Ceredigion ymhlith y gorau yn nhabl perfformiad Awdurdod Lleol Cymru
Mae Proffil Perfformiad yr Awdurdod Lleol, sy'n cymharu pa mor dda y mae pob Awdurdod Lleol yng Nghymru yn perfformio, yn dangos bod Cyngor Sir Ceredigion yn hanner uchaf holl Gynghorau Cymru gyda 25 allan o 34 o fesurau perfformiad allweddol.
Mae'r data, a luniwyd gan Data Cymru, yn dangos bod Cyngor Sir Ceredigion wedi perfformio'n eithriadol o dda mewn meysydd fel:
- Cyrhaeddiad addysgol
- Pobl sy'n gadael yr ysgol sydd mewn cyflogaeth, hyfforddiant neu addysg bellach
- Atal digartrefedd
- Cymorth i wella cartrefi
- Lefelau isel o dipio anghyfreithlon
- Canran y gwastraff trefol sy'n cael ei ailddefnyddio, ei ailgylchu neu ei gompostio
- Canran y disgyblion sy’n dysgu Cymraeg fel iaith gyntaf
O'i gymharu â'r 21 awdurdod lleol arall yng Nghymru, Ceredigion sydd â'r ail nifer uchaf o fesurau perfformiad yn y 25% uchaf, a'r nifer uchaf o fesurau perfformiad ar y cyd yn y 50% uchaf. Mae'r canlyniadau hyn yn rhoi Ceredigion fel un o'r awdurdodau lleol sy'n perfformio orau yn genedlaethol fel y'i mesurir gan Broffil Perfformiad yr Awdurdod Lleol a ddatblygwyd gan Data Cymru.
Mae'r canlyniadau hyn hefyd yn dangos y cyfraniad pwysig y mae ein preswylwyr yn ei wneud i'n cymuned, ac yn dangos y gwaith rhagorol a gyflawnwyd gan Dîm Ceredigion, sy'n cynnwys Aelodau'r Cabinet, Aelodau Etholedig a Swyddogion.
Er gwaethaf yr heriau sylweddol y mae Ceredigion yn eu hwynebu drwy fod yn un o'r awdurdodau sy’n derbyn y cyllid isaf, ynghyd â'r heriau sy'n ymwneud â’r ardal wledig a'r boblogaeth fras, mae'r canlyniadau hyn yn dystiolaeth werthfawr bod y Cyngor nid yn unig yn arfer ei swyddogaethau'n effeithiol, ond hefyd yn gwneud y defnydd gorau o'r adnoddau sydd ar gael.
Cafodd canlyniadau'r Proffil, eu hystyried gan y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu yn ei gyfarfod a gynhaliwyd ar 16 Ionawr 2025, ochr yn ochr â chanlyniadau'r Arolwg Cenedlaethol o Breswylwyr a gynhaliwyd yn ystod Haf 2024. Nododd yr Aelodau fod datgysylltiad rhwng y canfyddiad a gyflëwyd gan breswylwyr drwy'r Arolwg Cenedlaethol Preswylwyr, gyda chanlyniadau Proffil Perfformiad yr Awdurdod Lleol a chanfyddiadau adroddiad Hunanasesiad Ceredigion a ystyriwyd gan y Cabinet yn gynharach y mis hwn.
Mae'r Proffil yn dangos mai Cyngor Sir Ceredigion yw'r 4ydd gorau yng Nghymru o ran canran y gwastraff trefol sy'n cael ei ailddefnyddio, ei ailgylchu neu ei gompostio a bod y Cyngor yn y 5ed safle gorau yng Nghymru o ran y nifer isel o ddigwyddiadau tipio anghyfreithlon a gofnodwyd (fesul 1,000 o'r boblogaeth). Fodd bynnag, roedd 61% o'r bobl a atebodd yr Arolwg Cenedlaethol Preswylwyr yn anghytuno'n gryf neu anghytuno ychydig â'r datganiad "mae fy ardal leol yn derbyn gofal da." Roedd 35% o bobl yn cytuno'n gryf neu ychydig â'r datganiad, "mae gan fy ardal leol amgylchedd glân" a dim ond 32% o bobl oedd yn fodlon iawn neu'n weddol fodlon â darpariaeth rheoli gwastraff y Cyngor.
Mae tri chwarter cyllideb y Cyngor yn cael ei wario ar Addysg, Gofal Cymdeithasol a Phriffyrdd a Gwasanaethau Amgylcheddol. Fel rhan o’r Arolwg Cenedlaethol Preswylwyr, gofynnwyd i bobl am werth am arian ac ansawdd y gwasanaethau a ddarperir gan y Cyngor. Canfu'r Arolwg Cenedlaethol Preswylwyr nad yw 76% o bobl yn credu bod y Cyngor yn darparu gwasanaethau o ansawdd uchel ac nad yw 81% yn credu bod y Cyngor yn darparu gwasanaethau sy'n cynrychioli gwerth am arian.
Fodd bynnag, mae data Proffil Perfformiad yr Awdurdod Lleol yn rhoi Ceredigion yn y 5ed orau yng Nghymru o ran canran y rhai sy'n gadael ysgol Blwyddyn 11 nad ydynt mewn Addysg, Cyflogaeth na Hyfforddiant; a'r 5ed gorau yng Nghymru o ran canran y dysgwyr sy'n cyflawni 3 neu fwy o Safon Uwch ar A* i C. Ceredigion yw'r 4ydd gorau yng Nghymru o ran canran yr aelwydydd sy'n llwyddo i gael eu hatal rhag digartrefedd.
Dywedodd y Cynghorydd Bryan Davies, Arweinydd y Cyngor: “Mae canlyniadau'r Proffil Perfformiad Lleol annibynnol hwn yn atgyfnerthu canfyddiadau Hunanasesiad Ceredigion. Mae'n braf cael sicrwydd drwy ddarn allanol o waith bod Cyngor Sir Ceredigion yn gwneud mor dda mewn sawl maes. Mae Arolwg Cenedlaethol Preswylwyr hefyd wedi rhoi cipolwg hynod werthfawr i ni ar y materion sy'n peri pryder i'n preswylwyr. Mae datgysylltiad clir rhwng canfyddiadau’r arolwg a chanfyddiadau adroddiadau perfformiad annibynnol, a allai fod yn rhannol oherwydd yr heriau ariannol sy'n wynebu pob Awdurdod Lleol, yn ogystal â’r ffaith ein bod wedi cynnal ymgynghoriadau ar yr adeg pan oedd y Cyngor yn ystyried arbedion posibl i gyllideb y Cyngor. Fodd bynnag, mae'n bwysig nodi ein bod ni fel Cyngor yn gofyn sut mae preswylwyr yn teimlo am ein gwasanaethau, a byddwn yn adolygu unrhyw faterion penodol a godwyd yn yr arolwg er mwyn gwella'r gwasanaethau y gallwn eu darparu.”
“Mae cynnal gwasanaethau o safonnau uchel mewn cyfnod sy’n gynyddol heriol o ran y gyllideb yn bwysig iawn i ni fel Aelodau’r Cabinet, ac rydym yn cydweithio’n agos gyda’r swyddogion er mwyn ceisio dulliau arloesol i gyflawni ein hamcanion. Diolch hefyd i Aelodau’r Pwyllgorau Trosolwg a Chraffu sydd wedi craffu’r data yn fanwl gyda chefnogaeth swyddogion, gan gyflwyno eu hargymhellion i’r Cabinet. Mae cyd-weithio yn elfen hanfodol y waith y Cyngor, sydd wedi cyfrannu’n bendant i’n llwyddiant.”