Yn dilyn chwe mis o waith caled yn ystod tywydd gwael y gaeaf, mae contractwyr lleol wedi cwblhau’r gwaith o adeiladu'r llwybr newydd ar ran Cyngor Sir Ceredigion, a hynny ddechrau mis Ebrill.

Mae'r llwybr cyd-ddefnyddio newydd ar gyfer cerddwyr a beicwyr yn cychwyn yn Waunfawr ac yn cysylltu'n uniongyrchol ag Ysgol Gynradd Comins Coch.

Mae gan y llwybr hefyd gangen newydd yn mynd tua'r gogledd i ymuno â llwybrau arfaethedig yn y dyfodol. Bydd yn cysylltu â’r llwybr i Benrhyn-coch, sef y llwybr sy’n cysylltu â Bow Street a’r orsaf reilffordd newydd.

Mae’r gwaith adeiladu wedi cynnwys hefyd gosod nifer o fesurau bioamrywiaeth megis gwrychoedd newydd gyda rhywogaethau brodorol a choed chwip wedi'u plannu ar eu pen; bocsys newydd i adar ac ystlumod; plannu hadau gwair a blodau gwyllt; a hefyd plannu llawer o goed brodorol newydd ar hyd y llwybr. Mae’r gwelliannau amgylcheddol hyn yn helpu i wrthbwyso effaith gosod y llwybr newydd ar gyfer y cymal hwn o’r llwybr ac ar gyfer y cymalau a ddaw wrth adeiladu’r cynllun yn y dyfodol. Mae mesurau draenio newydd hefyd wedi’u gosod, gan gynnwys pwll newydd a systemau i arafu llif dŵr wyneb fel rhan o’r mesurau draenio cynaliadwy a osodwyd.

Hefyd mae byrddau picnic ac offer chwarae newydd wedi'u gosod yn y lle chwarae wrth ymyl y llwybr yn Stad Brongwinau i helpu i wella'r ardal gymunedol hon.

Fel rhanddeiliad allweddol, mae Prifysgol Aberystwyth yn cefnogi’r prosiect a fydd yn helpu i greu cyswllt ‘o Gampws i Gampws’ er budd y staff a’r myfyrwyr. Mae’r llwybr yn cysylltu â’r rhwydwaith llwybrau a rennir ar Gampws newydd Arloesi a Menter Aberystwyth a chyfleusterau IBERS ym Mhlas Gogerddan.

Adeiladwyd Cam 1 ar ôl i’r Cyngor sicrhau cyllid o £1.6 miliwn o’r Grant Teithio Llesol a ariennir gan Lywodraeth Cymru gyda chymorth Trafnidiaeth Cymru.

Dywedodd y Cynghorydd Keith Henson Aelod Cabinet Ceredigion dros Briffyrdd a Gwasanaethau Amgylcheddol a Rheoli Carbon: “Rwy’n falch iawn o weld y cam cyntaf hwn o’r llwybr newydd yn cael ei gwblhau a’i ddefnyddio gan drigolion lleol, a hefyd gan ddisgyblion sy’n mynychu’r ysgol gynradd. Mae’r Cyngor wedi defnyddio contractwyr lleol i wneud y gwaith sydd wedi bod o fudd i’r economi leol a’r diwydiant adeiladu. Mae safon y gorffeniad yn ardderchog a bydd yn helpu i annog mwy o bobl i wneud siwrneiau teithio llesol i Aberystwyth ac oddi yno. Mae gan y teithiau teithio llesol hyn nifer o fanteision o ran iechyd, maen nhw’n gwneud y siwrneiau yn fwy diogel i ddefnyddwyr, a hefyd yn lleihau nifer y teithiau gan gerbydau i helpu i gyflawni aer glanach a lleihau carbon yn y frwydr yn erbyn newid hinsawdd.

“Edrychaf ymlaen yn fawr at weld camau arfaethedig eraill y cynllun hwn yn cael eu cwblhau yn y dyfodol a fydd yn helpu i ddarparu seilwaith cerdded a beicio mwy diogel i gysylltu’r holl gymunedau hyn. Fodd bynnag, oherwydd ehangder y cynllun hwn, bydd hyn yn gofyn am gymorth sylweddol ar ffurf cyllid grant pellach gan Lywodraeth Cymru ac mae’n bosib y bydd yn cymryd ychydig flynyddoedd eto cyn cwblhau’r cynllun graddol hwn yn llwyr.”

Mae Swyddogion Priffyrdd y Cyngor wedi bod yn cydweithredu gyda swyddogion o dîm Rhwydwaith Ffyrdd Strategol Llywodraeth Cymru, yn ogystal ag Asiant Cefnffyrdd Gogledd a Chanolbarth Cymru (NMWTRA) sy'n rheoli Cefnffordd yr A487 lle mae gwaith adeiladu graddol pellach wedi'i gynllunio yn ystod y flwyddyn ariannol newydd hon.

I gael rhagor o wybodaeth am Deithio Llesol yng Ngheredigion ewch i dudalen we Teithio Lesol y Cyngor: www.ceredigion.gov.uk/preswyliwr/teithio-ffyrdd-a-pharcio/teithio-llesol/

 

13/05/2024