Ceredigion yn ehangu ar y cymorth ar gyfer rhyddhau cleifion o’r ysbyty a gofal cymunedol
Mae Tîm Porth Gofal Cyngor Sir Ceredigion yn cael ei ehangu i leihau oedi i breswylwyr sy'n barod i adael yr ysbyty ond sydd angen cymorth gofal.
Mae'r Cyngor wedi sicrhau £726,503 mewn cyllid rheolaidd o Gronfa Trawsnewid Llwybrau Gofal Llywodraeth Cymru, sy'n cael ei ddefnyddio i recriwtio staff gofal cymdeithasol ychwanegol a chryfhau gwasanaethau sy'n cefnogi rhyddhau cleifion o'r ysbyty yn amserol, osgoi derbyniadau i'r ysbyty a byw'n annibynnol gartref.
Bydd y rolau newydd yn cynnwys gweithwyr cymdeithasol, therapyddion galwedigaethol, cydlynwyr, a chynorthwywyr gofal, a bydd rhai ohonynt wedi'u lleoli'n uniongyrchol mewn lleoliadau ysbyty ym Mronglais (Aberystwyth) a Glangwili (Caerfyrddin). Bydd y staff hyn yn helpu i gydlynu asesiadau cymhleth, darparu cynllunio a chymorth rhyddhau, a sicrhau bod pecynnau gofal ar waith ar gyfer cleifion sy'n feddygol addas i adael yr ysbyty.
Mae'r cyllid hefyd yn galluogi'r Cyngor i wneud y canlynol:
- Ehangu a Galluogi Gofal drwy Dechnoleg (TEC) , gan gynnwys 100 o asesiadau a gomisiynwyd trwy “Just Checking”.
- Cynyddu capasiti galluogi i leihau dibyniaeth ar ofal a chefnogi annibyniaeth.
- Datblygu rôl yr Asesydd Dibynadwy i symleiddio darpariaeth offer a phecynnau gofal lefel isel.
- Cynnig ystod o gymelliadau a thaliadau cadw i wneud y mwyaf o becynnau gyda Darparwyr Gofal Cartref.
- Uwchsgilio gofalwyr uwch ac arweinwyr tîm i wella llif y gwasanaeth a lleihau oedi.
Mae Ceredigion hefyd yn buddsoddi mewn mesurau ataliol, er enghraifft gwell cymorth therapi galwedigaethol a gwell mynediad at gyngor drwy Ganolfan Byw'n Annibynnol Penmorfa yn Aberaeron, gan helpu i leihau derbyniadau i'r ysbyty a gwella canlyniadau i breswylwyr.
Mae dull y Cyngor yn hyrwyddo fframwaith cydgysylltiedig rhwng iechyd a gofal cymdeithasol, gyda staff ysbyty yn hwyluso trafodaethau cynnar, yn tywys teuluoedd trwy brosesau rhyddhau, ac yn cefnogi’r broses o wneud penderfyniadau cymhleth.
Dywedodd y Cynghorydd Alun Williams, Dirprwy Arweinydd y Cyngor ac Aelod Cabinet Ceredigion dros Gydol Oes a Llesiant: "Mae'r cyllid hwn yn ein galluogi i wneud cynnydd gwirioneddol o ran mynd i'r afael ag oedi wrth ryddhau o'r ysbyty a gwella gofal cymunedol. Trwy ymgorffori gweithwyr gofal cymdeithasol proffesiynol o fewn timau ysbytai a buddsoddi mewn gwasanaethau ataliol, rydym yn adeiladu system fwy ymatebol a gwydn sy'n rhoi annibyniaeth a lles pobl yn gyntaf."
Mae'r Gronfa Trawsnewid Llwybrau Gofal yn rhan o fenter flynyddol gwerth £30 miliwn gan Lywodraeth Cymru i gefnogi gofal cymdeithasol cymunedol ledled Cymru.
I gael rhagor o wybodaeth am weithio ym maes gofal cymdeithasol yng Ngheredigion, ewch i Gofal Cymdeithasol | Ceredigion County Council Careers
Mae gwybodaeth pellach am sut i fanteisio ar gymorth ar gael yma: Lles a Gofal | Cyngor Sir Ceredigion