Skip to main content

Ceredigion County Council website

Ceredigion county council logo

Cyhoeddi cynlluniau newydd ar gyfer dyfodol campws Llanbedr Pont Steffan

Mae Cyngor Sir Ceredigion a Phrifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant wedi rhannu mwy o fanylion am y cynnig i gynnal y ddarpariaeth addysgol ar gampws Llanbedr Pont Steffan, Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant.

Yn dilyn cyfres o drafodaethau rhwng y Cyngor a'r Brifysgol, mae cynlluniau cyffrous yn cael eu datblygu i ddarparu addysg alwedigaethol ôl-16 ar y campws, gyda phwyslais arbennig ar gyrsiau sy'n seiliedig ar sgiliau sy'n hanfodol i economi wledig Cymru, megis amaethyddiaeth, garddwriaeth, gastronomeg ac adeiladu.

Mewn datblygiad cysylltiedig sydd â’r bwriad o gefnogi cyrsiau amaethyddol a garddwriaethol, mae'r Cyngor wedi prynu fferm ger y campws.

Dywedodd y Cynghorydd Bryan Davies, Arweinydd Cyngor Sir Ceredigion: "Rydym yn falch o fod mewn sefyllfa yn awr i rannu'r cynlluniau cyffrous hyn. Rydym yn gwybod pa mor bwysig yw campws Llanbedr Pont Steffan i'r dref a'r gymuned ehangach. Ein huchelgais yw helpu i sicrhau dyfodol cynaliadwy i'r campws gan sicrhau ei fod yn parhau i wneud cyfraniad sylweddol i'r economi ranbarthol.

"Bydd y cyrsiau galwedigaethol yr ydym yn bwriadu eu cynnig yn ein galluogi i ddatblygu'r sgiliau sydd eu hangen i ddiwallu anghenion cyflogwyr ledled y rhanbarth. Mae gan y campws botensial sylweddol. Byddwn yn parhau i weithio gyda'r Drindod Dewi Sant i archwilio'r cyfle hwn a’r bwriad yw cynyddu ehangder y cyrsiau y gall y campws eu cefnogi dros y blynyddoedd nesaf. Mae'n bwysig bod dysgwyr yn gallu aros yn eu cymunedau i ddysgu a llwyddo yn y meysydd y maent wedi’u dewis, yma yng Ngheredigion."

Dros y tair blynedd nesaf, bwriedir darparu amrywiaeth o gyrsiau galwedigaethol a rhaglenni sy'n seiliedig ar sgiliau ar gampws Llanbedr Pont Steffan. Bydd y Cyngor hefyd yn ystyried y posibiliadau ynghylch darparu cyfleusterau cymunedol ychwanegol ar y safle.

Ni fydd cyrsiau Safon Uwch yn cael eu darparu ar y campws, ac felly ni fydd y campws yn cystadlu â’r ddarpariaeth academaidd a gynigir yn chweched dosbarth ysgolion y sir.

Dywedodd Emlyn Dole, Cadeirydd Cyngor Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant: "Mae Grŵp Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant, sy'n cynnwys Coleg Ceredigion, yn falch o fod yn gweithio gyda Chyngor Sir Ceredigion ar y cyfle cyffrous hwn ar gyfer campws Llanbedr Pont Steffan. Mae'r cynllun a gyhoeddwyd heddiw yn adlewyrchu ein huchelgais ar y cyd i adeiladu dyfodol mwy disglair i Lanbedr Pont Steffan, un sy'n canolbwyntio ar greu cyfleoedd addysg a dysgu newydd, cryfhau cysylltiadau cymunedol a chefnogi'r economi wledig.

"Bydd y prosiect hwn hefyd yn sicrhau mwy o integreiddio rhwng y campws a thref Llanbedr Pont Steffan, ac nid oes gennyf unrhyw amheuaeth y bydd cydleoli nifer sylweddol o ddysgwyr ôl-16 ar y campws yn cael effaith gadarnhaol ar yr economi leol. Rydym yn ddiolchgar am gefnogaeth y Cyngor ac rydym yn edrych ymlaen at ddod â'r weledigaeth hon yn fyw."

Bydd cyfres o gyfarfodydd cyhoeddus yn cael eu cynnal yn ystod y misoedd nesaf i drafod y cynlluniau ac i ystyried sut y maent yn cyd-fynd â’r syniadau a gyflwynwyd gan Gyngor Tref Llanbedr Pont Steffan a'r Grŵp Rhanddeiliaid Allweddol y mae’r Brifysgol wedi’i gynnull.