Skip to main content

Ceredigion County Council website

Rhannwch eich barn ar fywyd yng Ngheredigion

Mae cyfle i drigolion rannu eu barn ar fywyd yng Ngheredigion i helpu i lunio ein cynlluniau ar gyfer y dyfodol ac o ran darparu gwasanaethau.

Mae ymgynghoriad cyhoeddus o'r enw "Byw yng Ngheredigion" yn fyw ar hyn o bryd ac mae'n gyfle i drigolion rannu eu barn am fywyd yn y sir a'u profiadau o ddefnyddio gwasanaethau'r Cyngor.

Trwy ymateb i'r arolwg, byddwch yn helpu’r Cyngor i ddeall yn well:

  • Beth sy’n bwysig i chi
  • Eich profiad o’ch ardal leol
  • Sut rydych chi'n gweld ac yn rhyngweithio â'r Cyngor

Y Cynghorydd Matthew Vaux yw Aelod Cabinet Ceredigion ar gyfer Diogelu’r Cyhoedd. Dywedodd: “Mae’r ymgynghoriad hyn yn ymarfer ymgynghori pwysig i Geredigion. Bydd barn trigolion yn helpu i lunio eu hardal leol a’u gwasanaethau lleol, felly mae'n bwysig clywed gan gynifer o drigolion â phosibl.”

Mae’r ymgynghoriad ar agor hyd at 31 Hydref 2024. I gwblhau’r arolwg ar-lein ewch i https://surveys.data.cymru/s/526ArolwgPreswylwyr_ResidentSurvey/

I ddarganfod mwy ac am gopi Hawdd ei Ddarllen ewch i www.ceredigion.gov.uk/eich-cyngor/ymgynghoriadau/dewch-i-siarad-byw-yn-ngheredigion/. Gellir lawrlwytho'r ymgynghoriad ar-lein ac ymateb iddo ar bapur. Os ydych chi’n dymuno i ni anfon copi papur atoch chi drwy’r post cysylltwch â’r Ganolfan Gyswllt. 

Am fwy o wybodaeth cysylltwch â’r Ganolfan Gyswllt ar 01545 570881 neu clic@ceredigion.gov.uk.