Skip to main content

Ceredigion County Council website

Ceredigion i gymryd rhan mewn cynllun newydd, arloesol yn ei nod i gyflawni Carbon Sero Net erbyn 2030

Bydd cynllun newydd a ariennir gan Lywodraeth Cymru i osod mannau gwefru cerbydau trydan ar y stryd i breswylwyr yn cael ei dreialu gan Gyngor Sir Ceredigion o fis Mawrth/Ebrill eleni.

Bydd y Cyngor yn dewis tri lleoliad yn Aberystwyth ar gyfer treialu yn dilyn cynnal archwiliad daear. Bydd cyfanswm o 18 pwynt gwefru cerbydau trydan yn cael eu gosod, gyda chwech ym mhob lleoliad. Byddwn yn ymgysylltu ac yn gweithio'n agos gyda'r trigolion yn yr ardaloedd treialu ac rydym yn awyddus i glywed gan drigolion mewn ardaloedd eraill a fyddai â diddordeb mewn cymryd rhan mewn unrhyw ffitiadau yn y dyfodol.

Mae gwerthiant cerbydau trydanol yn cynyddu'n raddol, fodd bynnag, ni fydd gan bob preswylydd fynediad a chyfleusterau i osod pwyntiau gwefru cerbydau trydanol preifat o'u heiddo eu hunain. Pe bai'r treial yn llwyddiannus, y fantais o’r cynllun hwn fydd cynorthwyo i ddiwallu anghenion preswylwyr ar hyn o bryd ac yn y dyfodol wrth iddynt droi'n raddol at gerbydau trydanol, gan ddileu unrhyw risg a pheryglon o geblau yn cael eu gosod ar draws ardaloedd palmant.

Daeth mandad cerbydau dim allyriadau Llywodraeth y DU i rym ym mis Ionawr 2024 ac mae'n ei gwneud yn ofynnol i 80% o geir newydd a 70% o faniau newydd a werthir ym Mhrydain fod yn sero allyriad erbyn 2030, gan gynyddu i 100% erbyn 2035. Yn ôl tablau data ystadegau trwyddedu cerbydau Gov.uk, cofrestrwyd 829 o gerbydau trydanol â phlwg yng Ngheredigion erbyn diwedd 2024. Os bydd perchnogaeth ceir yn parhau ar lefelau heddiw, bydd angen cynnydd cyflym yn y seilwaith gwefru trydanol. Mae sawl ardal o dai dwysedd uchel heb le parcio oddi ar y stryd yng Ngheredigion, er enghraifft, nid oes gan 23% o eiddo yn Aberystwyth fynediad at gyfleusterau gwefru cerbydau oddi ar y stryd.

Bydd y treial preswyl cychwynnol yn cael ei ddatblygu ar y cyd â 'Trojan Energy'. Mae’r pwyntiau gwefru hyn yn cael eu gosod yn y palmant, gan orffwys yn hollol wastad pan nad ydynt yn cael eu defnyddio.  O ganlyniad, nid ydynt yn achosi perygl o faglu, nac yn rwystr ar y stryd.  Mae pob pwynt gwefru yn darparu cyflymder gwefru o 22kWh, a fydd yn darparu dull cyfleus i breswylwyr sydd heb heol ar ymyl y tŷ i allu gwefru eu cerbydau trydan yn agos i’w cartref. Bydd y preswylwyr sy’n cymryd rhan yn y treial yn derbyn addasydd gwefru personol yn rhad ac am ddim. Bydd yr addasydd yn cysylltu eu cerbyd i’r pwynt gwefru ar y stryd ac yn galluogi bilio awtomatig, a fydd yn sicrhau fod gwefru’n hawdd ac yn ddiogel.

Mae Cyngor Sir Ceredigion hefyd wedi llwyddo i sicrhau cyllid gan Lywodraeth Cymru i ddatblygu treial pellach gyda 'Connected Kerb' ar gyfer gwefru cerbydau trydan ar ffurf postyn parhaol gydag asesiad ar gyfer safleoedd o amgylch Ceredigion i'w defnyddio’n gyffredinol gan drigolion a'r cyhoedd. Bydd y postyn parhaol ‘Chameleon’ 7 cilowat heb fod yn amlwg o ran ei ymddangosiad ar y stryd, ac fe fydd yn hygyrch i bob defnyddiwr cerbydau trydanol.

Mae'r datblygiad hwn yn cael ei weithredu mewn ymateb i benderfyniad unfrydol y Cyngor ar 5 Mawrth 2020 i gefnogi datganiad o argyfwng hinsawdd byd-eang, gan ymrwymo'r Cyngor i gyflawni Carbon Sero Net erbyn 2030. Cyflwynwyd cynllun gweithredu Sero Net i bwyllgor Craffu ar 25 Mai 2021, a'i gymeradwyo gan y Cabinet ar 15 Mehefin 2021.

Yn dilyn hyn, mabwysiadodd y Cabinet Strategaeth a Chynllun Gweithredu Cerbydau Allyriadau Isel Iawn Cyngor Sir Ceredigion ym mis Mawrth 2022.

Mae Cyngor Ceredigion wedi lleihau ei allyriadau carbon ers 2007 pan lansiodd y Cyngor ei Gynllun Rheoli Carbon pum mlynedd am y tro cyntaf. Ers hynny, mae'r Cyngor wedi rhagori ar ei dargedau lleihau carbon ac adroddwyd ffigwr o leihau allyriadau gan 60.78% ar gyfer 2023/24.

Mae'r Cynghorydd Keith Henson, Aelod Cabinet Ceredigion ar faterion Priffyrdd a Gwasanaethau Amgylcheddol a Rheoli Carbon wedi chwarae rhan allweddol wrth hyrwyddo'r her Carbon Sero Net, trwy gadeirio cyfarfodydd rheolaidd o'r grŵp Carbon Sero Net a lobïo Llywodraeth Cymru i ddarparu cyllid i ddatblygu gwahanol gynlluniau er mwyn lleihau allyriadau. Gwnaed gwelliannau i adeiladau annomestig, goleuadau stryd effeithlon o ran ynni a cherbydau fflyd er mwyn lleihau allyriadau, ac mae datblygiadau o ran cyfarfodydd rhithiol a hybrid hefyd wedi cyfrannu at ostyngiad sylweddol mewn milltiroedd busnes a deithir.

Dywedodd y Cynghorydd Keith Henson: "Dyma'r diweddaraf mewn rhestr hir o brosiectau cyffrous ac arloesol i leihau ein hallyriadau ac i gyflawni Carbon Sero Net. Rydym yn aros am ganlyniad ceisiadau pellach am gyllid ar gyfer 2025/26, ac os y byddwn yn llwyddiannus, bydd y treialon hyn yn darparu cyfoeth o wybodaeth a phrofiad i ni er mwyn llywio datblygiad yn y dyfodol ac ehangu'r cynllun hwn i ardaloedd eraill yng Ngheredigion."