Skip to main content

Ceredigion County Council website

Ceredigion county council logo

Amgueddfa Ceredigion yn ymuno â menter genedlaethol i ysbrydoli gweithredu ar y newid yn yr hinsawdd

Mae Amgueddfa Ceredigion wedi cael ei dewis fel un o 12 o bartneriaid amgueddfeydd, treftadaeth a diwylliannol ledled y DU i gyflwyno digwyddiadau a gweithgareddau gyda'r nod o greu eiriolwyr dros y blaned.

Mae'r fenter hon yn rhan o'r rhaglen 'Fixing Our Broken Planet: Interconnected', dan arweiniad yr Amgueddfa Astudiaethau Natur, Llundain. Mae'r rhaglen yn darparu cyllid, arddangosfeydd a mynediad i wyddonwyr yr Amgueddfa Astudiaethau Natur i gefnogi prosiectau sy'n ymgysylltu â chymunedau i adeiladu dyfodol mwy gobeithiol.

Fel rhan o'r cydweithio hwn, bydd grŵp o bobl ifanc lleol yn cynhyrchu ffilm fer am Aber Afon Dyfi, gan dynnu sylw at yr hyn y mae’n nhw'n ei werthfawrogi fwyaf am yr amgylchedd unigryw hwn, yn ogystal â rhannu eu gobeithion a’u pryderon ynghylch ei ddyfodol yn wyneb newid yn yr hinsawdd. Bydd y ffilm yn cael ei harddangos yn Oriel Archaeoleg Amgueddfa Ceredigion, ac yn archwilio sut mae ffyrdd o fyw y rhanbarth wedi cael eu siapio wrth i blanhigion, anifeiliaid a phobl fudo ar hyd y canrifoedd. Bydd y ffilm hefyd yn ymddangos yn llawlyfr addasu arfordirol Changing Tides, a gydgynhyrchwyd gyda thrigolion Aber Afon Dyfi.

Dywedodd Carrie Canham, Curadur Amgueddfa Ceredigion: “Rydym yn falch iawn o bartneru gyda phartneriaeth Tir Canol a Sefydliad Common Cause i greu'r cyfle hwn i bobl ifanc ar draws rhanbarth Dyfi. Mae’r cyllid hwn yn ein galluogi i sicrhau bod eu lleisiau a’u safbwyntiau ar newid yn yr hinsawdd yn eu hardal leol nhw yn cael eu clywed. Rydym yn ddiolchgar iawn i'r Amgueddfa Astudiaethau Natur, Creative Minds, a Prosper am wneud hyn yn bosibl.”

Dywedodd Tom Bevan, Pennaeth Rhaglenni Cenedlaethol yn yr Amgueddfa Astudiaethau Natur: “Rydym yn falch o gefnogi'r gwaith gwych y mae ein partneriaid yn ei wneud i rymuso cymunedau i gysylltu â materion sy'n wynebu'r byd naturiol. Mae'r rhaglen hon mewn sefyllfa berffaith i ymhelaethu ar straeon o wahanol gymunedau ac i ysgogi camau gweithredu ystyrlon ar gyfer dyfodol lle mae pobl a’r blaned yn ffynnu.”

Ychwanegodd y Cynghorydd Catrin M S Davies, Aelod Cabinet Ceredigion â chyfrifoldeb dros Ddiwylliant: “Fel rhywun sy’n byw nepell o afon Dyfi rwy’n edrych ymlaen yn fawr at weld y ffilm ac rwy’n hydreus y bydd yn gaffaeliad mawr i’r Oriel”.

Mae’r rhaglen Fixing Our Broken Planet yn cynnwys agor oriel barhaol newydd yn yr Amgueddfa Astudiaethau Natur ym mis Ebrill 2025. Cynigiwyd y cyfle am gyllid i aelodau Fixing Our Broken Planet: Community of Practice, rhwydwaith yn y sector amgueddfeydd a sefydlwyd yn 2023 i greu eiriolwyr dros y blaned. Dros y blynyddoedd nesaf, bydd y rhwydwaith yn cefnogi mwy na 200 o sefydliadau i gysylltu cymunedau’n lleol, yn genedlaethol ac yn fyd-eang â’r wyddoniaeth sy’n sail i argyfwng y blaned.

Am ragor o wybodaeth neu i ymuno â'r gymuned, ewch i wefan yr Amgueddfa Astudiaethau Natur (Natural History Museum).

Ariennir y prosiect Newid Llanw gan y Rhaglen Rhwydweithiau Natur. Mae'n cael ei ddarparu gan y Gronfa Treftadaeth, ar ran Llywodraeth Cymru.

19/12/2025