Skip to main content

Ceredigion County Council website

Ceredigion county council logo

Aelod Senedd Ieuenctid y DU dros Geredigion yn cymryd rhan yn nadl fawr Senedd Ieuenctid Prydain 2025

Ar 06 Tachwedd 2025, teithiodd Aelod Senedd Ieuenctid y DU (ASI) dros Geredigion, Lleucu Nest, i Lundain i gynrychioli'r sir yn y ddadl fyw flynyddol a gynhelir gan Senedd Ieuenctid y DU yn Nhŷ'r Cyffredin.

Cadeiriwyd y ddadl foreol gan Lefarydd Tŷ'r Cyffredin, Syr Lindsay Hoyle, ac arweiniwyd y sesiwn brynhawn gan yr AS Judith Cummins, Dirprwy Lefarydd.

Daeth dros 300 o bobl ifanc, rhwng 11 a 18 oed, o bob cwr o'r DU, Tiriogaethau Tramor Prydain, a Thiriogaethau Dibynnol ar y Goron, ynghyd yn y Senedd i drafod materion cyfredol sy'n wynebu plant a phobl ifanc. Roedd y pynciau trafod allweddol yn cynnwys: Tai, Iechyd, Cyflogaeth, Troseddu a Chynaliadwyedd.

Dywedodd Lleucu Nest, disgybl Ysgol Gyfun Penweddig: “Roedd yn fraint cynrychioli pobl ifanc Ceredigion yn Nhŷ’r Cyffredin yn nadl flynyddol Senedd Ieuenctid y DU eleni. Cafwyd llawer o areithiau ysbrydoledig gan bobl ifanc ledled y DU, yn hyrwyddo materion sy’n bwysig iddyn nhw a’u hetholaethau. Mae’n hanfodol bod pobl ifanc yn cael llwyfan i godi eu llais a chyfleoedd i gymryd rhan yn y broses wleidyddol, ac roedd hwn yn gyfle gwych i ddysgu mwy am waith Aelodau Seneddol a llywodraeth y DU.”

Dywedodd y Cynghorydd Wyn Thomas, Aelod y Cabinet dros Ysgolion, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau: “Rydym yn hynod falch o Lleucu am gynrychioli Ceredigion mewn digwyddiad mor arwyddocaol. Mae cymryd rhan yn nadl Senedd Ieuenctid y DU yn Nhŷ’r Cyffredin yn gamp nodedig ac yn dyst i’w hymroddiad i roi llais i bobl ifanc a materion lleol. Sicrhaodd Lleucu fod pobl ifanc Ceredigion yn cael llwyfan, ac mae cyfleoedd fel hyn yn sicrhau bod cyfraniad pobl ifanc yn cael ei glywed ar lefel genedlaethol.”

Dywedodd Gwion Bowen, Uwch Swyddog Cyfranogiad Plant a Phobl Ifanc yng Ngheredigion: “Mae Ceredigion wedi cefnogi pobl ifanc leol i gymryd rhan yn rhaglen Senedd Ieuenctid y DU, gan gynnwys y ddadl fyw, ers 2015. Mae’n brofiad gwerthfawr i Aelodau Senedd Ieuenctid Ceredigion gwrdd ag eraill a chael teimlad o sut beth yw trafod materion go iawn yn Nhŷ’r Cyffredin. Hoffwn ddiolch i Lleucu am ei harweinyddiaeth fel Aelod Senedd Ieuenctid y DU yng Ngheredigion ar gyfer 2024-25 a’i llongyfarch ar ei holl waith caled a’i chyflawniadau yn ystod ei chyfnod yn y swydd.”

Gellir gwylio'r dadleuon yn ôl ar ‘Parliament TV’ yma:

Sesiwn y bore:

 

 

Sesiwn y prynhawn:

 

 

19/11/2025