Skip to main content

Ceredigion County Council website

Cwrs i wella sgiliau TG ymhlith y diwydiant amaethyddol

Bydd Dysgu Bro, gwasanaeth hyfforddi a ddarperir gan Gyngor Sir Ceredigion, nawr yn cynnig cwrs sgiliau digidol newydd ar-lein fel rhan o Fframwaith Darparwyr Cyswllt Ffermio.

Bydd Fframwaith Darparwyr Cyswllt Ffermio yn galluogi Dysgu Bro i gynnig cyrsiau hyfforddi o ansawdd uchel y gellir eu cwblhau drwy gyllid Cyswllt Ffermio, yn amodol ar gymhwysedd a chymeradwyaeth y cais.

Fel rhan o'r fenter hon, bydd Dysgu Bro yn cyflwyno'r Cwrs Ychwanegol Ardystiad Rhyngwladol Llythrennedd Digidol ar-lein yn wythnosol. Mae hwn yn gymhwyster sgiliau digidol a gydnabyddir yn fyd-eang sydd wedi'i gynllunio i wella hyfedredd TG yn y sectorau amaethyddol a busnes gwledig. Mae'r cwrs hwn yn ategu Cyrsiau Cymorth Cyntaf achrededig presennol Dysgu Bro, gan sicrhau bod cymunedau ffermio yn cael mynediad at sgiliau achub bywydau hanfodol a hyfforddiant llythrennedd digidol. 

Mae cyllid Cyswllt Ffermio wedi’i gynllunio i gefnogi datblygiad proffesiynol o fewn y diwydiant amaethyddol, gan helpu ffermwyr a thirfeddianwyr i gael mynediad at gyfleoedd hyfforddi gwerthfawr. Gall unigolion cymwys wneud cais am gyllid i gefnogi eu cyfranogiad yn y cyrsiau hyn, gan eu harfogi â’r sgiliau angenrheidiol i wella eu busnes a’u datblygiad personol. 

Dywedodd y Cynghorydd Wyn Thomas, Aelod Cabinet dros Ysgolion a Dysgu Gydol Oes: “Mae’n wych bod Dysgu Bro bellach yn gallu cynnig y cwrs hwn fel rhan o Fframwaith Darparwyr Cyswllt Ffermio ynghyd â chyrsiau eraill sy’n cefnogi twf a gwytnwch ein cymunedau ffermio. Mae’n bwysig i’r byd amaeth gael y cyfle i fanteisio ar y dechnoleg ddiweddaraf i’w helpu i symud ymlaen, gan wella eu gweithrediadau busnes a diogelwch ar y fferm.” 

I gofrestru ar gyfer y cwrs ychwanegol Ardystiad Rhyngwladol Llythrennedd Digidol, neu i gael rhagor o wybodaeth am gyrsiau eraill Dysgu Bro, cysylltwch ag admin@dysgubro.org.uk neu ffoniwch 01970633040. Cyn i chi allu gwneud cais am hyfforddiant a ariennir, mae angen i chi fod wedi cofrestru gyda Cyswllt Ffermio.

Mae Dysgu Bro wedi ymrwymo i ddarparu cyfleoedd dysgu gydol oes ar gyfer unigolion ledled y rhanbarth. Gyda phwyslais cryf ar ddatblygu sgiliau a hyfforddiant proffesiynol, mae Dysgu Bro yn cefnogi cymunedau i gyrraedd eu nodau addysgiadol a chyflogaeth.