Skip to main content

Ceredigion County Council website

Teyrngedau i Gynghorydd a cyn-Gadeirydd Cyngor Sir Ceredigion

Mynegwyd cydymdeimladau dwysaf yn dilyn marwolaeth y Cynghorydd Paul Hinge.

Y Cynghorydd Paul Hinge yn ailddatgan ymrwymiad Cyngor Sir Ceredigion i’r Lluoedd Arfog drwy lofnodi Cyfamod y Lluoedd Arfog ym mis Medi 2021, ar fwrdd HMS TRACKER ym Marina Aberystwyth.Darparodd y Cynghorydd Hinge wasanaeth hirdymor i Geredigion a’i thrigolion am nifer fawr o flynyddoedd, gan gynrychioli ward Tirymynach ers 2008, a bu’n Gadeirydd y Cyngor rhwng 2021 a 2022. Roedd hwn yn gyfnod arbennig o heriol oherwydd Covid-19, fodd bynnag, dangosodd y Cynghorydd Paul Hinge ei allu i addasu a chofleidio’r dechnoleg ddiweddaraf. 

Yn ystod ei 16 mlynedd o wasanaeth i drigolion Ceredigion, bu’r Cynghorydd Hinge hefyd yn gadeirydd ar nifer o bwyllgorau, gan gynnwys y Pwyllgor Trosolwg, y Pwyllgor Cydlynu Trosolwg a Chraffu, y Pwyllgor Ymddiriedolwyr Elusennau, ac oedd Cadeirydd presennol y Pwyllgor Trwyddedu.

Fel Hyrwyddwr y Lluoedd Arfog yng Ngheredigion, roedd y Cynghorydd Hinge yn frwd dros ddarparu cymorth a sicrhau bod cyn-filwyr y Lluoedd Arfog ledled y Sir gyfan yn cael llais, ac roedd yn ddiysgog wrth hyrwyddo egwyddorion rhyddid a democratiaeth. Roedd hon yn rôl bwysig iddo, ar ôl gwasanaethu yn y Ffiwsilwyr Brenhinol Cymreig.  Yn 2022, gwahoddwyd y Cynghorydd Hinge i goffau 40 mlynedd ers rhyddhau Ynys Falkland, fel gwestai arbennig i’w Llywodraeth.

Dywedodd y Cynghorydd Bryan Davies, Arweinydd Cyngor Sir Ceredigion: “Mae’n ddrwg gennym glywed am farwolaeth y Cynghorydd Paul Hinge. Fel Cynghorydd, gwasanaethodd ei ward yn ddyfal, ac roedd yn wyneb cyfeillgar i drigolion Ceredigion. Hoffem estyn ein cydymdeimlad dwysaf i deulu a ffrindiau agos Paul.” 

Wrth dalu teyrnged, dywedodd Eifion Evans, Prif Weithredwr y Cyngor: “Rydym wedi ein tristau’n fawr o golli’r Cynghorydd Paul Hinge. Mae ei ymrwymiad diwyro fel Hyrwyddwr y Lluoedd Arfog yng Ngheredigion a’i wasanaeth rhagorol fel cyn-Gadeirydd y Cyngor wedi bod o fudd mawr i’n cymuned. Roedd y Cynghorydd Hinge yn eiriolwr angerddol dros Gyn-filwyr y Lluoedd Arfog ac yn Gynghorydd uchel ei barch a oedd bob amser yn blaenoriaethu lles trigolion Ceredigion. Rydym yn cydymdeimlo’n fawr iawn gyda’i deulu yn ystod y cyfnod heriol hwn.”