Skip to main content

Ceredigion County Council website

Ceredigion county council logo

Cyhoeddi canlyniadau TGAU a BTEC

Mae’r canlyniadau BTEC a TGAU a gyhoeddwyd heddiw gan CBAC yn dangos bod ysgolion Ceredigion yn cyrraedd safonau uchel.

Mae 98% o’r ymgeiswyr a safodd arholiadau CBAC wedi derbyn graddau A*-G; 69% wedi ennill graddau A*-C a 21% wedi ennill graddau A*-A.

Dywedodd y Cynghorydd Wyn Thomas, yr Aelod Cabinet dros Ysgolion, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau: “Gall disgyblion Ceredigion ymfalchïo yn eu canlyniadau eto eleni. Mae angen hefyd llongyfarch a diolch i arweinwyr ein hysgolion, yr athrawon, y cynorthwywyr a’r Llywodraethwyr am eu gwaith caled, eu dygnwch a’u harbenigedd. Hoffwn ddymuno pob lwc i bawb gyda’u dewisiadau am y dyfodol, pa bynnag lwybr byddwch yn ei ddilyn."

Mae’r tabl canlynol yn nodi’r ffigurau cymharol. Nid yw’r canlyniadau hyn yn cynnwys Bagloriaeth Cymru. Mae ffigurau Cymru yn cynnwys pob bwrdd arholi tra bod ffigurau Ceredigion yn cynnwys CBAC yn unig.

 

Ceredigion

Cymru

 

Gradd A*-A

21%

20%

Gradd A*-C

69%

62%

Gradd A*-G

98%

97%

 

Ychwanegodd Elen James, Prif Swyddog Addysg: “Mae’r canlyniadau TGAU yn ganmoladwy a chadarnhaol iawn unwaith eto eleni ac yn dyst i ymroddiad a gwaith caled ein pobl ifanc ni. Llongyfarchiadau mawr i’r dysgwyr ar eu hymdrechion cydwybodol. Mae ymrwymiad ag ymdrechion yr athrawon a’r staff, ynghyd â chymorth a chefnogaeth y rhieni/gwarchodwyr, i sicrhau llwyddiant i bob un disgybl i’w gydnabod a’i ddathlu.

Mae Ceredigion yn awyddus i weld pob un o’n pobl ifanc yn llwyddo ac yn ffynnu a dymunwn y gorau i bob un o’r dysgwyr wrth iddynt gymryd y camau nesaf cyffrous yn eu gyrfaoedd, boed hynny wrth iddynt ddychwelyd i’r chweched dosbarth, dilyn cwrs yn y coleg, cwrs prentisiaeth neu’n ymuno â’r byd gwaith.”

Dymuniadau gorau i’r holl ddisgyblion i’r dyfodol.