Skip to main content

Ceredigion County Council website

Y Cyngor a Bwrdd Iechyd Hywel Dda i adolygu opsiynau i ddarparu Cylch Caron

Yn dilyn cymeradwyaeth y Cabinet ar 17 Gorffennaf 2024, gwahoddwyd tendrau am Bartner Cyflawni a fyddai'n gweithio gyda'r Cyngor a'r Bwrdd Iechyd i ddarparu canolfan iechyd, gofal cymdeithasol a thai newydd integredig yn Nhregaron, Cylch Caron. Fodd bynnag, ni phenodwyd Partner Cyflawni yn ystod y broses dendro.

Mae'r Cyngor a'r Bwrdd Iechyd bellach yn archwilio opsiynau i ddod o hyd i bartner priodol a fydd yn gweithio gyda nhw i sicrhau bod y prosiect pwysig hwn yn cael ei gyflawni'n llwyddiannus.

Dywedodd y Cynghorydd Alun Williams, Dirprwy Arweinydd Cyngor Sir Ceredigion ac yr Aelod Cabinet sydd â chyfrifoldeb dros Lesiant Gydol Oes: “Yn dilyn y tendr cychwynnol, rydym bellach yn adolygu'r cynllun er mwyn dod o hyd i'r ffordd orau o symud ymlaen. Mae'n amlwg mai integreiddio rhwng ein gwasanaethau gofal cymdeithasol ac iechyd yw'r ffordd ymlaen ar gyfer lles ein preswylwyr a dyna mae'r cynllun arloesol hwn yn gobeithio ei ddarparu i bobl Tregaron a chymunedau cyfagos.”

Dywedodd Peter Skitt, Cyfarwyddwr Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn Sir Ceredigion: "Rydym yn parhau i fod yn ymrwymedig i Gylch Caron a chefnogi iechyd a lles y gymuned yn Nhregaron. Yn dilyn canlyniad y broses dendro, mae'n hanfodol ein bod fel partneriaid yn parhau i weithio gyda'n gilydd ac adolygu'r tendr, ac archwilio opsiynau ar frys er mwyn datblygu ein cynlluniau ar gyfer Tregaron.”

Mae hwn yn brosiect partneriaeth rhwng Cyngor Sir Ceredigion a Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, ynghyd â Llywodraeth Cymru.