Tynnu sylw at Ddiwrnod Atal Hunanladdiad y Byd 2024
Cynhelir Diwrnod Atal Hunanladdiad y Byd ar 10 Medi 2024, ac mae Cyngor Sir Ceredigion yn falch o gefnogi’r ymgyrch eto eleni.
Y thema ar gyfer y tair blwyddyn nesa, 2024 i 2026, yw ‘Newid y naratif ar hunanladdiad' sy’n galw ar bobl i ‘Ddechrau’r Sgwrs’ i geisio codi ymwybyddiaeth am bwysigrwydd lleihau’r stigma ac annog sgyrsiau i atal hunanladdiadau.
Maent yn annog pawb i ddechrau'r sgwrs ar hunanladdiad ac atal hunanladdiad. Mae pob sgwrs, waeth pa mor fach, yn cyfrannu at gymdeithas sy’n gefnogol ac yn ddeallgar. Trwy annog y sgyrsiau pwysig hyn, gallwn chwalu rhwystrau, codi ymwybyddiaeth, a chreu diwylliannau gwell o gymorth.
Dywedodd y Cynghorydd Alun Williams, Aelod Cabinet Ceredigion ar gyfer Llesiant Gydol Oes a Dirprwy Arweinydd y Cyngor: “Mae modd atal hunanladdiad bob amser. Gall lleihau’r stigma ynghylch meddyliau hunanladdol a chael sgyrsiau helpu ddod o hyd i ymatebion. Mae Diwrnod Atal Hunanladdiad y Byd yn gyfle i dynnu sylw, i fyfyrio ac i ofalu am y rhai o'n cwmpas."
“Mae yna nifer o sefydliadau a all helpu – boed hynny’n wasanaethau statudol neu’n grwpiau gwirfoddol fel y Samariaid – ond yn aml y cynorthwywr pennaf yw ffrindiau, teulu neu hyd yn oed gydnabod, a hynny trwy roi cyfle i bobl sydd mewn trallod neu anobaith i siarad a chael eu clywed.”
Mae nifer o elusennau lleol a chenedlaethol ar gael i gefnogi pobl, gan gynnwys Tir Dewi, Mind, Huts, Hafal a DPJ Foundation.
Os ydych angen siarad â rhywun – neu os ydych yn poeni am rywun/aelod o’r teulu – ffoniwch 111 a dewis opsiwn 2 i siarad â thîm iechyd meddwl y GIG. Mae’r rhif yn rhad ac am ddim i’w ffonio o linell dir neu symudol, hyd yn oed os nad oes gennych gredyd ar ôl. Gallwch hefyd ffonio’r Samariaid ar 116123.
Mae Dan 24/7 yn llinell gymorth ddwyieithog ar gyfer alcohol a chyffuriau a gallwch ffonio 0808 808 2234 unrhyw adeg o’r dydd neu’r nos i gael help a chymorth.