Mae cyfle ar hyn o bryd i drigolion, busnesau ac ymwelwyr Ceredigion rannu eu barn ar Strategaeth Ddigidol newydd Ceredigion.

Mae Cyngor Sir Ceredigion wedi datblygu Strategaeth Ddigidol newydd ar gyfer 2024 hyd at 2030, er mwyn cyflawni gweledigaeth 'Ceredigion Hyderus Ddigidol', tra'n cefnogi'r Strategaeth Ddigidol Genedlaethol. 

Mae’r Cyngor yn ymdrechu i ddarparu gwasanaethau cyhoeddus rhagorol i bobl, busnesau ac ymwelwyr Ceredigion, a bydd yn parhau i ddefnyddio technoleg ddigidol i gefnogi trigolion, i wella gwasanaethau ac annog gwytnwch yn ein cymunedau.

Y Cynghorydd Catrin M S Davies yw Aelod Cabinet Ceredigion sydd â chyfrifoldeb dros Gwasanaethau Cyswllt Cwsmeriaid, TGCh a Digidol. Dywedodd: “Mae Ceredigion bob amser yn darparu gwasanaethau gydag ethos gynhwysol. Mae’r Strategaeth newydd hon yn canolbwyntio ar gyflwyno datblygiad digidol cynaliadwy, hirdymor ar draws yr holl wasanaethau. Bydd yn annog arweinyddiaeth ddigidol ac yn galluogi’r Cyngor i barhau i ddarparu gwasanaethau rhagorol i bobl Ceredigion.”

Bydd yr ymgynghoriad yn cael ei chynnal am gyfnod o wyth wythnos hyd at 09 Gorffennaf 2024. I rannu eich barn ar-lein, ewch i www.ceredigion.gov.uk/eich-cyngor/ymgynghoriadau/ymgynghoriad-strategaeth-ddigidol-ceredigion/

Mae fformatau eraill o'r Strategaeth fel Hawdd i Darllen neu Print Bras ar gael drwy gysylltu â'n Ganolfan Cyswllt CLIC ar 01545 570881 neu dros e-bost ar clic@ceredigion.gov.uk

15/05/2024