Skip to main content

Ceredigion County Council website

Ceredigion county council logo

Cymorth i gymunedau a busnesau yng Ngheredigion

Yn rhan o’n hymrwymiad parhaus i gefnogi busnesau a chymunedau i ddarparu atebion cynaliadwy ond arloesol i fynd i’r afael â rhai o’r heriau economaidd, cymdeithasol ac amgylcheddol sy’n wynebu ardaloedd gwledig, mae Cyngor Sir Ceredigion yn darparu Cronfa Cynnal y Cardi a ariennir gan Lywodraeth y DU trwy Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU.

Rydym yn lansio dwy gronfa sy’n cynnig cyfleoedd cyllid sy’n agor dydd Mercher, 18 Mehefin 2025

  • Cronfa Gymorth Cynnal y Cardi ar gyfer Datblygu Cymunedol

£1,000 a hyd at £50,000.

Mae Cronfa Gymorth a Datblygu Cymunedol Cynnal y Cardi yn darparu cefnogaeth i gymunedau a fydd yn cynnwys cymorth ar gyfer gwariant refeniw a gwelliannau cyfalaf. Rhaid bod ymgeiswyr yn cael cymorth cymunedol ac mae’n rhaid eu bod yn llenwi’r ffurflen gais mewn ymgynghoriad  â’r darparwyr cymorth cymunedol canlynol:

  • CAVO Cymdeithas Mudiadau Gwirfoddol Ceredigion
  • Severn Wye Energy Agency Ltd
  • Cwmpas

 

  • Cronfa Cyfalaf Busnes Cynnal y Cardi

£5,000 a hyd at £50,000.

Mae Cronfa Cyfalaf Busnes Cynnal y Cardi yn cynorthwyo busnesau i ddatblygu’n economaidd. Mae’r gronfa wedi ei sefydlu ar ffurf cynllun grant busnes, a fydd yn cynnwys cymorth ar gyfer prosiectau gwariant cyfalaf a gwariant refeniw arbenigol (e.e. costau hyfforddi sy’n gysylltiedig â phryniannau offer cyfalaf – heb gynnwys costau staff neu gostau rhedeg parhaus).

Er mwyn bod yn gymwys i ymgeisio, rhaid i ymgeiswyr cael cymorth busnes, ac yn llenwi’r ffurflen gais mewn ymgynghoriad naill â’i gyda un o ddarparwyr cymorth busnes a restrir isod, neu gyda ymgynghorwr cydnabyddedig arall. 

  • Antur Cymru
  • Mentera
  • Busnes Cymru
  • Severn Wye Energy Agency Ltd
  • Canolfan Bwyd Cymru
  • Landsker
  • Cwmpas

Dywedodd y Cynghorydd Clive Davies, Aelod Cabinet Ceredigion dros yr Economi ac Adfywio: “Mae'n bwysig bod busnesau a chymunedau cymwys yn cael y cyfle i fanteisio ar y Cymorth ariannol sydd ar gael. Os yw eich sefydliadau yn cyd-fynd â'r meini prawf, ewch amdani a gwnewch gais am y grant."

Asesir pob cynnig at ddibenion cymhwystra, os caiff ei gymeradwyo, yna gwahoddir chi i gyflwyno cais llawn.

Croesawir ceisiadau yn Gymraeg neu yn Saesneg. Caiff ceisiadau a gyflwynir yn y naill iaith neu’r llall eu trin yn gyfartal.

Bydd y ddwy gronfa yn croesawu ceisiadau dan drefniant y cyntaf i’r felin rhwng 18 Mehefin 2025 a 30 Medi 2025, neu nes y caiff y gronfa ei neilltuo yn llawn. 

Am fwy o wybodaeth ewch i dudalen gwe Cronfa Ffyniant Gyffredin DU 2025-2026