Skip to main content

Ceredigion County Council website

SBARC Ceredigion yn datblygu mentergarwch a hyder yng Ngheredigion

Mae nifer o unigolion ledled y Sir wedi elwa o brosiect SBARC Ceredigion, a ariennir gan Gronfa Ffyniant Cyffredin y DU (UKSPF) ac fe'i gweinyddir gan dîm Cynnal y Cardi, yng Nghyngor Sir Ceredigion.

Senedd Llychlynnaidd ar bwys plat tectoneg.Nod y prosiect yw hybu hunanhyder a thanio sbarc ymhlith unigolion mentrus Ceredigion. Menter a Busnes sy’n arwain y cynllun arloesol hwn, sy’n cael ei ariannu gan Lywodraeth y DU a’i gefnogi gan Ffyniant Bro. Bwriad y cynllun yw hybu unigolion hyderus sydd wedi’i arfogi i sefydlu a datblygu busnesau cynaliadwy yng Ngheredigion.

Un sydd wedi ymuno â’r cynllun eleni yw Megan Jones, sy’n 24 oed ac yn awyddus i ddatblygu menter lletygarwch ac unedau busnes newydd yn Llanon. Dywedodd: “Mae cynllun SBARC yn cynnig profiad arbennig ac unigryw i rywun fel fi sydd ddim o gefndir busnes, ond sydd eisiau rhoi cynnig arni. Mae bod yn rhan o’r criw wedi dysgu lot o bethau i fi. Un o’r pethau pwysicaf yw bod rhaid i ti fod yn hyblyg ym myd busnes. Mae’n brofiad gwerthfawr iawn.”

Gyda nifer o entrepreneuriaid yn gweithio’n unigol, mae SBARC Ceredigion yn sicrhau bod pawb yn cael cyfleoedd amrywiol i rwydweithio, rhannu syniadau ac arfer da a chefnogi ei gilydd. Wedi gadael ei swydd hir dymor yn y BBC a mynd ati i ddilyn ei breuddwyd o sefydlu stiwdio sain yn ardal wledig Brynafan, mae Hannah Loy wedi elwa’n fawr o gwrdd eraill trwy’r cynllun. Dywedodd Hannah: “Mae cael fy newis i fod yn rhan o’r prosiect yma eleni wedi rhoi hwb mawr i fy hyder. Roeddwn i’n rhan o gorfforaeth am gyfnod hir iawn, felly mae’r byd busnes yn newydd i fi. Mae cwrdd â chymaint o bobl dalentog trwy SBARC Ceredigion, a chlywed am yr holl syniadau gwych, wedi tanio fy nychymyg ac eisoes yn fy hybu i a’r fenter newydd.”

Dywedodd Eirwen Williams, Cyfarwyddwr Datblygu a Gweledig Menter a Busnes: “Un o amcanion Menter a Busnes yw cefnogi ffyniant pobl a busnesau. Wedi lansio’r cynllun yn Medi 2023 mae’r ymateb wedi bod yn anhygoel. Gyda 12 o unigolion newydd yn ymuno yn Fawrth, rydym bellach yn rhoi cefnogaeth ddwys i 24 o fentrau a busnesau o Geredigion drwy SBARC Ceredigion, gan hybu mentergarwch a hunan hyder yn ein Sir.”

Y Cynghorydd Clive Davies yw Aelod Cabinet Ceredigion dros yr Economi ac Adfywio. Dywedodd: "Mae'r unigolion sy'n ymwneud â SBARC Ceredigion yn derbyn cyfoeth o gefnogaeth yn ystod y cyfnod o 18 mis, gan gynnwys mentora a sesiynau dan arweiniad arbenigwyr. Mae cyfle hefyd i gwblhau Tystysgrif Gradd 7 ôl-raddedig mewn Arwain Newid o Brifysgol Aberystwyth."

Yn ystod y cyfnod deunaw mis, mae cyfle i ymuno mewn un daith astudiaeth mewn gwlad dramor er mwyn edrych ar arferion da ac ehangu ei gorwelion. Mae’r 12 unigolyn sydd wedi ymuno eleni newydd ddychwelyd o ardal Reykjavik yng Ngwlad yr Iâ ble buon nhw’n ymweld ag ystod eang o fusnesau ac yn cwrdd entrepreneuriaid o feysydd amrywiol.

Dywedodd Gwenith Elias, Cydlynydd prosiect SBARC Ceredigion: “Mae nifer o’r unigolion sydd wedi ymuno â ni eleni yn datblygu busnesau yn yr awyr agored, ym maes twristiaeth, bwyd ac iechyd a lles, felly roedd hi’n wych cael cyfle i gwrdd entrepreneuriaid mewn meysydd tebyg. Buon ni ar fferm domatos sydd wedi arallgyfeirio a gyda chwmni teithiau a gweithgareddau awyr agored. Mae’r sgiliau newydd yma yn Reykjavik, Gwlad yr Iâ, wedi tanio syniadau newydd. Dwi’n gyffrous i weld sut bydd ein criw brwdfrydig yn datblygu'r rhain yng Ngheredigion yn ystod y cynllun.” 

Am ragor o wybodaeth am brosiect SBARC Ceredigion, ewch i https://menterabusnes.cymru/sparc-ceredigion neu cysylltwch â sbarc@menterabusnes.co.uk.