Skip to main content

Ceredigion County Council website

Lawnsio Gwobrau Caru Ceredigion

Mae Cyngor Sir Ceredigion yn galw am geisiadau wrth iddynt baratoi ar gyfer dathliad o fusnesau a chymunedau'r sir.

Bydd Gwobrau Caru Ceredigion 2024, a gynhelir ym mis Rhagfyr, yn cydnabod cyfraniadau a chyflawniadau eithriadol busnesau, prosiectau cymunedol ac unigolion ar draws y sir.

Mae ceisiadau ar gyfer y gwobrau bellach ar agor ac yn cynnwys 12 categori, yn amrywio o ddatblygiadau arloesol yn y gymuned, megis dod o hyd i ddefnydd newydd i hen adeiladau, hyd at wobrau sy'n cydnabod entrepreneuriaid ifanc, digwyddiadau llwyddiannus a'r diwydiant twristiaeth. Mae croeso i ymgeiswyr o fentrau bach, i fusnesau mwy, sefydliadau dielw, elusennau a grwpiau cymunedol fel ei gilydd, fod yn rhan o ddathliad o'r rhai sy'n helpu i wneud Ceredigion yn lle gwell a mwy llewyrchus i fyw.

Mae'r digwyddiad yn cael ei drefnu gan Cynnal y Cardi o dan faner Caru Ceredigion. Mae Caru Ceredigion yn ymgyrch sy'n cael ei gyrru gan y gymuned gyda'r nod o feithrin ymdeimlad o falchder yn y sir, tra'n annog pobl i gymryd rhan mewn gweithgareddau sy'n gwella'r amgylchedd, yn cefnogi busnesau lleol ac yn cryfhau'r gymuned.

Yn y cyfamser, mae Cynnal y Cardi, a ariennir drwy Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU, yn gweithio i helpu i hybu'r economi a mynd i'r afael â rhai o'r heriau sy'n wynebu pobl a mentrau, gan ganolbwyntio ar ddatblygu cyfleoedd i helpu'r economi i dyfu a ffynnu. 

Er bod gan fusnesau newydd rhai o'r cyfraddau goroesi gorau ledled Cymru, ac mae gan weithlu Ceredigion sgiliau a chymwysterau uwch na'r cyfartaledd, ynghyd â sector gwybodaeth ffyniannus trwy ddwy brifysgol, mae rhai heriau allweddol hefyd. Mae'r rhain yn cynnwys denu busnesau newydd, creu swyddi, a darparu cyfleoedd i bobl iau aros yn y sir a gwrthdroi'r duedd o swyddi sy’n ennill tâl is o'i gymharu â gweddill Cymru.

Wrth edrych ymlaen at y gwobrau, a siarad am ei falchder am y gwaith gwych sy'n digwydd ar draws busnesau a chymunedau Ceredigion, dywedodd y Cynghorydd Clive Davies, Aelod Cabinet Ceredigion sy’n gyfrifol am yr Economi ac Adfywio: “Rydym yn falch iawn ac yn edrych mlaen i gynnal ein Gwobrau Caru Ceredigion cyntaf erioed i ddathlu llwyddiant a’r hyn busnesau, entrepreneuriaid a chymynedau ar draws y Sir. Mae’n gyfle i ni longyfarch a dathlu llwyddiant, talent, creadigrwydd ac arloesedd yng Ngheredigion. Rwy’n annog i bawb fanteisio ar y cyfle i enwebu’r rhai sydd wir yn gwneud gwahaniaeth yn eich cymunedau fel y gallwn cydnabod a rhoi clod am eu gwaith eithriadol o fewn y sir.”

Mae'r rhestr lawn o gategorïau a meini prawf cymwys i'w gweld ar wefan Cyngor Sir Ceredigion: www.ceredigion.gov.uk/gwobrau-caru-ceredigion

Mae'r gwobrau'n rhad ac am ddim i ymgeisio. Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw Dydd Mercher 13 Tachwedd, 2024. Cynhelir y beirniadu ym mis Tachwedd gan banel o feirniaid arbenigol, gyda rhestr fer yn cael ei chyhoeddi cyn i'r enillwyr gael eu dadorchuddio yn y seremoni ar 12 Rhagfyr 2024.

Am fwy o wybodaeth am Wobrau Caru Ceredigion 2024 ac i gyflwyno eich enwebiadau, ewch i www.ceredigion.gov.uk/gwobrau-caru-ceredigion