Mae pobl ifanc grŵp Inspire wedi datblygu prosiect newydd i greu meinciau cymunedol a’i lleoli o amgylch y Sir fel rhan o ymgyrch iechyd meddwl sy’n deillio o raglen deledu ‘After Life’, sydd wedi ei greu gan actor Ricky Gervais.

Dros y misoedd diwethaf, mae Tîm Gwaith Ieuenctid Cymunedol ac Atal Cyngor Sir Ceredigion wedi bod yn gweithio’n agos gydag Inspire, grŵp o bobl ifanc ôl-16, nad ydynt mewn addysg, cyflogaeth, na hyfforddiant, i greu meinciau pwrpasol mewn cymunedau amrywiol. Bwriad y prosiect yw cynnig lle i bobl siarad a myfyrio mewn man heddychlon, agored a diogel.

Bu’r tîm yn gweithio’n agos gyda Hyfforddiant Ceredigion er mwyn creu ac adeiladu pob mainc. Mae’r grŵp wedi cael cyfle i gynllunio, farnisio, cynnal a dosbarthu’r meinciau i amryw o grwpiau cymunedol o fewn y Sir.

Mae plac Gwasanaeth Ieuenctid Ceredigion wedi’i osod ar bob un o’r meinciau ac maent wedi cael eu rhoi i:

  • Clwb Bowlio Aberteifi
  • Cyngor Cymuned Llandysul
  • Pwyllgor Lles Llangrannog
  • Cyngor Cymuned Llandisiliogogo
  • Cyngor Cymuned Troed-yr-Aur

Dywedodd Ethan, un o’r bobl ifanc sy’n rhan o’r grŵp Inspire: “Wnes i fwynhau bod yn rhan o’r prosiect meinciau oherwydd roedd yn gyfle i fynd allan o’r tŷ ac roedd yn weithgaredd llawn sbri. Roedd yn dda cael mynd gydag Adrian, ein Gweithiwr Ieuenctid, gan fy mod yn gallu siarad ag ef yn hwylus ac fe esboniodd sut oedd popeth yn gweithio.”

Yn ôl Gwenllian Morris, Rheolwr y Tîm Gwaith Ieuenctid Cymunedol ac Atal Ceredigion: “Mae’n ffantastig i weld y fath brosiectau, lle mae gweithwyr ieuenctid yn cael cyfle i gefnogi pobl ifanc wrth roi rhywbeth nôl i’r gymuned. Rydym wrth ein boddau i allu darparu meinciau i wahanol gymunedau yng Ngheredigion, lle all bobl fynd i eistedd a siarad.”

Dywedodd y Cynghorydd Wyn Thomas, Aelod Cabinet Ceredigion ar gyfer Ysgolion, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau: “Mae’n bleser gweld y gwaith llwyddiannus gan Inspire yma. Maent wedi dangos crefftwaith gwych wrth gynllunio ac adeiladu’r meinciau pren yma. Bydd y meinciau yma’n gwella’r ardaloedd ble maent wedi eu lleoli ac yn dod â phleser mawr i bobl yn y cymunedau. Mae’r bobl ifanc yma wedi creu prosiect ystyrlon a phwysig ac mae’n rhaid eu canmol am yr holl waith.”

Mae’r rhaglen Inspire, yn targedu pobl ifanc sy’n ceisio cymorth i ailafael ag addysg, cyflogaeth neu hyfforddiant. Mae ein canolfannau yn cynnig darpariaeth galw heibio, ochr yn ochr â gweithdai a gweithgareddau i fodloni datblygiad personol a chymdeithasol y bobl ifanc. Caiff hyn ei gynnig mewn tair rhan o’r sir; yn Aberystwyth, Aberaeron ac Aberteifi. Rydym hefyd yn cynnig gwaith ieuenctid neilltuol/symudol, a gwaith ieuenctid allgymorth a dros dro sydd yn targedu ardaloedd gweledig a difreintiedig i roi cefnogaeth a darpariaeth. Mae’r gweithgareddau a’r gweithdai sy’n cael eu cynnig i bobl ifanc yn ymdrin â’r canlynol: datblygiad personol a chymdeithasol, rheoli arian, ffocysu ar wytnwch, hyder a lles, ffocysu ar addysg, ar gyflogaeth a chyfleoedd hyfforddiant.

Mae’r grwpiau Inspire yn cael eu cynnal yn wythnosol yn Aberystwyth, Aberaeron ac Aberteifi. Am fwy o wybodaeth, cysylltwch â porthcymorthcynnar@ceredigion.gov.uk neu ewch i’w dudalen Facebook, X (Trydar yn flaenorol) neu Instagram: @GICeredigionYS neu ewch i’r wefan: www.giceredigionys.co.uk

15/05/2024