Skip to main content

Ceredigion County Council website

Ymweliad y Gweinidog yn tynnu sylw at Fuddsoddiad Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn y gwaith o Adfywio Aberystwyth

Ddydd Iau, 7 Tachwedd, ymwelodd y Fonesig Nia Griffith AS, Is-ysgrifennydd Gwladol Seneddol yn Swyddfa Cymru, ag Aberystwyth i weld y prosiectau adfywio a gafodd eu hariannu yn rhannol gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig: Adfywio Promenâd Aberystwyth ac ailddatblygiad hanesyddol yr Hen Goleg.

Roedd yr ymweliad yn cynnwys taith ar hyd Promenâd Aberystwyth lle mae gwelliannau sylweddol i’w gweld mewn mannau cyhoeddus, megis goleuadau stryd wedi’u huwchraddio, yn ogystal â llwybrau troed gwell a dodrefn stryd newydd er mwyn adnewyddu a moderneiddio’r promenâd. Bydd yr uwchraddiadau hyn yn creu amgylchedd croesawgar a diogel, gan wneud y promenâd yn ofod deniadol i’w fwynhau drwy gydol y flwyddyn.

Mynegodd y Cynghorydd Bryan Davies, Arweinydd Cyngor Sir Ceredigion, bwysigrwydd y buddsoddiadau hyn: “Mae Adfywio Promenâd Aberystwyth a datblygiad yr Hen Goleg yn brosiectau allweddol ar gyfer dyfodol Aberystwyth. Diolch i gyllid Llywodraeth y Deyrnas Unedig, rydym yn gweld trawsnewid ein tref yn ffisegol ac yn economaidd gan wella’r cyfleoedd i drigolion ac ymwelwyr fel ei gilydd.”

Yn ystod ei hymweliad, cafodd y Fonesig Nia Griffith drosolwg o’r gwaith trawsnewidiol sydd ar y gweill yn Hen Goleg eiconig Aberystwyth a fydd yn dod yn ganolfan ddiwylliannol a chreadigol newydd a fydd yn cynnwys arddangosfeydd celf a gwyddoniaeth, amgueddfa’r Brifysgol, ardal Pobl Ifanc, unedau busnes, canolfan astudio 24/7 i fyfyrwyr, sinema arloesol a Chanolfan Deialog gyntaf y Deyrnas Unedig. Cafodd ddiweddariad hefyd ar sut mae’r prosiect yn cynnig hyfforddiant gwerthfawr ar sgiliau i bobl leol yn ystod y cyfnod adeiladu.

Dywedodd y Fonesig Nia Griffith AS: “Roeddwn yn falch iawn o weld bod gwelliannau’n cael eu gwneud i’r Promenâd hanesyddol a’r Hen Goleg yn Aberystwyth. Mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig wedi ymrwymo i fuddsoddi yng Nghymru ac i’n cenhadaeth am dwf economaidd. Mae prosiectau fel yr Hen Goleg a’r gwelliannau i Bromenâd Aberystwyth yn allweddol i yrru ffyniant economaidd yn lleol a chreu gofodau sydd o fudd i’r gymuned gyfan.”

Croesawodd yr Athro Anwen Jones, Arweinydd Gweithredol Prifysgol Aberystwyth ar gyfer prosiect yr Hen Goleg, yr ymweliad: “Mae’r Hen Goleg yn brosiect hynod bwysig i Aberystwyth – ar gyfer y Brifysgol a’r dref, yn  economaidd, yn gymdeithasol ac yn ddiwylliannol. Mae’r gefnogaeth rydym wedi’i derbyn gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig wedi bod yn allweddol wrth wireddu ein gweledigaeth ar gyfer yr Hen Goleg. Cyn bo hir, bydd yr adeilad hanesyddol hwn yn gwasanaethu'r gymuned ac ymwelwyr fel ei gilydd, gan roi bywyd newydd i ran hollbwysig o'n treftadaeth."

Yn dilyn gweithgareddau’r bore, aeth y Fonesig Nia Griffith yn ei blaen i ArloesiAber yng Ngogerddan, cyfleuster datblygu integredig i gyflymu arloesedd ym meysydd bwyd a diod, yr economi gylchol a thechnoleg amaethyddol. Yno cymerodd ran mewn trafodaeth ar economi Canolbarth Cymru a Bargen Dwf Canolbarth Cymru. Roedd y sgwrs yn tynnu sylw at y cyfleoedd am gydweithio parhaus rhwng y sector cyhoeddus a’r sector preifat i gryfhau tirwedd economaidd y rhanbarth. Mae’r Parc Arloesi Dyfodol Gwyrdd, menter gan Brifysgol Aberystwyth ar gyfer campws Gogerddan y Brifysgol, yn un o’r prosiectau sy’n cael eu datblygu i’w hystyried ar gyfer cyllid o Fargen Dwf y Canolbarth.

Dywedodd y Cynghorydd James Gibson-Watt, Arweinydd Cyngor Sir Powys a Chyd-gadeirydd Tyfu Canolbarth Cymru, y tîm sy’n rheoli Bargen Dwf Canolbarth Cymru: “Cawsom drafodaeth gref ynghylch y gwaith sy’n mynd rhagddo yng Nghanolbarth Cymru i dyfu’r economi. Rydym yn buddsoddi ymdrechion ac arian sylweddol i Fargen Dwf Canolbarth Cymru ac roedd yn wych trafod gyda’r sector preifat a’r Gweinidog ynghylch rhai o’r cyfleoedd i’r dyfodol.”

I gael y wybodaeth ddiweddaraf ar brosiect Adfywio’r Promenâd, ewch i wefan Cyngor Sir Ceredigion: Bwrw golwg: www.ceredigion.gov.uk/PromAber 

I gael y wybodaeth ddiweddaraf ar brosiect yr Hen Goleg, ewch i wefan Prifysgol Aberystwyth: www.aber.ac.uk/cy/oldcollege/