Llyfrgell Ceredigion yn hyrwyddo llyfrau newydd ar gyfer pobl ifanc
Bydd llyfrau newydd yn cael ei hyrwyddo ar draws y sir i gefnogi iechyd meddwl a lles pobl ifanc.
Mae Llyfrgell Ceredigion wedi llwyddo i gael grant gan Gyngor Llyfrau Cymru i hyrwyddo cynllun ‘Darllen yn Well i’r arddegau’ ar draws y sir.
Mae ‘Darllen yn Well i’r arddegau’ yn cefnogi iechyd meddwl a lles pobl ifanc gan ddarparu cyngor a chefnogaeth i’w helpu i ddeall eu teimladau ynghyd â delio gyda phrofiadau anodd a magu hyder yn ogystal â gwybodaeth ddefnyddiol,
Wedi'i ddewis gan bobl ifanc, gweithwyr iechyd proffesiynol blaenllaw a staff llyfrgelloedd, mae’r rhestr lyfrau yn benodol i bobl ifanc rhwng 13 a 18 mlwydd oed. Mae’r rhestr yn cynnwys amrywiaeth o lefelau darllen a fformatau i gefnogi darllenwyr llai hyderus ac i ennyn diddordeb. Mae'r llyfrau sy’n cael eu hargymell yn cynnig technegau hunangymorth defnyddiol ac yn cynnwys straeon personol, fformatau graffeg a ffuglen. I gyd-fynd â’r llyfrau, mae yna adnoddau digidol safonol.
Dywedodd Emyr Lloyd, Llyfrgellydd Cynorthwyol Ceredigion: “Trwy'r ffynhonnell ariannol yma, fel gwasanaeth Llyfrgelloedd rydym wedi darparu set o lyfrau ‘Darllen yn well’ i Wasanaeth Ieuenctid Ceredigion. Mae’r gwasanaeth hwn yn darparu gweithwyr ieuenctid ymhob Ysgol Uwchradd y sir, yn rhedeg rhaglen ymgysylltu gyda Hyfforddiant Ceredigion, tri chlwb Ieuenctid, un fan ieuenctid a llu o raglenni amrywiol eraill. Rydym yn gobeithio bydd y pecyn o lyfrau dwyieithog yma yn werthfawr i'r gwasanaeth ac o help i blant a phobol ifanc y sir.”
Ychwanegodd y Cynghorydd Catrin M S Davies, Aelod Cabinet Ceredigion sy’n gyfrifol am Wasanaethau Llyfrgelloedd: “Mae’r Cynllun Darllen yn Well yn wych gan ei fod yn annog darllen fel modd o wella iechyd meddwl a lles pobl. Gall llyfrau fod yn ddull defnyddiol iawn i ddeall ein hiechyd meddwl a rwy’n falch iawn ein bod nawr yn gallu cynnig y llyfrau yma i bobl ifanc Ceredigion.”
Am fwy o wybodaeth ewch i’r wefan ganlynol: https://llyfrau.cymru/cyfresi-arbennig/iechyd-a-meddwlgarwch/darllen-yn-well/. Gallwch hefyd ddilyn ‘Llyfrgell Ceredigion Library’ ar Facebook ac Instagram, a’r Gwasanaeth Ieuenctid Ceredigion ar Facebook a GICeredigionYS ar Instagram ac X (Twitter yn flaenorol).