Skip to main content

Ceredigion County Council website

Ceredigion wedi derbyn canmoliaeth uchel gan Banel Perfformiad annibynnol

Yn ystod cyfarfod y Cabinet a gynhaliwyd ar 21 Ionawr 2025, ystyriwyd adroddiad Asesiad Perfformiad Panel annibynnol y Cyngor, sy’n atgyfnerthu canfyddiadau positif y Proffil Perfformiad Awdurdodau Lleol a gynhyrchwyd gan Data Cymru, arolygon diweddar Estyn a Gofal Cymdeithasol, ac Adroddiad hunan asesiad Cyngor Sir Ceredigion.

Ceredigion yw un o'r cynghorau sir cyntaf yng Nghymru i gael eu hasesu, ac mae'r canlyniadau'n rhoi sicrwydd i'r cyhoedd bod Ceredigion yn awdurdod sy'n cael ei redeg yn dda. Gellir gweld yr adroddiad llawn yma: https://www.ceredigion.gov.uk/media/3uucxtmi/asesiad-perfformiad-panel.pdf

Cyflwynwyd y drefn newydd o gynnal Panel Perfformiad gan ddeddfwriaeth Llywodraeth Cymru. Mae’n ei gwneud yn ofynnol i gynnal Asesiad Perfformiad Panel unwaith ym mhob cylch etholiad er mwyn rhoi persbectif annibynnol ac allanol ar sut mae’r Cyngor yn bodloni gofynion perfformiad. Rhaid i’r asesiad ystyried os yw’r Cyngor yn arfer ei swyddogaethau’n effeithiol, defnyddio’u adnoddau’n ddarbodus, effeithlon ac effeithiol, a bod trefniadau llywodraethu effeithiol yn eu lle ar gyfer sicrhau hyn.

Cynhaliwyd yr Asesiad gan banel o gyfoedion hyfforddedig ar draws y sectorau cyhoeddus, preifat a gwirfoddol a ddaeth i’r casgliadau canlynol:

Gan ystyried y galwadau uchel presennol ar wasanaethau a'r pwysau ariannol heriol iawn, mae Cyngor Sir Ceredigion yn awdurdod lleol sy'n cael ei redeg yn dda.

  • Mae gan y Cyngor arweinyddiaeth glir ac effeithiol gyda pherthnasoedd cryf ar draws y weithrediaeth wleidyddol a swyddogion a'r strwythurau ehangach a bod y Cyngor yn cyflawni ei swyddogaethau'n effeithiol yng ngoleuni'r pwysau ariannol, strategol a gweithredol sylweddol y mae'r Cyngor yn delio â o ddydd i ddydd.
  • Mae gan y Cyngor drefniadau llywodraethu ac adrodd effeithiol ar waith ond mae cyfle i gryfhau ymhellach y berthynas rhwng gweithrediaeth y Cyngor ac aelodau mainc gefn yn y prosesau gwneud penderfyniadau a’r blaenoriaethau y bydd angen i’r Cyngor eu cymryd wrth symud ymlaen.
  • Mae'r Cyngor wedi sefydlu ac yn datblygu meysydd arloesi gan gynnwys Canolfannau Lles, TGCh, a gweithio hybrid.
  • Mae cyfleoedd ar gyfer gwella wedi'u nodi, a fydd yn gwella'r trefniadau sydd ar waith, i gefnogi cyfathrebu effeithiol, rheoli perthnasoedd a pherchnogaeth gyfunol o heriau'r presennol a'r dyfodol.

Mae’n ofynnol i’r panel cyfoedion nodi argymhellion y gallai’r Cyngor eu cymryd er mwyn gwella ei berfformiad ymhellach. Fe fydd yr argymhellion yn cael eu hystyried nawr a bydd ymateb yn cael ei gyflwyno i’r Pwyllgor Archwilio a Llywodraethu a’r Cabinet yn fuan.

Dywedodd y Cynghorydd Bryan Davies, Arweinydd y Cyngor: “Mae canlyniadau'r panel perfformiad annibynnol hwn yn galonogol iawn.  Cafwyd asesiad trylwyr iawn gan banel allanol o gyfoedion sydd yn rhoi sicrwydd i ni fod ein gweithdrefnau’n effeithiol a bod y cyngor yn cael ei redeg yn dda. Cafwyd canmoliaeth uchel iawn i’r cynlluniau arloesol sydd wedi’u cyflwyno gan Gyngor Sir Ceredigion gan gynnwys gofal cymdeithasol, y ganolfan byw’n annibynnol, cymryd y cyfrifoldeb dros redeg Cartref Gofal Hafan y Waun gan gydweithio gyda’r Bwrdd Iechyd i ddarparu ward i gleifion sy’n gadael gofal ysbyty, technoleg gwybodaeth a gweithio hybrid effeithiol.  Nododd y panel y byddai’n fuddiol rhannu’r datblygiadau arloesol hyn gydag Awdurdodau eraill.  Hoffwn ddiolch yn fawr iawn i’r holl swyddogion ac am arweiniad y Cabinet yn ogystal a'r Aelodau sy'n craffu, sydd wedi cyfrannu i’r llwyddiant hyn sy’n destun balchder i bob un, ac yn dystiolaeth fod ethos tîm Ceredigion yn gweithio’n dda”.