Cynllun Llunio Lleoedd yng Ngheredigion
Mae Cyngor Sir Ceredigion yn blaenoriaethu buddsoddiad mewn cymunedau a lleoedd. Maeʼn canolbwyntio ar alluogi lleoedd i fuddsoddi ac adfer eu mannau cymunedol a chreuʼr sylfeini priodol ar gyfer cymunedau lleol llewyrchus.
Ar ôl datblygu Cynlluniau Lle ar gyfer prif drefiʼr sir rai blynyddoedd yn ôl, maeʼr pwyslais bellach ar helpu cymunedau gwledig llai o faint. Mae prosiect Llunio Lle yn ymwneud â helpu tri ar ddeg o bentrefi gwledig i ddeall eu hanghenion, llunio eu gweledigaeth a chlustnodi blaenoriaethau, a gaiff eu cyflwyno mewn Cynllun Lle unigryw.
Dywedodd y Cynghorydd Clive Davies, Aelod Cabinet Ceredigion dros Economi, Adfywio a Rheoli Carbon: “Mae’r broses o lunio lle a chreu cynlluniau wedi bod o fudd i’n prif drefi yng Ngheredigion. Maent wedi darparu ffocws ac wedi galluogi mynediad at gyllid i wireddu elfennau’r cynlluniau. Drwy gynnal ymarfer tebyg gyda’n cymunedau mwy o faint ar draws y sir, bydd hyn hefyd yn ychwanegu gwerth, yn rhoi ffocws ac yn arwain datblygiadau’r dyfodol. Rwy’n annog pawb i gymryd rhan ac i’n helpu i adeiladu cymunedau llewyrchus ar draws Ceredigion.”
Bydd nifer o ffyrdd i drigolion lleol a grwpiau gymryd rhan i lunio eich Cynllun Lle, gan gynnwys cerdded o gwmpas y gymuned, sesiynau galw heibio ac arolygon dros y misoedd nesaf.
Ym mis Tachwedd a Rhagfyr 2025, cynhelir y digwyddiadau ymgysylltu canlynol ar draws y sir:
-
11 Tachwedd 2025 (12yp–7yh) yn Neuadd Goffa Felinfach.
-
12 Tachwedd 2025 (12yp–7yh) yn Neuadd Bentref Aberporth.
-
13 Tachwedd 2025 (12yp–7yh) yn Ganolfan Cymunedol Llanilar.
-
14 Tachwedd 2025 (12yp–7yh) yn Ganolfan Cymunedol Mynach, Pontarfynach.
-
18 Tachwedd 2025 (12yp–7yh) yn Star of the Sea, Borth.
-
19 Tachwedd 2025 (2:30yp–8yh) yn Neuadd Bentref Llanon.
-
20 Tachwedd 2025 (12yp–7yh) yn Neuadd Rhydypennau, Bow Street.
-
21 Tachwedd 2025 (12yp–7yh) yn Neuadd Goffa Tal-y-bont.
-
25 Tachwedd 2025 (12yp–7yh) yn Llanina Arms, Llanarth.
-
26 Tachwedd 2025 (12yp–7yh) yn Neuadd Goffa Llanrhystud.
-
2 Rhagfyr 2025 (12yp–7yh) yn Gapel Bach, Cenarth.
-
3 Rhagfyr 2025 (12yp–7yh) yn Gapel y Bedyddwyr Horeb, Penrhyn-coch.
-
4 Rhagfyr 2025 (12yp–7yh) yn Neuadd Pantyfedwen, Pontrhydfendigaid.
Mae’r Cyngor Sir hefyd wedi datblygu gwefan ddwyieithog ar-lein am y cynllun. Mae'r gwefan hon yn adnodd i gymunedau ar gyfer gweledigaethau a syniadau am wneud newidiadau iʼw Lle, yn ogystal â bod yn ddull rhyngweithiol ar gyfer ymateb ac olrhain cynnydd.
Mae Cyngor Sir Ceredigion wedi penodi Chris Jones Regeneration (Studio Response a Gwe Cambrian) iʼw helpu i ddatblygu Cynlluniau Lle ar gyfer pob cymuned wledig.
Y tair ar ddeg cymuned wledig fydd yn ganolbwynt i’r Cynlluniau Lle yw Aber-porth/Parc-llyn, Bow Street (gan gynnwys Llandre), Cenarth, Felin-fach/Ystrad Aeron, Llannarth, Llanilar, Llan-non, Llanrhystud, Penrhyn-coch, Pontarfynach), Pontrhydfendigaid, Tal-y-bont, Y Borth.
Os ydych chi’n byw, neu’n aelod o grŵp lleol yn un o’r pentrefi gwledig hyn, gallwch dderbyn diweddariadau a chofrestru eich diddordeb drwy anfon e-bost at chris@chrisjones.studio.
29/09/2025