Cyhoeddi rhestr fer Gwobrau Caru Ceredigion 2025
Mae rhestr fer Gwobrau Caru Ceredigion 2025 wedi’i gyhoeddi yn swyddogol, gyda ystod drawiadol o gystadleuwyr yn y rownd derfynol yn cynrychioli 12 categori.
Mae rhestr fer Gwobrau Caru Ceredigion 2025 wedi’i gyhoeddi yn swyddogol, gyda ystod drawiadol o gystadleuwyr yn y rownd derfynol yn cynrychioli 12 categori.
Mae’r gwobrau yn ddathliad o gyfraniadau a llwyddiannau eithriadol busnesau, prosiectau cymunedol, ac unigolion ar draws y sir.

Ar ôl derbyn ymateb anhygoel o dros 110 o geisiadau, mae’r enwebeion ar y rhestr fer yn amrywio o brosiectau cymunedol, gwirfoddolwyr gweithgar a digwyddiadau sydd wedi cael effaith gadarnhaol ar eu cymunedau lleol, i rai o’r busnesau blaenllaw ac arloesol sy’n llwyddo i roi Ceredigion ar y map.
Roedd y panel o feirniaid wedi eu plesio’n fawr gan ansawdd a nifer y ceisiadau ar gyfer y gwobrau s’yn tynnu sylw at y talent, yr arloesedd a’r gwytnwch o fewn cymunedau, mudiadau a busenesau Ceredigion.
Bydd yr enillwyr yn cael eu datgelu mewn seremoni ar 11 Rhagfyr. O dan ar
weiniad cyflwynydd S4C, Dafydd Wyn Rees a newyddiadurwraig ITV Cymru Wales, Nest Jenkins, mae’r noson yn argoeli i fod yn ddathliad ac yn gydnabyddiaeth o’r cyfraniadau unigryw ac eithriadol mae pob un ohonynt wedi’u gwneud i economi a chymunedau Ceredigion.
Dywedodd y Cynghorydd Clive Davies, Aelod Cabinet dros Economi ac Adfywio: “Bu ymateb anhygoel i Wobrau Caru Ceredigion eleni, gyda chymaint o geisiadau yn gwneud creu’r rhestr fer yn her wirioneddol i’r beirniaid. Mae’r rhestr fer eleni'n adlewyrchu’r talent, yr arloesedd a’r cydweithrediad cymunedol eithriadol ar draws Ceredigion. Llongyfarchiadau i bawb sydd wedi llwyddo i gyrraedd y cam nesaf. Rydym bellach yn edrych ymlaen at y noson sy’n argoeli i fod yn llwyddiant gwirioneddol.”
Mae rhestr lawn o'r cwmnïau ar y rhestr fer i'w gweld yma: Gwobrau Caru Ceredigion 2025 - Cyngor Sir Ceredigion
19/11/2025