Skip to main content

Ceredigion County Council website

Ysgol Berfformio Theatr Felinfach yn perfformio ‘Mimosa’

Bydd Ysgol Berfformio Theatr Felinfach yn cyflwyno’r sioe gerdd ‘Mimosa’ gan Tim Baker a Dyfan Jones ar lwyfan y theatr ar ddiwedd mis Hydref.

Poster y sioe.Dyma stori ein cyndeidiau a ymfudodd i Dde America ar y Cliper te, Mimosa, o ddociau Lerpwl yn 1865 i le o'r enw Patagonia, i chwilio am fywyd gwell - ond beth ddigwyddodd? Beth oedd yno iddynt ar yr ochor arall?

Daw llwyfaniad y Mimosa â chyfle i glywed stori’r daith honno, bron i 160 o flynyddoedd yn ôl – yr holl emosiynau o’r dechrau i’r diwedd drwy stori a chân! 

Dyweddodd Sioned Thomas, Uwch Swyddog Creadigol Theatr Felinfach a chynhyrchydd y sioe gerdd: “Ni’n gyffrous iawn o gael y cyfle i lwyfannu sioe gerdd y ‘Mimosa’. Mae’n berfformiad fydd yn ymestyn profiadau’r aelodau wrth iddyn nhw berfformio gyda band byw am y tro cyntaf erioed. Ni’n hynod o falch ac yn ddiolchgar o fedru creu partneriaeth gyda Gwasanaeth Cerdd Ceredigion er mwyn gwireddu’r profiad yma i’r aelodau: perfformio sioe gerdd yn fyw na dysgu am hanes y wlad a chyndeidiau. Mae’n sioe sy’n mynd â’r aelodau ar siwrne emosiynol o’r dechrau i’r diwedd.”

Mae’r ysgol berfformio ar gyfer pobl ifanc rhwng 7 ac 18 mlwydd oed ac yn cwrdd bob nos Iau yn ystod y tymor ysgol.  Mae’n gyfle i’r aelodau fod yn rhan o ymarferion creadigol, magu sgiliau newydd, codi hyder ar lwyfan a derbyn dosbarthiadau meistr gan ymarferwyr theatr proffesiynol.

Gwasanaeth Cerdd Ceredigion o dan arweiniad Rheolwr y Gwasanaeth, Dan Edwards-Phillips fydd yn ffurfio’r band byw; dywedodd: “Mae’r cyfle i allu cydweithio gyda Theatr Felinfach ac uno’r dalent ifanc anhygoel sydd yng Ngheredigion yn gyfle arbennig iawn. Dwi’n hynod ddiolchgar i Dwynwen a staff y Theatr am estyn allan i greu’r bartneriaeth, a dwi mor gyffrous i allu arddangos rhywbeth arbennig iawn.”

Dywedodd y Cynghorydd Catrin M S Davies, Aelod Cabinet Ceredigion dros Ddiwylliant, Hamdden a Gwasanaethau Cwsmeriaid: “Rwy'n falch iawn o weld Ysgol Berfformio Theatr Felinfach yn mentro gyda'r sioe gerdd uchelgesiol ‘Mimosa’ ac yn dod â hi i lwyfan Felinfach. Mae’r cynhyrchiad hwn yn amlygu doniau eithriadol ein pobl ifanc a hefyd yn olrhain rhan arwyddocaol o’n hanes. Mae stori’r Mimosa a thaith y bobl ddewr hynny a allfudodd i Dde America yn naratif grymus. Rwy'n annog pawb i gefnogi’r sioe hon a chefnogi ein perfformwyr a’r cerddorion ifanc - mae nhw bob amser yn wych.”

Cynhelir y perfformiadau ar 30 Hydref 14:00 a 18:30 ac ar 1 Tachwedd 18:30. Gellir prynu tocynnau ar wefan Theatr Felinfach, theatrfelinfach.cymru, neu trwy’r gysylltu â’r swyddfa docynnau ar 01570 470697.Bydd cymorth ar gael i siaradwyr a dysgwyr Cymraeg newydd.

I ddysgu mwy am yr Ysgol Berfformio a chael gwybod sut all eich plentyn/ward chi fod yn rhan e-bostiwch Theatr Felinfach theatrfelinfach@ceredigion.gov.uk