Blas ar y cyrsiau galwedigaethol sydd i ddod yn Llanbedr Pont Steffan
Mae datblygiadau cyffrous ar y gweill i ddarparu cyrsiau galwedigaethol ar Fferm Llettytwppa yn Llanbedr Pont Steffan.
Mae Fferm Llettytwppa, sydd bellach yn eiddo i’r Cyngor, yn gweddnewid i fod yn safle addysgu ar gyfer disgyblion sy’n dymuno dilyn cyrsiau sy’n gysylltiedig â’r sector amaethyddol a garddwriaethol.
Mae’r prosiect hwn yn rhan o weledigaeth ehangach i gefnogi economi wledig Ceredigion drwy ddarparu cyrsiau sy’n adlewyrchu anghenion y sector amaethyddol a’r diwydiannau cysylltiedig.
Bydd Fferm Llettytwppa yn chwarae rôl allweddol trwy ddarparu cyrsiau amaethyddol, garddwriaethol a chyrsiau ategol megis plygu perthi, defnyddio peiriannau yn ddiogel, mecaneg amaethyddol, amaethyddiaeth gynaliadwy ac ati, gan sicrhau bod dysgwyr yn datblygu’r sgiliau sydd eu hangen arnynt er mwyn aros yn eu cymunedau i ddysgu, byw a llwyddo.
Digwyddiad Ymgysylltu
Ar 03 Rhagfyr 2025, cynhaliwyd noson ymgysylltu gyda rhanddeiliaid allweddol o’r sector amaethyddol, gan gynnwys yr undebau amaethyddol, CFfI, busnesau lleol, ffermwyr lleol, pobl ifanc sydd â diddordeb mewn amaeth ac aelodau o’r gymuned leol.
Dywedodd y Cynghorydd Bryan Davies, Arweinydd Cyngor Sir Ceredigion: “Mae’r digwyddiad hwn wedi dangos pa mor bwysig yw cydweithio gyda’r sector amaethyddol i lunio cyfleoedd dysgu sy’n berthnasol ac yn ymarferol. Roedd yn gyfle gwych i rannu syniadau a chasglu adborth ar y cynlluniau newydd. Mae sefydlu Fferm Llettytwppa fel lleoliad i gynnig cyrsiau a phrofiadau ymarferol i bobl ifanc a dysgwyr gydol-oes Ceredigion, a hynny o fewn y sir, yn hollbwysig. Rydym yn awyddus i sicrhau bod y cynlluniau’n adlewyrchu anghenion y diwydiant ac yn rhoi’r sgiliau perthnasol i’n pobl ifanc.”
Diwrnodau Agored
Ar 15 a 18 Rhagfyr 2025, cafodd tua 160 o ddisgyblion Blwyddyn 10 i 13 sy’n dilyn cyrsiau amaethyddol neu alwedigaethol yn ysgolion y sir, neu’r disgyblion hynny sydd â’r awydd neu’r bwriad i ddilyn cyrsiau amaethyddol ar ôl iddynt adael yr ysgol, flas ar yr hyn sydd gan Fferm Llettytwppa i’w gynnig yn ystod y ddau ddiwrnod agored.
Dywedodd Osian, disgybl o Ysgol Gyfun Aberaeron: “Cefais i ddiwrnod wrth fy modd, roedd yn brofiad arbennig cael cyfle i ymarfer yr amrywiaeth o sgiliau gyda'r crefftwyr a'r ffermwyr. Roedd wir yn ddiddorol gweld yr holl swyddi gallwn hyfforddi ar gyfer a gwneud yn yr ardal leol”.
Ychwanegodd Nia, disgybl o Ysgol Bro Teifi: “Mae heddiw wedi agor ein llygaid i’r dyfodol. Mae cymaint o bethau gwahanol ar gael yma, ac rydych chi’n gweld yr holl opsiynau hyn. Rwy’n credu y bydd hyn yn fuddiol iawn i Geredigion yn bennaf.”
Yn ystod y diwrnodau agored, cafodd y disgyblion brofiad uniongyrchol o’r gweithgareddau a’r cyfleusterau newydd, gan gynnwys sut i drwsio beiciau cwad, ffensio, pwyso wyn, creu pocer â ffwrnais nwy, tasgau cynnal a chadw fel ail-doi, gosod pibellau dŵr, gwneud pibellau brêc, a thasg sodro (soldering).
Dywedodd Prys Lewis, Rheolwr Fferm Llettytwppa, sydd newydd ei benodi i fod yn gyfrifol am y fferm o ddydd i ddydd ac i diwtora y disgyblion: “O ran y dyfodol, ein bwriad a’n gweledigaeth yw cynnig ystod eang o gyfleoedd i bobl ifanc a dysgwyr gydol-oes Ceredigion i ddysgu sgiliau traddodiadol yn ogystal â sgiliau newydd. Rydym yn disgwyl y bydd llawer iawn am fanteisio ar y cyfle gwych hwn i fynychu’r cyrsiau hyn.”
Cipolwg o’r cyrsiau
Fe fydd Hyfforddiant Ceredigion yn cynnig dau lefel o brentisiaethau amaethyddol ar Fferm Llettytwppa, i ddatblygu sgiliau ymarferol a gwybodaeth ar gyfer gyrfa mewn ffermio. Mae’r Brentisiaeth Sylfaen Lefel 2 yn addas i ddechreuwyr neu’r rhai sydd â rhywfaint o brofiad, gan ganolbwyntio ar egwyddorion amaethyddiaeth fel cynhyrchu cnydau, ffermio cymysg a gofalu am stoc anifeiliaid dros gyfnod o tua 24 mis. Ar ôl cwblhau Lefel 2, gellir symud ymlaen i’r Brentisiaeth Lefel 3, sy’n datblygu sgiliau uwch ar gyfer rolau fel rheolwr fferm neu dechnegydd amaethyddol. Mae’r hyfforddiant yn seiliedig ar waith ac yn cael ei deilwra i anghenion unigol.
I gael rhagor o wybodaeth am y cynlluniau, ewch i: Hyfforddiant Ceredigion Training
18/12/2025