Skip to main content

Ceredigion County Council website

Cyngor Sir Ceredigion a Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda i ddod o hyd i bartner cyflawni ar gyfer Cylch Caron

Mae Cyngor Sir Ceredigion yn falch o gyhoeddi bod y broses gaffael i nodi Partner Cyflawni ar gyfer Cynllun Cylch Caron bellach ar agor a bydd yn cau ar 12 Ebrill 2025.

Yn dilyn cymeradwyaeth y Cabinet, 17 Gorffennaf, 2024 i fwrw ymlaen â phroses dendro agored i nodi partner prosiect newydd, cynhaliwyd proses dendro rhwng 26 Gorffennaf a 20 Medi 2024. Ni arweiniodd y broses dendro at bartner ar gyfer y prosiect.

Fodd bynnag, yn ystod y cyfnod hwnnw, mynegodd dau bartner posibl diddordeb mewn cyflawni’r cynllun, gyda rhai amrywiadau i’r rhai a gynigir yn y tendr. Yn unol â'r Rheoliadau Caffael ac er mwyn ymchwilio’r amrywiadau hynny'n llawn i gyflawni Cynllun Cylch Caron yn llwyddiannus, mae’r Cyngor nawr yn cynnal ymarfer caffael Deialog Cystadleuol.

Bydd y broses dendro hon yn rhoi cyfle i ddatblygu cynllun sy'n diwallu anghenion iechyd, gofal cymdeithasol a thai'r ardal.

Mae'r broses yn cael ei rheoli drwy blatfform tendro eTenderWales. Yn y broses sy'n dilyn, bydd y sefydliadau cymwys yn cynorthwyo'r Cyngor a Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda i ddatblygu Cynllun Cylch Caron yn barod i ddatblygu'r gwaith o gyflawni'r prosiect.

Dywedodd y Cynghorydd Alun Williams, Aelod Cabinet Cerdigion sy'n gyfrifol am Llesiant Gydol Oes: "Mae Cyngor Sir Ceredigion wedi ymrwymo'n llwyr i weld y prosiect gofal cymdeithasol, iechyd a thai arloesol hwn yn llwyddo. Credwn mai sefydliadau lleol yn cydweithio i ddarparu gwasanaethau a chyfleusterau fel hyn yw'r ffordd ymlaen. Mae pawb wedi bod yn gweithio'n galed iawn y tu ôl i'r llenni ar y broses ail-dendro ac rwy'n falch iawn ein bod bellach wedi cyrraedd y garreg filltir bwysig hon."

Dywedodd Peter Skitt, Cyfarwyddwr Gwasanaeth Grŵp Gofal Clinigol ar gyfer Meddygaeth Gymunedol ac Integredig ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda: "Mae hwn yn brosiect partneriaeth rhwng Cyngor Sir Ceredigion a Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, ynghyd â Llywodraeth Cymru. Bydd yn cynnwys meddygfa feddygon teulu, fferyllfa gymunedol, clinigau cleifion allanol a gwasanaethau nyrsio cymunedol."

Ar ôl cwblhau'r ddeialog gystadleuol bydd y canlyniadau'n cael eu cyflwyno i'r Cabinet ar gyfer derbyn tendr.