Ymweliad Gweinidogol Cynllun Amddiffyn Arfordir Aberaeron
Ymwelodd y Dirprwy Brif Weinidog sy’n gyfrifol am Newid Hinsawdd, Huw Irranca-Davies ag Aberaeron i weld cynnydd y Cynllun Amddiffyn yr Arfordir ddydd Gwener 04 Hydref.
Croesawyd y Dirprwy Brif Weinidog gan y Cynghorydd Alun Williams, Dirprwy Arweinydd Cyngor Sir Ceredigion, Cynghorydd Keith Henson, Aelod Cabinet Ceredigion sy’n gyfrifol am Briffyrdd a Gwasanaethau Amgylcheddol a Rheoli Carbon, y Prif Weithredwr Eifion Evans a swyddogion eraill sy’n gweithio ar y prosiect.
Wrth siarad o Aberaeron, dywedodd y Dirprwy Brif Weinidog: "Mae maint y gwaith yma yn Aberaeron yn agoriad llygad go iawn - ac mae'n hanfodol i Aberaeron a'i chymuned gael ei gwarchod am genedlaethau i ddod. Rwy'n hynod ddiolchgar i'r gymuned am eu hamynedd wrth adeiladu'r cynllun hwn. Mae hwn yn brosiect peirianneg sifil enfawr sy'n digwydd o fewn tref hanesyddol. Mae'r cynllun yn cael ei gyflawni'n gyflym, ac rydym yn edrych ymlaen at y gwaith fydd yn cael ei gwblhau'r flwyddyn nesaf.”
Roedd yr ymweliad yn cynnwys cyflwyniad ar y cynllun gan swyddogion y Cyngor a chynrychiolwyr prosiect eraill yn ogystal â thaith o amgylch y safle adeiladu i Bier y De a Phwll Cam.
Mae'r gwaith adeiladu gan Bam Nuttall yn cynnwys adeiladu morglawdd newydd ym Mhier y Gogledd, adnewyddu ac ailadeiladu morglawdd Pier y De, adeiladu waliau llifogydd gan gynnwys wal llifogydd cerrig a gwydr newydd, atgyweirio growtio a giât llifogydd yn harbwr mewnol Pwll Cam a gwelliannau i amddiffynfeydd presennol ar Draeth y De.
Ychwanegodd y Cynghorydd Keith Henson: “Mae'n wych gweld y cynllun pwysig hwn yn datblygu'n dda. Bydd y cynllun hwn yn gwella lefel yr amddiffyniad a roddir i'r nifer o fusnesau a chartrefi yn y dref a bydd yn diogelu cymeriad unigryw a hanesyddol yr ardal ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol. Edrychwn ymlaen at weld y gwaith gorffenedig y flwyddyn nesaf.”
Am ragor o wybodaeth, ewch i www.ceredigion.gov.uk/preswyliwr/yr-arfordir-a-chefn-gwlad/rheolir-arfordir-a-pherygl-llifogydd/amddifyn-yr-arfordir/