Agoriad swyddogol Ysgol Dyffryn Aeron gan Brif Weindiog Cymru
Agorwyd Ysgol Dyffryn Aeron yn swyddogol heddiw, ddydd Iau 13 Mawrth 2025 gan Brif Weinidog Cymru, Eluned Morgan AS.
Mae’r ysgol wedi bod ar agor ers dechrau’r flwyddyn gyda phlant a’r staff yr ysgol ynghyd yn falch iawn i fod yn rhan o’r garreg filltir yma yn Nyffryn Aeron.
Yn ystod yr agoriad dywedodd Pennaeth Ysgol Dyffryn Aeron, Nia Lloyd Thomas: “Mae heddiw yn ddiwrnod o falchder aruthrol, ac yn achlysur hanesyddol i ni yma yn Ysgol Dyffryn Aeron. Ar ôl blynyddoedd o ymgyrchu, cynllunio a gwaith caled, sicrhawyd bod ein disgyblion nid yn unig yn cael adeilad a chyfleusterau o’r safon uchaf, ond hefyd yr addysg a’r sgiliau cymdeithasol ac emosiynol sydd eu hangen ar gyfer dyfodol disglair.”
“Rwyf yn estyn fy niolch diffuant i ysgolion a chymunedau Ciliau Parc, Dihewyd a Felin-fach, ynghyd â’r Cyrff Llywodraethol, y staff, y teuluoedd ac wrth gwrs y disgyblion hynny sydd wedi bod yn rhan o daith sefydlu Ysgol Dyffryn Aeron.
Ysgol Dyffryn Aeron yw ysgol fwyaf newydd Ceredigion. Ysgol sy’n werth £16.3m a ariannwyd drwy raglen Cymunedau Dysgu Cynaliadwy ar gyfer Dysgu Llywodraeth Cymru (£10.0m), Rhaglen Gyfalaf Gofal Plant a’r Blynyddoedd Cynnar Llywodraeth Cymru (£1.6m) a chyfraniad ariannol cyfatebol gan Gyngor Ceredigion o £4.7m.
Mae’r ysgol wedi uno Ysgol Ciliau Parc, Ysgol Dihewyd ac Ysgol Felinfach gan ddarparu cyfleusterau dysgu o’r radd flaenaf i’n disgyblion, megis llain astro 3G yn ogystal ag Ardal Chwaraeon amlddefnydd. Mae gan Calon Aeron (Canolfan ADY) y cyfleusterau diweddaraf i gefnogi disgyblion ag Anghenion Dysgu Ychwanegol, gan sicrhau amgylchedd cynhwysol a chefnogol i bob disgybl.
Ychwanegodd Nia: “Mae’r gefnogaeth a’r ymroddiad di-flino wedi chwarae rhan amhrisiadwy yn agoriad yr ysgol, ac ni fyddai'r garreg filltir hon wedi bod yn bosibl heb eu hymdrechion a'u hymrwymiad.
Yn yr un modd, diolch i Gyngor Sir Ceredigion a Llywodraeth Cymru am bob arweiniad a chefnogaeth ac am y buddsoddiad sydd wedi sicrhau bod ysgol bwrpasol, gynhwysol a chymunedol wedi ei hadeiladu mewn ardal wledig o Gymru.”
“Fel cymuned Ysgol Dyffryn Aeron, edrychwn ymlaen yn eiddgar at ddyfodol disglair a llewyrchus. Gyda'n gilydd, byddwn yn parhau i feithrin a chefnogi ein disgyblion, gan sicrhau eu bod yn cael pob cyfle i lwyddo a ffynnu mewn awyrgylch gariadus a Chymreig."
Dywedodd y Prif Weinidog, Eluned Morgan: “Roedd yn bleser agor Ysgol Dyffryn Aeron. Mi fydd yr ysgol yn gosod sylfaen cadarn fydd yn rhoi’r dechrau gorau i bobl ifanc yr ardal."
“Dwi’n falch bod Llywodraeth Cymru wedi gallu cefnogi buddsoddiad yn yr ysgol newydd, sydd mewn safle bendigedig. Mae’r afon Aeron yn llifo drwy’r dyffryn, yn casglu nentydd bach ar y ffordd. A dyna'n union sut dwi'n gweld addysg – taith lle i ni'n casglu gwybodaeth, sgiliau a phrofiadau, yn tyfu'n gryfach wrth i ni fynd. Rwy'n dymuno pob llwyddiant a dyfodol disglair, cyffrous i'r plant a’u teuluoedd, y staff a’r gymuned gyfan.”
Dywedodd y Cynghorydd Wyn Thomas, Aelod Cabinet Ceredigion ar gyfer Dysgu Gydol Oes ac Ysgolion: “Mae hwn yn ddiwrnod pwysig i Ysgol Dyffryn Aeron, y cymunedau cyfagos yn nyffryn Aeron a’r Sir gyfan. Mae’r Ysgol newydd hwn yn cynnig addysg o’r radd flaenaf i’n disgyblion ac yn darparu cyfleuster o’r 21ain ganrif, yn ogystal â chyfleusterau i gefnogi disgyblion ag anghenion dysgu ychwanegol. Mae’r Ysgol yn ymdrech wych o gydweithio ar draws y Cyngor a’r contractwyr yn ogystal â’r Llywodraeth.”
Ymysg y rhai a oedd yn bresennol i ddathlu’r agoriad gyda’r disgyblion a staff yr Ysgol oedd Aelodau’r Cyngor Sir, cynrychiolwyr y Cynghorau Cymuned lleol, swyddogion yr Awdurdod, yn ogystal â’r contractwyr sydd wedi gweithio ar y prosiect.