Rhybuddion tywydd melyn am wynt a glaw i Geredigion
Mae’r Swyddfa Dywydd wedi cyhoeddi Rhybuddion Tywydd Melyn ar gyfer gwynt a glaw am y rhan fwyaf o Geredigion heddiw, 31 Rhagfyr a dros nos tan brynhawn fory, 01 Ionawr 2025. Cynghorir preswylwyr ac ymwelwyr â Cheredigion i gadw llygad ar ragolygon y tywydd a chymryd gofal ychwanegol ar eich teithiau.
Disgwylir Rhybudd Melyn am law o 15:00 ddydd Mawrth 31 Rhagfyr tan 11:00 ddydd Mercher 01 Ionawr, 2025. Disgwylir rhybudd melyn am wynt hefyd o 00:15 tan 15:00 ddydd Mercher, 01 Ionawr 2025.
Mae Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) yn annog pobl i fod yn wyliadwrus oherwydd y posibilrwydd o lifogydd a phroblemau dŵr wyneb yn dilyn rhagolygon o law trwm a gwyntoedd cryfion ledled Cymru.
Gall preswylwyr baratoi drwy wneud y canlynol;
- Cofrestrwch ar gyfer gwasanaeth rhybuddion llifogydd am ddim CNC ar cyfoethnaturiol.cymru/llifogydd neu ffoniwch Floodline ar 0345 988 1188.
- Edrychwch ar tudalennau rhybuddion llifogydd ar wefan CNC i weld negeseuon rhybuddion llifogydd lleol. Mae'r tudalennau hyn yn cael eu diweddaru bob 15 munud.
- Meddyliwch sut y gallwch chi baratoi eich cartref a’ch busnes nawr. Symudwch bethau gwerthfawr a cherbydau i leoliad uwch a meddyliwch am bacio pecyn llifogydd. Mae gan wefan CNC amrywiaeth o wybodaeth ar sut y gall pobl baratoi ar gyfer llifogydd.
Bydd CNC yn cyhoeddi negeseuon Llifogydd: Byddwch yn barod a Rhybuddion Llifogydd os bydd afonydd yn cyrraedd lefelau penodol a bydd eu timau'n monitro lefelau 24 awr y dydd.
Ewch i wefan Y Swyddfa Dywydd i gael yr wybodaeth ddiweddaraf ynghylch sefyllfa’r tywydd: www.metoffice.gov.uk