Skip to main content

Ceredigion County Council website

Trosglwyddo Pwll a Neuadd Goffa Aberteifi i berchnogaeth y Cyngor

Bydd Pwll a Neuadd Goffa Aberteifi yn cael ei drosglwyddo i berchnogaeth y Cyngor yn dilyn penderfyniad gan Ymddiriedolaeth Pwll Coffa a Neuadd Aberteifi i gau'r pwll ar 11 Mawrth 2024, a phenderfyniad pellach mewn cyfarfod Cabinet ar 19 Mawrth 2024, a chydsyniad y Comisiwn Elusennau i'r trosglwyddiad trwy Orchymyn dyddiedig 25 Mehefin 2024 (fel y'i diwygiwyd ar 26 Mehefin 2024).

Mae Cyngor Sir Ceredigion wedi gweithio mewn partneriaeth ag Ymddiriedolwyr y Pwll a'r Comisiwn Elusennau ers iddo ddod i’r amlwg bod yr amgylchedd ariannol heriol presennol yn golygu nad oedd yr Ymddiriedolwyr yn gallu parhau i weithredu'r pwll nofio.

Bydd trosglwyddo’r berchnogaeth yn diogelu'r safle fel lleoliad posibl ar gyfer yr ail Ganolfan Lles yng Ngheredigion. Ar 06 Rhagfyr 2022, cymeradwyodd Cabinet y Cyngor argymhelliad y bydd lleoliad yr ail Ganolfan Lles y Sir yn Aberteifi.

Trwy gymryd perchnogaeth yr ased, gall trigolion Aberteifi a'r ardaloedd cyfagos fod yn dawel eu meddwl y bydd y cyfleuster yn cael ei ddiogelu wrth symud ymlaen. Fodd bynnag, ni fydd y Cyngor yn parhau gyda’r gwasanaethau a ddarparwyd yn y ganolfan cyn iddo gau.

Yn dilyn y trosglwyddiad perchnogaeth, bydd y Cyngor yn dal i ystyried prydlesu i elusen neu sefydliad newydd ar yr amod bod cynllun busnes cadarn ac argyhoeddiadol yn cael ei gyflwyno.

Dywedodd y Cynghorydd Catrin M S Davies, Aelod Cabinet Ceredigion sy'n gyfrifol am Wasanaethau Hamdden: “Mae yna werth dibendraw i’n cymunedau o gael cyfleusterau hamdden a llesiant yn lleol gan bod eu gwasanaethau, eu staff a’u darpariaeth yn cyfrannu at sir iach ac gofalgar. Bwriad y Cyngor yw parhau gyda’r gwaith o ddatblygu Canolfan Lles newydd.”

Dywedodd Ymddiriedolaeth Pwll a Neuadd Goffa Aberteifi: “Bydd trosglwyddo’r berchnogaeth i'r Cyngor yn rhoi’r safle mewn dwylo cyhoeddus o hyn mlaen. Mae tipyn o waith yn cael ei wneud gan dîm newydd o wirfoddolwyr sy'n ceisio ailagor y pwll a dymunwn y gorau iddynt yn eu hymdrechion. Yn y tymor hwy, credwn fod y safle yn gwneud y lleoliad perffaith ar gyfer Canolfan Lles ac fel Ymddiriedolaeth byddem yn argymell bod hyn yn cynnwys darpariaeth nofio os yw hyn yn hyfyw yn ariannol.”

Mae’r penderfyniad i drosglwyddo perchnogaeth yr ased yn cefnogi Amcanion Llesiant Cyngor Sir Ceredigion i greu cymunedau gofalgar ac iach a darparu'r dechrau gorau mewn bywyd a galluogi pobl o bob oed i ddysgu.