Skip to main content

Ceredigion County Council website

Ceredigion county council logo

Cwblhau gwelliannau i lwybr teithiol llesol mewn pryd ar gyfer Wythnos Llyfrgelloedd Gwyrdd

Yn sgil cwblhau'r gwaith adeiladu, bydd y llwybr rhwng Llanbadarn Fawr a Llyfrgell Genedlaethol Cymru ar gael i'w defnyddio unwaith eto, a hynny mewn pryd ar gyfer Wythnos Llyfrgelloedd Gwyrdd (27 Hydref – 02 Tachwedd).

Mae rhwystrau wedi'u tynnu o'r llwybr poblogaidd hwn i wella mynediad, ac mae'r llwybr wedi'i ledu gydag arwyneb llyfn newydd gan ei wneud yn addas i feicwyr a cherddwyr rannu’r llwybr.

Mae'r llwybr newydd wedi’i orchuddio gan ‘flexipave’, sef ddefnydd mân-dyllog sy’n caniatáu dŵr arwyneb i gael ei amsugno i ffwrdd. Mae'r deunydd hwn wedi'i wneud o deiars cerbydau wedi'u hailgylchu ac mae'r prosiect wedi helpu i arbed dros 2,100 o deiars rhag mynd i wastraff neu gael eu llosgi. Cyflawnwyd y cynllun hwn gan Afan Construction, contractwr lleol sy'n gweithio ar ran Cyngor Sir Ceredigion. Mae swyddogion o Wasanaeth Priffyrdd ac Amgylchedd y Cyngor wedi gweithio mewn partneriaeth ag Adran Ystadau Llyfrgell Genedlaethol Cymru i ddatblygu a chyflawni'r cynllun ecogyfeillgar hwn.

Dywedodd y Cynghorydd Shelley Childs, Aelod Cabinet Cyngor Sir Ceredigion dros Briffyrdd a Gwasanaethau Amgylcheddol: “Mae’r cynllun teithio llesol hwn yn ganlyniad i swyddogion Cyngor Sir Ceredigion yn sicrhau cyllid grant o Gronfa Teithio Llesol Llywodraeth Cymru, gyda chefnogaeth gan Trafnidiaeth Cymru. Nid yn unig y mae hyn yn gwella hygyrchedd i Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Champws Penglais Prifysgol Aberystwyth, ond mae hefyd yn rhan o gynigion cysylltedd llwybrau beicio ehangach i helpu i gysylltu cymunedau Bow Street, Penrhyn-coch a Chomins Coch â chanol tref Aberystwyth. Mae swyddogion y Cyngor yn parhau i ddatblygu cynigion ar gyfer camau yn y dyfodol yn barod ar gyfer eu cyflwyno i ddarparu gwelliannau parhaus o flwyddyn i flwyddyn i’r rhwydwaith teithio llesol”.

Ychwanegodd Dr Rhodri Llwyd Morgan, Prif Weithredwr Llyfrgell Genedlaethol Cymru: “Mae’r llwybr newydd yn edrych yn wych, ac rydym yn falch ei fod wedi ailagor ar gyfer Wythnos Llyfrgelloedd Gwyrdd sy’n arddangosfa a dathliad blynyddol o’r hyn sydd gan lyfrgelloedd i’w cynnig, gyda ffocws ar yr hinsawdd a chynaliadwyedd. Mae’r llwybr hwn wedi darparu cysylltiad llawer gwell yn uniongyrchol â’n prif adeilad, gyda chysgodfannau parcio beiciau ar gael i staff ac ymwelwyr. Mae ein hymdrechion parhaus tuag at ddadgarboneiddio yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn enghraifft o’n hymrwymiad i gyflawni targed sero net erbyn 2028. Bydd gosod y llwybr teithio llesol hwn yn cyfrannu’n sylweddol at yr amcanion hyn trwy hyrwyddo dulliau trafnidiaeth carbon is.”

I gael rhagor o wybodaeth am deithio llesol yng Ngheredigion, ewch i’r dudalen ar wefan y Cyngor, sy’n cynnwys fideo 3D o gynigion ar gyfer teithio llesol yn ardal Aberystwyth: Teithio Llesol Ceredigion

 

#
#
#