Skip to main content

Ceredigion County Council website

Ceredigion county council logo

Cerddwyr Aberystwyth Ramblers yn rhoi clwydi i gefnogi gwelliannau i lwybrau cyhoeddus

Efallai y bydd cerddwyr sydd wedi bod yn crwydro llwybrau ardal Aberystwyth dros y blynyddoedd diwethaf wedi sylwi ar gatiau newydd a phlaciau’n nodi gwelliannau ar hyd y llwybrau. Mae’r gwelliannau hyn yn rhan o ymdrech ehangach i wneud cefn gwlad yn fwy hygyrch, ac mae stori am ymroddiad cymunedol yn perthyn i lawer ohonynt.

Mae Tîm Hawliau Tramwy Cyhoeddus Cyngor Sir Ceredigion wedi bod yn cydweithio â gwirfoddolwyr ers dros 30 mlynedd i gynnal a gwella llwybrau cerdded ar draws y sir. Mae llawer o’r gwirfoddolwyr hyn yn aelodau o grwpiau cerdded lleol, ac mae eu cefnogaeth wedi bod yn amhrisiadwy.

Yn ddiweddar, mae Cerddwyr Aberystwyth Ramblers wedi mynd gam ymhellach drwy gyfrannu arian a godwyd o werthiant eu llyfr poblogaidd, Teithiau Cerdded o amgylch Aberystwyth a Chwm Rheidol. Ysgrifennwyd y llyfr gan aelodau’r grŵp, ac mae’r elw wedi cael ei ddefnyddio i brynu deunyddiau ac offer, gan gynnwys clwydi, i uwchraddio’r llwybrau a nodir yn y llyfr. Yn ogystal, mae nifer o’r aelodau wedi cymryd rhan yn y gwaith ymarferol roi’r gwelliannau yn eu lle.

Mae cyfnewid camfeydd am glwydi yn gwneud llwybrau’n fwy hygyrch i bobl o bob oed a gallu. Mae clwydi newydd wedi’i huwchraddio hefyd yn gwella profiad y cerddwr, gan annog mwy o bobl i fwynhau’r awyr agored. Mae cael mynediad at natur a mannau gwyrdd wedi’i gydnabod ers tro fel rhywbeth sy’n hanfodol i iechyd corfforol a meddyliol.

Dywedodd y Cynghorydd Clive Davies, Aelod Cabinet Ceredigion dros yr Economi, Adfywio a Rheoli Carbon: “Mae Cerddwyr Aberystwyth Ramblers nid yn unig yn cefnogi ein tîm bach yn ardal Aberystwyth gyda chynnal llwybrau, ond maent wedi mynd gam ymhellach drwy godi arian drwy werthiant eu llyfr. Diolch i’w haelioni o ran amser, ymdrech ac arian, rydym wedi gallu uwchraddio ac adnewyddu llawer o gamfeydd a gatiau yn Aberystwyth a’r cyffiniau.”

I gael rhagor o wybodaeth am hawliau tramwy cyhoeddus, sut i roi clwydi, a llwybrau i'w darganfod yng Ngheredigion, ewch i'n gwefan: Hawliau Tramwy Cyhoeddus - Cyngor Sir Ceredigion