Unwaith eto bydd Baneri Glas yn cael eu chwifio ar bedwar o draethau mwyaf poblogaidd Ceredigion eleni: yn Borth, De Aberystwyth, Llangrannog a Tresaith.

Mae pump traeth ychwanegol wedi ennill statws Gwobr Glan Môr a phedwar arall wedi ennill Gwobr Arfordir Glas gwledig noddedig.

Mae'n rhaid i draethau sy'n ennill statws gwobr Baner Las ac Arfordir Glas fodloni'r safon ansawdd dŵr “Rhagorol” uchaf yn gyffredinol ac yn cael eu barnu ar y cyfleusterau i ddefnyddwyr traethau ac am ddangos rheolaeth dda a darpariaeth diogelwch. Mae’r Wobr Glan Môr yn cydnabod traethau sydd â safon “Dda” gyffredinol o ansawdd dŵr, cyfleusterau cyhoeddus, darpariaeth diogelwch a rheolaeth.

Mae’r Cynghorydd Clive Davies, Aelod Cabinet Cyngor Sir Ceredigion dros yr Economi ac Adfywio unwaith eto wedi croesawu’r newyddion gwych bod cymaint o’n traethau yn parhau i gael eu cydnabod gyda’r gwobrau sicrwydd ansawdd hyn. Dywedodd: “Rwy’n falch iawn o weld y bydd baneri a phlaciau Gwobrau Glas, Gwyrdd a Glan y Môr yn cael lle amlwg unwaith eto ar draethau ymdrochi mwyaf poblogaidd Ceredigion yn 2024 ac rydym yn llwyr ddisgwyl gweld llawer o drigolion lleol ac ymwelwyr yn mwynhau eu hunain ar hyd arfordir Ceredigion, yn enwedig ar ôl gaeaf mor hir a gwlyb.

“Hoffwn ddiolch unwaith eto i’r llu o unigolion cymunedol lleol, grwpiau gwirfoddol, sefydliadau ac yn wir y sector busnes am barhau i hyrwyddo mantra Caru Ceredigion drwy wneud gwaith glanhau traethau, promenâd a blaendraeth yn rheolaidd ynghyd â gweithgareddau cadwraeth amgylcheddol, bywyd gwyllt addysgiadol a gweithgareddau traeth a diogelwch dŵr ar hyd arfordir Ceredigion. Heb y gefnogaeth hon, ni fyddem yn gallu cyflwyno cymaint o’n traethau a llwyddo i ennill y gwobrau mawreddog hyn, sy’n gosod traethau Ceredigion ymhlith y cyrchfannau arfordirol gorau yng Nghymru a’r DU sy’n ffurfio rhan annatod o economi'r sector twristiaeth leol i ymweld â nhw."

Mae’r lleoliadau/traethau dŵr ymdrochi dynodedig a ganlyn yng Ngheredigion wedi ennill gwobrau arfordirol yn 2024:

Baner Las:

Borth, De Aberystwyth, Llangrannog, Tresaith.

Gwobr Glan Môr:

Clarach, Gogledd Aberystwyth, Harbwr Cei Newydd, Cei Newydd Dolau/Gogledd, Aberporth.

Gwobr Arfordir Glas:

Llanrhystud, Cilborth-Llangrannog, Penbryn, Mwnt.

Mae holl ddyfroedd ymdrochi dynodedig Cymru yn cael eu monitro gan Gyfoeth Naturiol Cymru o fis Mai i fis Medi bob blwyddyn. Mwy o wybodaeth yma: https://environment.data.gov.uk/wales/bathing-waters/profiles/?lang=cy

Gall llawer o ffactorau gwahanol effeithio ar ansawdd dŵr. I ddysgu mwy chwiliwch am Dŵr Cymru Bathing Waters ar-lein, neu ewch i: https://corporate.dwrcymru.com/cy-gb/community/environment/bathing-waters

Mae’r cynlluniau gwobrau arfordirol yng Nghymru yn cael eu gweinyddu gan Gadwch Gymru’n Daclus. Am fwy o wybodaeth, ewch i: https://keepwalestidy.cymru/cy/ein-gwaith/gwobrau/

Cynghorir defnyddwyr traethau yn gryf i nofio ar draethau sy'n cael ei gofalu gan achubwyr bywyd rhwng y baneri coch a melyn sy'n dynodi'r mannau nofio dynodedig y mae Achubwyr Bywyd yr RNLI yn eu patrolio yng Ngheredigion, a'r traethau hynny yw: Y Borth, Clarach, Gogledd Aberystwyth, De Aberystwyth, Harbwr Cei Newydd, traethau Cliborth-Llangrannog, Tresaith ac Aberporth.

Cewch weld manylion o’r Tablau Llanw Ceredigion 2024 yma: www.discoverceredigion.wales/images/flip/tidetables2024/index.html

Cofiwch ‘Parchu’r Dŵr’ (https://respectthewater.com/cy/) ac 'Arnofio i Fyw' (https://rnli.org/safety/respect-the-water)!

Mewn argyfwng ar hyd yr arfordir – ffoniwch 999 a gofynnwch am Wylwyr y Glannau.

14/05/2024