Skip to main content

Ceredigion County Council website

Ceredigion county council logo

Ceisiadau Grantiau Cymunedol Ceredigion ar agor ar gyfer 2026/2027

Mae Cyngor Sir Ceredigion yn annog grwpiau cymunedol, eglwysi a chapeli, mudiadau gwirfoddol a dielw sy’n dymuno gwella ac ehangu’r ystod o gyfleusterau, gweithgareddau a chyfleoedd ar draws y sir i wneud cais i Gronfa Grant Cymunedol Ceredigion.

Gellir defnyddio’r grantiau ar gyfer:

  • Prynu a datblygu tir
  • Prynu adeiladau
  • Prynu offer
  • Uwchraddio cyfleusterau presennol

Mae dau fath o grant ar gael:

Grant Cyfalaf

  • Mae Cynllun Cyfalaf Grant Cymunedol Ceredigion ar agor ar gyfer ceisiadau.
  • Mae’r gronfa ar gyfer prosiectau a fydd yn cael eu cwblhau rhwng 1 Ebrill 2026 a 1 Mawrth 2027.
  • Mae’r grant yn gallu cyfrannu hyd at 50% o gost y prosiect neu’r swm sydd ei angen i ariannu diffyg ariannol, gyda’r uchafswm o £10,000.
  • Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau: 5pm, 1 Rhagfyr 2025

Grant Polisïau

  • Mae’r Grant Polisïau ar agor drwy’r flwyddyn, ond anogir ymgeiswyr i wneud cais cyn gynted â phosibl.
  • Mae’r grant hwn, a ariennir drwy Gronfa Eglwys Cymru (WCF), yn cefnogi digwyddiadau megis Eisteddfodau a Sioeau lleol.

Dywedodd y Cynghorydd Gareth Davies, Aelod Cabinet Ceredigion dros Wasanaethau Cyllid a Chaffael: “Mae'n bwysig bod grwpiau cymwys a'r digwyddiadau hyn yn cael cymorth ariannol sydd ei angen arnynt i sicrhau bod ein cymunedau'n parhau i ffynnu. Os yw eich sefydliadau yn cyd-fynd â'r meini prawf, ewch amdani a gwnewch gais am y grant."

Meini Prawf a Chymhwysedd:

Rhaid i bob cais ddangos bod y prosiect arfaethedig yn bodloni o leiaf un o’r amcanion yn y Strategaeth Gorfforaethol 2022–2027.

Pecynnau ymgeisio a gwybodaeth bellach ar gael yma.

Ebostiwch grantcymunedol@ceredigion.gov.uk am fwy o wybodaeth.

12/11/2025