Skip to main content

Ceredigion County Council website

Ceredigion county council logo

Lleisiau Eraill Aberteifi yn dathlu'r nifer mwyaf erioed o bobl wedi mynychu gyda'r ŵyl fwyaf llwyddiannus hyd yma

Daeth digwyddiad Lleisiau Eraill Aberteifi 2024 i ben gyda chynhyrchwyr yr ŵyl yn adrodd y ffigyrau uchaf erioed ar gyfer pumed rhifyn y digwyddiad yn gynharach y mis hwn. Denodd y digwyddiad tri diwrnod hwn, a gynhaliwyd 31 Hydref tan 2 Tachwedd, filoedd o ddilynwyr cerddoriaeth i dref arfordirol Aberteifi, gan drochi eu hunain mewn rhaglen wedi’i churadu gan ddathlu cerddoriaeth, cyfeillgarwch, iaith, syniadau a diwylliant o’r ddwy ochr o Fôr Iwerddon a thu hwnt.

Roedd uchafbwyntiau’r ŵyl yn cynnwys perfformiadau serol gan Nadine Shah, Bill Ryder Jones, a Fabiana Palladino. Cafodd cynulleidfaoedd Eglwys y Santes Fair berfformiad acwstig gan flaenwr y Manics, James Dean Bradfield, a wnaeth berfformio fersiynau arbennig o’r clasuron ‘Motorcycle Emptiness’, ‘A Design for Life’, a ‘Ready for Drowning’. Perfformwyr eraill yr Eglwys eleni oedd Charlotte Day Wilson, Melys, Victor Ray, a Georgia Ruth.

Gan ddarparu rhaglen ryfeddol ac ysbrydoledig ar draws amrywiaeth eang o genres cerddorol, cynhaliwyd digwyddiadau mewn caffis, bariau, mannau addoli a lleoliadau celfyddydol. Wrth i dros 42 o berfformwyr sefydledig a newydd o Gymru ac Iwerddon chwarae’r Llwybr Cerdd, a thua 300 o artistiaid a chriw yn gweithio a pherfformio, wnaeth yr ŵyl rhoi hwb i’r economi leol hefyd, gyda llawer o fusnesau’n adrodd am gynnydd mewn traffig traed a gwerthiant yn ystod y digwyddiad.

Dros y penwythnos, gwelodd yr ŵyl dros 15,000 o fynychon unigol i dros 100 o berfformiadau dros y penwythnos, sy’n cynrychioli cynnydd o 36% ar 2023. Cynyddodd ymwelwyr o’r tu allan i Gymru hefyd yn sylweddol gyda 41%, gyda chefnogwyr cerddoriaeth yn dod o Iwerddon, yr Eidal, Efrog Newydd , Sweden a'r Almaen.

Ychwanegodd Dilwyn Davies, Prif Swyddog Gweithredol y Mwldan, cyd-gynhyrchwyr y digwyddiad: "Mae eleni wedi bod yn llwyddiant ysgubol arall. Rydym wedi dathlu bywiogrwydd y sîn gerddoriaeth ar y ddwy ochr i Fôr Iwerddon, ac ysbryd ein cymunedau. Mae ymateb y gynulleidfa wedi bod yn hynod gadarnhaol a llawen, ac ni allwn aros i ddod â phawb at ei gilydd eto yn 2025."

Dywedodd Phillip King, sylfaenydd Lleisiau Eraill: “Wnaeth Aberteifi dod yn fyw â cherddoriaeth wych a thynnu coes ysgogol a phryfoclyd pan ddaeth Lleisiau Eraill i’r dref. Mae'r digwyddiad yn tyfu ac yn ehangu flwyddyn ar ôl blwyddyn, gan ddenu mwy o ymwelwyr i'r dref hardd hon. Mae’n bleser pur dod â Lleisiau Eraill ar draws Môr Iwerddon, chwalu rhwng Iwerddon a Chymru a dod â ni at ein gilydd mewn ffordd sy’n dyfnhau a chryfhau pob agwedd o’n perthynas.”

Dywedodd y Cynghorydd Clive Davies, Aelod Cabinet Ceredigion dros yr Economi ac Adfywio: “Mae Lleisiau Eraill Aberteifi 2024 wedi bod yn ddigwyddiad rhyfeddol i’n cymuned. Roedd yr ŵyl nid yn unig yn arddangos amrywiaeth anhygoel o dalent gerddorol ond hefyd wedi dod â hwb sylweddol i’n heconomi leol. Mae'r mewnlifiad o ymwelwyr o bob rhan o'r byd wedi amlygu Aberteifi fel canolbwynt diwylliannol bywiog. Rydym yn hynod falch o gefnogi digwyddiad sy’n dathlu’r tapestri cyfoethog o gerddoriaeth, diwylliant, a chyfeillgarwch rhwng Cymru ac Iwerddon. Profiad bythgofiadwy.”

Cafodd perfformiadau'r Eglwys eu ffrydio’n fyw ar sianel YouTube Lleisiau Eraill a’u ffrydio ar yr un pryd i’r sgrin fawr yn y Mwldan, Aberteifi, a fydd uchafbwyntiau’n cael eu darlledu’n ddiweddarach ar deledu BBC Cymru, BBC iPlayer ac RTÉ a RTÉ Player drwy ein partneriaid cyfryngau. Cyflwynwyd y digwyddiad gan DJ o'r BBC, Huw Stephens, sy'n cymryd rhan yn gyson â Lleisiau Eraill.

Llwyfannir Lleisiau Eraill Aberteifi gyda chefnogaeth Llywodraeth Cymru a Llywodraeth Iwerddon, a’r Adran Twristiaeth, Diwylliant, Celfyddydau, Gaeltacht, Chwaraeon a Chyfryngau, Cronfa Gymodi'r Adran Materion Tramor a chaiff ei chynhyrchu gan South Wind Blows mewn partneriaeth â Mwldan a Triongl. Ariennir y prosiect hwn yn rhannol gan Lywodraeth y DU drwy Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU. Cefnogir gan Gyngor Sir Ceredigion. Caiff Lleisiau Eraill Aberteifi ei ffilmio ar gyfer darllediad teledu sydd ar ddod ar BBC Wales ac RTÉ, ac ar BBC iPlayer ac RTÉ Player.

20/11/2024