Skip to main content

Ceredigion County Council website

Rhybudd llifogydd ger Ardal y Llanw Aberteifi

Mae rhybudd llifogydd wedi’i gyhoeddi ddydd Gwener 18 Hydref 2024 ar gyfer Ardal y Llanw yn Aberteifi.

Disgwylir llifogydd ar eiddo ger yr afon rhwng Pont Aberteifi a phont ffordd yr A487, gan gynnwys The Strand, Heol Eglwys Fair, Gloster Row a’i faes parcio, a Phwllhai. Disgwylir llifogydd hefyd ar gyfer maes parcio Quay Street ac eiddo cyfagos.

Mae rhybudd gwynt melyn hefyd mewn grym ar gyfer arfordir Ceredigion wrth i Storm Ashley achosi aflonyddwch posib dros y penwythnos, er bod y tebygolrwydd o effeithiau canolig yn isel ar hyn o bryd. Byddwch yn ofalus mewn lleoliadau arfordirol oherwydd chwistrelliad a chynnydd yn lefel y môr.

Os ydych chi'n poeni neu'n dioddef llifogydd, ffoniwch y Llinell Llifogydd ar 0345 988 1188.

Gallwch ymweld â gwefan Cyfoeth Naturiol Cymru i weld y rhybuddion llifogydd presennol sydd mewn grym, gwirio lefelau’r afon a’r môr neu gadw llygad ar y rhagolwg perygl llifogydd 5 diwrnod: https://flood-warning.naturalresources.wales/?culture=cy-GB

Gallwch hefyd ddilyn Cyngor Sir Ceredigion, Cyfoeth Naturiol Cymru a’r Swyddfa Dywydd ar gyfryngau cymdeithasol i gael y newyddion diweddaraf am y tywydd.