddogion, cynrychiolwyr o bob cwr o'r byd busnes a grwpiau cymunedol yn anrhydeddu'r ymdrechion a'r cyflawniadau eithriadol o fewn y sir.

Dywedodd y Cynghorydd Bryan Davies, Arweinydd Cyngor Sir Ceredigion: “Mae Gwobrau Caru Ceredigion wedi dangos gwir ysbryd a chynhwrf ein cymunedau. Mae gweld cynifer o unigolion, grwpiau a busnesau yn cael clod am eu hymroddiad a’u harloesedd yn fy atgoffa i bam y mae’r gwobrau hyn mor hanfodol. Nid wrth gydnabod llwyddiant yn unig — ond maent hefyd yn ysbrydoli llwyddiant. Boed hynny’n grŵp cymunedol sy’n rhoi bywyd newydd i neuadd bentref, entrepreneur ifanc yn lansio menter feiddgar newydd, neu ddigwyddiad sy’n dod â chymdogion ynghyd, mae’r gwobrau hyn yn cadarnhau’r ymdrechion eithriadol sy’n cael eu gwneud bob dydd. Mae gweld cymaint o straeon anhygoel yn cael eu rhannu neithiwr yn ein hatgoffa faint y gellir ei gyflawni pan fyddwn yn gweithio gyda’n gilydd.”

Cynhaliwyd y noson gan gyflwynydd S4C Daf Wyn ac newyddiadurwr ITV Cymru Wales Nest Jenkins, sydd ill dau yn dod o'r sir. Crëwyd y tlysau crefftus a gyflwynwyd i bob enillydd gan fyfyrwyr dodrefn Blwyddyn 2 a 3 Coleg Ceredigion, ynghyd â'r brif wobr gan y gof o Lanbedr Pont Steffan, Alec Page.

Un o uchafbwyntiau'r seremoni oedd cyflwyno Gwobr Caru Ceredigion, a aeth i Aber Cycle Fest, sef yr enillydd cyffredinol ar draws y gwahanol gategorïau.

Yn ei 12fed flwyddyn, mae Aber Cycle Fest wedi tyfu i fod yn un o ddathliadau beicio mwyaf disgwyliedig Cymru, gan ddenu beicwyr elitaidd ac ymwelwyr brwd o bob cwr o’r byd. Roedd gŵyl 2025 yn cynnwys rasys cyffrous yn Aberaeron ac Aberystwyth, gan drawsnewid ein trefi yn ganolfannau bywiog o ragoriaeth chwaraeon ac ysbryd cymunedol. Mae’r ŵyl wedi tanio angerdd am feicio ymhlith y genhedlaeth iau. Mae’r dylanwad hwn yn amlwg yn llwyddiant talentau lleol fel y brodyr Tarling, Stevie Williams, a Lowri Richards, sy’n gwneud eu marc ar y llwyfan byd-eang. Mae eu cyflawniadau’n adlewyrchu effaith barhaol yr ŵyl a’i rôl wrth feithrin uchelgais a chyfleoedd. Y tu hwnt i’r rasys, mae Aber Cycle Fest yn meithrin ymdeimlad o falchder a chydlyniant, gan arddangos Ceredigion ar ei orau. Mae’n dangos sut y gall chwaraeon gryfhau bondiau cymunedol, hyrwyddo ffyrdd o fyw iach, a gosod ein sir yn gadarn ar y map fel cyrchfan ar gyfer digwyddiadau o safon byd.

Categori newydd eleni o fewn y gwobrau oedd Caru’ch Cymuned a roddodd gyfle i gymunedau gael eu cydnabod a’u dathlu am eu hysbryd cymunedol yng Ngheredigion. Roedd saith cais i gyd; o bentrefi bach, pentrefi a threfi, a dyfarnwyd Gwobr Efydd iddynt i gyd fel cydnabyddiaeth o’u hymdrech a’u hymrwymiad i ymfalchïo yn lle maent yn byw.

Gallwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth am y rhai a gyrhaeddodd y rownd derfynol a’r enillwyr drwy ymweld â: Gwobrau Caru Ceredigion 2025 - Cyngor Sir Ceredigion

Gwobr Mudiad Cymunedol

Enillydd: Hwb Cymunedol Borth

Ar y rhestr fer: Ysgol Plascrug

Ar y rhestr fer: 4CG

Gwobr Manwerthu

Enillydd: Crwst

Ar y rhestr fer: HAHAV

Ar y rhestr fer: The Snail of Happiness

Gwobr Llwybr Llwyddiant

Enillydd: Rakaia McAdams Duff, Cwmni Theatr Arad Goch

Ar y rhestr fer: Katie Law, Coleg Ceredigion

Ar y rhestr fer: Viktoriia Chetvertnykh, The Depot Cafe

Gwobr Creu Dyfodol Lleol 

Enillydd: Pugh Computers

Ar y rhestr fer: Bwyty Maes y Parc

Ar y rhestr fer: Cwmni Theatr Arad Goch

Gwobr Bwyd-Amaeth

Enillydd: Llaeth Gwarffynnon

Ar y rhestr fer: Neurabotics LTD

Ar y rhestr fer: Welshhomestead Smokery

Gwobr Ysbrydoliaeth Caru Ceredigion

Enillydd: Rhys Jones, Cattlestrength

Ar y rhestr fer: Neli Jones

Ar y rhestr fer: Rachael Eagles, Area 43

Gwobr Caru'ch Cymuned

Enillwyr: 

Tref - Tregaron a Llanbedr Pont Steffan

Pentref - Llangeitho

Pentref Bach - Drefach, Llangybi, Cross Inn, Llangynfelyn

Gwobr Entrepreneur Ifanc

Enillydd: Gethin ac Iolo Ap Dafydd, Aberpoeth

Ar y rhestr fer: Angharad Morris, Cys Ci

Ar y rhestr fer: Ellis Peares, Students Hands PLC

Gwobr Darganfod Ceredigion

Enillydd: Moody Meadows

Ar y rhestr fer: New Quay Boat Trips

Ar y rhestr fer: Rheilffordd Cwm Rheidol

Gwobr Digwyddiad Llai/Cymunedol y Flwyddyn

Enillydd: Sgarmes, Christmas Singalong

Ar y rhestr fer: Rali CFfI Ceredigion

Ar y rhestr fer: Lleisiau Eraill Aberteifi

Gwobr Digwyddiad Mawr y Flwyddyn

 

Enillydd: Aber Cycle Fest

Ar y rhestr fer: Gŵyl Fwyd Llanbed

Ar y rhestr fer: Gŵyl Crefft Cymru 

Gwobr Ceredigion a’r Byd

 

Enillydd: Gwasg Gomer

Ar y rhestr fer: Cwmni Theatr Arad Goch

Ar y rhestr fer: Rali Ceredigion

Gwobr Caru Ceredigion 2024

 

Aber Cycle Fest

12/12/2025