Adroddiad Hunanasesu Ceredigion ar ei Amcanion Perfformiad a Llesiant yn dangos cyflawniadau rhagorol gan y Cyngor
Cafodd yr adolygiad blynyddol o Amcanion Perfformiad a Llesiant Cyngor Sir Ceredigion 2023/24 ei ystyried gan Aelodau'r Cabinet yn ystod cyfarfod Cabinet a gynhaliwyd heddiw, 07 Ionawr 2025. Dyma'r drydedd flwyddyn i'r hunanasesiad gael ei gyflawni, yn dilyn ei weithredu yn statudol gan Lywodraeth Cymru yn 2021.
Mae hunanasesiad Ceredigion yn gysylltiedig gyda gwelliant parhaus y Cyngor o trefniadau cynllunio corfforaethol a rheoli perfformiad, sy'n defnyddio asesiadau ar sail tystiolaeth, adolygiadau allanol a chynnwys rhanddeiliaid i lywio'r prosesau hyn.
Mae’r adroddiadu yn amlinellu’r canlyniadau ardderchog, a’r gwelliannau a wnaed flwyddyn ar ôl blwyddyn sy’n dangos bod y Cyngor wedi dysgu o brofiad ac yn gwrando ar mewnbwn gwerthfawr aelodau'r cyhoedd drwy ymgynghori ac ymgysylltu, gan dynnu sylw at yr hyn sy'n bwysig iddynt a sicrhau bod hyn yn cael ei adlewyrchu yn nodau'r Cyngor.
Cynhaliwyd arolwg rhanddeiliaid o drigolion a busnesau Ceredigion rhwng Mehefin ac Awst 2023. Dywedodd yr arolwg wrthym fod 90% yn cytuno neu'n cytuno'n gryf bod creu cyfleoedd gwaith a phrentisiaethau i bobl ifanc yn bwysig. Roedd 82% yn cytuno neu'n cytuno'n gryf ei bod yn bwysig blaenoriaethu cadwyni cyflenwi a chynnyrch o ffynonellau lleol ac roedd 86% yn cytuno neu'n cytuno'n gryf ei bod yn bwysig bod pobl leol yn gallu prynu cartrefi neu fyw'n lleol.
Bu ffocws cryf ar fynd i'r afael â materion o'r fath gan Geredigion gyda chynnydd da ar y Fargen Twf Canolbarth sy’n prosiect gwerth £110; datblygu prentisiaethau ymhellach yn y Sir; blaenoriaethu cynnyrch o ffynonellau lleol; a chyflwyno'r Cynllun Tai Cymunedol ecwiti a rennir i enwi ond ychydig. Mae adroddiad manwl o'r canfyddiadau a'r camau a gymerwyd wedi'u cynnwys yn yr adolygiad blynyddol.
Mae'r adolygiad hefyd yn cynnwys manylion am sut mae'r cyngor wedi perfformio yn erbyn ei Amcanion Llesiant Corfforaethol, y cytunwyd arnynt yn 2022, sef:
- Hybu’r economi, cefnogi busnesau a galluogi cyflogaeth
- Creu cymunedau gofalgar ac iach
- Darparu'r dechrau gorau mewn bywyd a galluogi pobl o bob oed i ddysgu
- Creu cymunedau cynaliadwy a gwyrdd sydd wedi’u cysylltu’n dda â’i gilydd
Mae'r adroddiad hunanasesu yn tynnu sylw at ein cyflawniadau allweddol yn erbyn pob un o'r amcanion uchod. Dyma rai enghreifftiau:
- Sicrhau cyllid o £10.9m drwy Gronfa Ffyniant Bro 2022-25
- Cymeradwyo £42.2m ar gyfer cais rhanbarth Canolbarth Cymru i Gronfa Ffyniant Cyffredin y DU
- Cefnogi 111 o fusnesau ar draws Ceredigion a 38 busnes newydd yn derbyn cefnogaeth
- 703 o ofalwyr cymwys yn derbyn £500 o daliadau cymorth i ofalwyr
- 13,188 o fynychwyr i raglenni ymyrraeth iechyd
- 510,711 o fynychwyr i raglenni gweithgarwch corfforol a gefnogir neu a ddarperir gan y Ganolfan Lles
- 1,722 o drigolion Ceredigion yn cymryd rhan yng Nghynllun Cenedlaethol i Atgyfeirio Cleifion i wneud Ymarfer Corff
- 380 o bobl ifanc yn cymryd rhan mewn gweithgareddau ar ôl ysgol a ddarperir gan y Gwasanaeth Ieuenctid
- 8,620 o sesiynau cyfrifiadurol cyhoeddus ar draws y llyfrgelloedd
- 93.2% o ddisgyblion Blwyddyn 13 mewn addysg, hyfforddiant neu gyflogaeth sy'n uwch na'r cyfartaledd cenedlaethol o 92.2%
- 72% o wastraff wedi’i ailgylchu wedi’i gompostio neu ei ailddefnyddio am y deuddeg mis hyd at fis Rhagfyr 2023
- 3.8m o oriau cilowat o ynni adnewyddadwy a gynhyrchir gan asedau'r cyngor, yn uwch na’r 1.8m awr llynedd
- Gostyngiad o 41% mewn allyriadau carbon ers 2005
- Gwella 156 anheddau trwy Grantiau Cyfleusterau i'r Anabl ar gyfanswm gwerth o £960,600
Dywedodd y Cynghorydd Bryan Davies, Arweinydd y Cyngor: “Rwy'n falch o adrodd ar y cynnydd rhagorol a wnaed o ran cyflawni ein hymrwymiadau a nodir yn y Strategaeth Gorfforaethol a'r Amcanion Llesiant. Mae hyn yn ganlyniad ardderchog arall nid yn unig i'n Swyddogion ymroddedig sydd wedi rhagori ar y targedau uchelgeisiol a osodwyd mewn amgylchedd ariannol mor anodd, ond hefyd i'n trigolion, sy'n elwa'n uniongyrchol o'r gwasanaethau a ddarparwyd.”