Skip to main content

Ceredigion County Council website

Ymdrechion gwirfoddol y Ramblers yn cyfateb i £500,000 dros 30 mlynedd

Mae gwirfoddolwyr Hawliau Tramwy Cyhoeddus wedi casglu dros £500,000 o arian dros 30 mlynedd o waith gwirfoddoli. Er mae syniad aelodau Ramblers Aberystwyth oedd hyn i ddechrau, mae'r gweithgor wythnosol wedi hen ennill eu plwyf ledled Ceredigion.

Gwirfoddolwyr Aberystwyth, Rita, Len a Robert, gyda Barcmon Cyngor Sir Ceredigion Gareth.Os ydych chi’n cerdded, yn marchogaeth neu’n beicio ar Hawliau Tramwy Cyhoeddus yng Ngheredigion, mae’n debygol iawn eich bod chi’n defnyddio eitemau o ddodrefn cefn gwlad wedi’u gosod gan wirfoddolwyr medrus, brwdfrydig ac ymroddedig iawn.

Yn y 1990au cynnar roedd Mal Evans, ac ambell aelod arall o Ramblers Aberystwyth, mor bryderus am gyflwr rhai llwybrau lleol nes iddynt benderfynu ceisio atgyweirio camfeydd adfeiliedig. Ar ôl gwneud rhywfaint o waith atgyweirio, fe wnaethant gysylltu â Thîm Hawliau Tramwy Cyngor Sir Ceredigion i gynnig cymorth. Cytunodd Parcmon y Cyngor i weld a fyddai modd gweithio gyda gwirfoddolwyr ac, ar 19 Hydref 1994, arweiniodd y Barcmyn John Deans a Nigel Nicholas weithgor bychan o wirfoddolwyr Ramblers Aberystwyth i godi camfa yn Rhyd Tir ger Bow Street.

Yn dilyn llwyddiant y gweithgor bach yma, ffurfiwyd grŵp Gwirfoddolwyr Hawliau Tramwy Ceredigion. Yna gallai pob un o’r tri Parcmyn sy’n gyfrifol am gynnal a chadw’r 2500 km o lwybrau troed a llwybrau ceffyl ar draws Ceredigion alw ar gymorth rheolaidd timau bach o wirfoddolwyr sydd â chysylltiadau â grwpiau’r Ramblers yn Aberystwyth, Llanbedr Pont Steffan ac Aberteifi. Mae'r Ceidwaid yn delio â chaniatâd mynediad a logisteg, mae'r Cyngor yn darparu'r offer tra bod y gwirfoddolwyr yn gwneud llawer o'r gwaith, dan oruchwyliaeth y Barcmon. Gyda phob gweithgor yn mynd allan y rhan fwyaf o wythnosau’r flwyddyn, mae cyfres hir o wirfoddolwyr wedi dysgu sgiliau fel gosod gatiau hunan-gau ac adeiladu pontydd, clirio arloesi, gosod grisiau a thechnegau torri a llenwi.

Roedd prosiect cynnar yn ymwneud â gwella llwybr i gysylltu'r hosteli ieuenctid yn y Borth ac Ystumtuen. Ymestynnwyd y llwybr hwn yn y pen draw gan y Cyngor i ffurfio Ffordd Borth i Bontrhydfendigaid. Bu’r gwirfoddolwyr hefyd yn allweddol wrth greu Llwybr Arfordir Ceredigion, gan gynnwys datblygu rhai darnau cwbl newydd o’r llwybr, ar hyd yr hyn sydd bellach yn rhan o Lwybr Arfordir Cymru. Pan ddaeth cyllid yr UE ar gael, bu’r gweithgorau yn allweddol wrth uwchraddio llwybrau troed a llwybrau ceffyl fel rhan o’r prosiectau ‘Llwybrau i Bobl’ a ‘Ceredigion ar Gefn Ceffyl’.

Dywedodd y Cynghorydd Clive Davies, Aelod Cabinet Ceredigion dros yr Economi ac Adfywio: “Rwyf wedi gwybod ers tro bod gwirfoddolwyr yn gwneud cyfraniad sylweddol at gynnal a chadw Hawliau Tramwy Cyhoeddus ar draws Ceredigion. I ddysgu pa mor bell yn ôl y mae hyn yn mynd, mae rhai o’r prosiectau mawr y maent wedi bod yn rhan ohonynt a’r hyn y mae eu hymdrechion yn gyfystyr ag ef, yn syfrdanol.”

I ddathlu 30 mlynedd ers sefydlu’r bartneriaeth, mae taith gerdded i Ryd Tir yn cael ei threfnu ar y cyd rhwng Tîm Hawliau Tramwy Cyngor Ceredigion a Ramblers Aberystwyth ar gyfer dydd Mawrth 22 Hydref 2024. Gwahoddir pawb sydd â chysylltiad i’r gweithgor yn y gorffennol a’r presennol i fynychu. Rhowch wybod i’r Tîm Hawliau Tramwy os ydych yn bwriadu mynychu drwy ffonio 01545 570881 neu e-bostio clic@ceredigion.gov.uk.