Skip to main content

Ceredigion County Council website

Ceredigion county council logo

Buddsoddiad sylweddol yn trawsnewid cyfleusterau hamdden a llyfrgell Aberaeron

Cafwyd cyfle i ddathlu gwelliannau sylweddol i gyfleusterau hamdden a llyfrgell Aberaeron yn ystod ymweliad gan Jack Sargeant AS, y Gweinidog dros Ddiwylliant, Sgiliau a Phartneriaeth Gymdeithasol, ar 18 Rhagfyr 2025.

Canolfan Hamdden Syr Geraint Evans, Aberaeron

Mae Canolfan Hamdden Syr Geraint Evans, Aberaeron, sydd wedi gwasanaethu cymuned a disgyblion Ysgol Gyfun Aberaeron ers 1999, wedi cael ei hadnewyddu'n sylweddol yn ddiweddar. Cefnogwyd y prosiect gan grant Chwaraeon Cymru gan Lywodraeth Cymru, ochr yn ochr â chyllid gan Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU a Chyngor Sir Ceredigion.

Yn rhan o’r gwaith uwchraddio, cyflwynwyd llawr newydd, goleuadau LED, ac ailaddurno, yn ogystal â marciau llinell arloesol ar gyfer Boccia a Pickleball – y cyntaf mewn cyfleusterau a weithredir gan y Cyngor. 

Arweiniodd fuddsoddiad pellach at wella'r ystafell ffitrwydd a'r ystafell amlbwrpas, gan ddod â chyfanswm y buddsoddiad i £331,000. Bydd y gwelliannau hyn o fudd i bob defnyddiwr, gan gynnwys y rhai sy'n cael mynediad at raglenni ymyrraeth iechyd. 

#
#

Llyfrgell Aberaeron

 Ymwelodd y Gweinidog hefyd â Llyfrgell Aberaeron, sydd wedi symud yn ddiweddar i lawr gwaelod swyddfeydd y Cyngor ym Mhenmorfa. Cefnogwyd y symudiad gan Grant Cyfalaf Trawsnewid Llywodraeth Cymru gwerth £212,016, gan helpu i foderneiddio cyfleusterau a chreu canolfan gymunedol fywiog.

Ers ailagor ar 01 Tachwedd 2025, mae'r llyfrgell wedi croesawu 965 o ymwelwyr, wedi benthyca dros 2,000 o eitemau, ac wedi cynnal digwyddiadau poblogaidd fel lansiadau llyfrau, grwpiau darllen, a gweithgareddau teuluol. 

Mae'r gofod newydd yn cynnig oriau agor estynedig, ystafelloedd cyfarfod, a Gofod Gwneuthurwr, gan gryfhau ei rôl fel canolfan dysgu ac ymgysylltu.

 

#
#

Dywedodd Jack Sargeant AS, y Gweinidog Diwylliant, Sgiliau a Phartneriaeth Gymdeithasol: "Mae'n wych gweld sut mae buddsoddiad Llywodraeth Cymru yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i gymunedau yng Ngheredigion. Mae'r gwelliannau i Ganolfan Hamdden Syr Geraint Evans ac adleoli Llyfrgell Aberaeron yn dangos ein hymrwymiad i greu cyfleusterau modern, hygyrch sy'n gwasanaethu pawb. Mae'r prosiectau hyn yn dangos yr hyn y gellir ei gyflawni pan fydd gwahanol lefelau o lywodraeth yn cydweithio. Bydd y cyfleusterau hamdden newydd yn annog mwy o bobl i fyw bywydau egnïol ac iach, tra bod y llyfrgell wedi'i thrawsnewid eisoes yn profi i fod yn ganolfan fywiog ar gyfer dysgu, creadigrwydd a chysylltiad cymunedol. Mae buddsoddiadau fel y rhain yn ganolog i'n gweledigaeth ar gyfer Cymru – adeiladu cymunedau cryfach lle mae gan bawb fynediad at gyfleoedd diwylliannol, chwaraeon a dysgu rhagorol."

Ychwanegodd y Cynghorydd Catrin M S Davies, Aelod Cabinet dros Ddiwylliant, Hamdden a Gwasanaethau Cwsmeriaid: "Mae'r buddsoddiadau hyn yn ymwneud â mwy na brics a morter – maen nhw'n ymwneud â chreu mannau sy'n ysbrydoli ffyrdd iachach o fyw, dysgu gydol oes, a chymunedau cryfach. Mae'r prosiectau hyn yn adlewyrchu ein ymroddiad i sicrhau bod cymunedau Ceredigion mor gorfforol iach â phosib a hynny yn ei dro yn cyfrannu at lesiant y sir yn gyffredinol. 

19/12/2025