Perfformiad Ensemble Siambr Llundain yn Amgueddfa Ceredigion
Dydd Mercher 30 Hydref, bydd Ensemble Siambr Llundain yn perfformio yn Amgueddfa Ceredigion ac yn creu noson o gerddoriaeth siambr i'ch llonyddu a'ch llonni.
Disgrifir The London Chamber Ensemble gan gofnodion Gramophone fel ‘Tîm llawn seren sy’n llwyddo i ragori ar ei holl gystadleuwyr’. Bydd perfformiadau gan gynnwys Rondo for Dancing gan y gyfansoddwraig a'r Gymraes, Grace Williams, a Phedwarawd ‘Bird’ Haydn op.33 rhif 3, yn deillio o ddawns werin Slafonaidd, dyma Haydn ar ei fwyaf chwareus.
Fel yr eglura Madeleine Mitchell, y prif ysgogydd y tu ôl i Bedwarawd Ensemble Llundain: “Rydw i mor falch o fod yn chwarae yng Nghymru eto - fy nghartref ysbrydol ac rwy i wrth fy modd i fod wedi derbyn Gwobr Stuart Burrows gan Urdd Cerddoriaeth Cymru, am fy nghyfraniad sylweddol i gerddoriaeth Gymreig.”
Dywedodd Carrie Canham, Curadur Amgueddfa Ceredigion: “Ers ei agoriad mawreddog yn 1905 mae canolfan adloniant y Coliseum wedi bod yn croesawu'r gorau o artistiaid ers 120 mlynedd, ac mae’r noson hon yn argoeli i fod yn un o'r goreuon.”
Ychwanegodd y Cynghorydd Catrin M S Davies, Aelod Cabinet Ceredigion sy’n gyfrifol am Ddiwylliant: “Mae hi wastad yn braf profi cerddoriaeth yn Amgueddfa Ceredigion - yn gerddoriaeth siambr, yn ddatganiad telynau neu'n gig Cowbois Rhos Botwnnog. Bydd y noson hon yn wych rwy'n siŵr."
Mae Ensemble Siambr Llundain yn addo noson ddyrchafol o gerddoriaeth, hyfrydwch a chytgord angerddol, nos Fercher 30 Hydref am 7.30pm.
Mae tocynnau yn £12 o flaen llaw, £14 wrth y drws, £10 i blant (16 oed ac iau) a mae tocyn teulu yn £40. Am docynnau a rhagor o wybodaeth ewch i wefan yr amgueddfa https://ceredigionmuseum.wales/digwyddiadau/ neu ffoniwch yr Amgueddfa ar 01970 633088.
Gallwch hefyd ddilyn yr amgueddfa ar y cyfryngau cymdeithasol ar Facebook ac Instagram drwy chwilio am @AmgueddfaCeredigionMuseum a @CeredigionMus ar X (Trydar yn flaenorol).