Rhowch eich barn ar Lyfrgell Aberaeron
Gwahoddir pobol Ceredigion i rannu eu barn ar adleoli posib Llyfrgell a gwasanaethau cwsmeriaid wyneb yn wyneb yn Aberaeron.
Ar hyn o bryd mae'r Cyngor yn cynnal adolygiad i'r defnydd o'i adeiladau mewn ymgais i ddarparu gwasanaethau mwy canolog ac effeithlon i bobl Ceredigion. Un maes yr ydym yn edrych arno ar hyn o bryd yw defnydd Neuadd y Sir yn Aberaeron, sydd yn darparu gwasanaeth llyfrgell a gwasanaeth cwsmeriaid wyneb yn wyneb lle ceir cyngor a chymorth i'r cyhoedd.
Sylfaen y cynnig yw moderneiddio’r darpariaeth llyfrgell gan gynnwys Gofod Gwneud. Mae hwn yn ardal penodol lle gall y rheiny sy’n defnyddio llyfrgelloedd fod yn greadigol a defnyddio adnoddau a rennir fel peiriant gwnïo soffistigedig, argraffydd 3D, synwyryddion Rhyngrwyd o Bethau a chyfleoedd creadigol eraill. Gallai’r gofod cael y ei ddefnyddio hefyd ar gyfer hyfforddiant a gweithdai grŵp a llawer mwy.
Mae'r Cyngor yn awyddus i weld pob adeilad sy’n eiddo i’r Cyngor yn cael ei ddefnyddio'n effeithlon a pan fo angen eu bod yn cael eu haddasu i gwrdd ag anghenion newydd neu gwahanol. Byddai'r syniad hwn yn taclo ystyriaethau cynaliadwyedd ac uchelgeisiau Sero Net y Cyngor trwy leihau ôl troed carbon y gwasanaeth llyfrgell. Byddai’n manteisio ar ynni adnewyddadwy ac yn fwy effeithlon trwy gydleoli gwasanaethau, a allai fod yn gwella’r ddarpariaeth ar gyfer ein cymunedau.
Y Cynghorydd Catrin M S Davies yw Aelod Cabinet Ceredigion sydd â chyfrifoldeb dros Gwasanaethau Cyswllt Cwsmeriaid, TGCh a Digidol. Dywedodd: “Fel Cabinet yr ydym yn awyddus bod cynifer â phosib o wasanaethau ar gael i holl drigolion Ceredigion a bod y gwasanaethau yn cael eu cynnal yn y ffordd mwyaf effeithlon a chynaladwy. Rydym am wneud hyn ar y cyd gyda pobol y Sir ac wrth ymgynghori fel hyn y mae'n bosib i ni glywed barn pawb ar y newidiadau posib. Mae'r gwasanaeth sy'n cael ei drafod ar gyfer Aberaeron yn gyffrous ac yn cynnwys:
- Llyfrgell fwy o faint gyda gofod ychwanegol i gefnogi gweithwyr a dysgwyr
- Ardal benodol i lyfrau plant ac ardal darllen iddyn nhw
- Moderneiddio'r technoleg ar gyfer staff a phob ymwelydd
- Creu derbynfa newydd gyda phawb yn gallu galw heibio am help gydag ymholiadau cysylltiedig â'r Cyngor, yn ogystal â benthyciadau llyfrgell a defnydd cymunedol.”
I rannu eich barn ar-lein ac i gael fwy o wybodaeth, ewch i: Ymgynghoriad ar Lyfrgell Aberaeron
Mae copïau papur hefyd ar gael mewn llyfrgelloedd sy'n eiddo i'r Cyngor ar draws y Sir yn Llyfrgell Aberystwyth (Canolfan Alun R. Edwards), Llyfrgell Llambed, Llyfrgell Aberaeron a Llyfrgell Aberteifi.
I gael yr ymgynghoriad mewn ffurf eraill, cysylltwch â Chanolfan Gyswllt CLIC ar 01545 570881 neu clic@ceredigion.gov.uk