Lansio ffilm Ymwybyddiaeth Fêpio yng Ngheredigion
Mae ffilm Ymwybyddiaeth Fêpio wedi’i lansio yng Ngheredigion i godi ymwybyddiaeth o beryglon a niwediau posib fêpio.
Mae Tîm Gwaith Ieuenctid Cymunedol ac Atal Cyngor Sir Ceredigion wedi gweithio mewn partneriaeth â rhaglen CYFAN (INTACT) Heddlu Dyfed-Powys a thîm camddefnyddio sylweddau Barod ynghyd â phobl ifanc o’r sir i greu’r fideo.
Datblygwyd y fideo i godi ymwybyddiaeth o ôl-effeithiau posib i bobl ifanc sydd yn dewis fêpio, gan gynnwys ôl-effeithiau troseddol ac iechyd, yn ogystal â chynnig gwybodaeth am gynmorth sydd ar gael. Gweithiodd y Tîm Gwaith Ieuenctid Cymunedol gyda chwmni cyhynrchu Carlam a grŵp o bobl ifanc sy'n cymryd rhan yn Rhaglen ‘Project Pathways’ i greu’r ffilm.
Mae’r Rhaglen ‘Pathways’ yn gynllun ataliol tymor byr i bobl ifanc 11-16 oed a rhannwyd y mynychwyr mewn i grwpiau i greu bwrdd stori. Roedd y bwrdd stori'n arddangos eu teimladau a'u pryderon mwyaf ynghylch bobl ifanc sydd yn fêpio. Ar ôl gorffen y bwrdd stori, daethpwyd ag actorion a chriw ffilmio i mewn i ddod â’u syniadau'n fyw trwy greu ffilm fer. Mae’r ffilm wedi’i chynllunio er mwyn ei defnyddio fel adnodd addysgol mewn ysgolion uwchradd a cholegau lleol.
Dywedodd Zuzanna, person ifanc a gymrodd rhan yn creu’r bwrdd stori ac sydd yn rhan o'r prosiect: “Rwy’n falch fy mod wedi bod yn rhan o’r fideo; gobeithio y bydd hyn yn codi ymwybyddiaeth am y peryglon i bobl yn eu harddegau.”
Dywedodd Gwenllian Morris, Rheolwr Tîm Gwaith Ieuenctid Cymunedol ac Atal Ceredigion: “Mae wedi bod yn fraint cael bod yn rhan o'r tîm i reoli a chyflawni’r fath brosiect. Rwy’n falch o fod wedi gweithio gyda’r tîm i greu’r ffilm ysbrydoledig a chyfoes hon sy’n tynnu sylw at achos pryder yn ein cymdeithas. Mae creu clip byr gyda grŵp o bobl ifanc a gwasanaethau cymorth wedi bod yn fuddiol iawn i sicrhau bod y stori mor gywir a manwl â phosib i godi ymwybyddiaeth am fêpio, a gellir ei rhannu fel adnodd addysgol.”
Dywedodd yr Aelod Cabinet ar gyfer Ysgolion, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau, y Cynghorydd Wyn Thomas: “Mae gwaith Tîm Gwaith Ieuenctid Cymunedol ac Atal Ceredigion i’w ganmol wrth gynhyrchu’r ffilm hon. Rydym yn ymwybodol iawn o fregusrwydd pobl ifanc ynghylch camddefnyddio sylweddau, ac mae fêpio yn mynd yn broblem fawr yn gyflym iawn. Mae'r Tîm Ieuenctid wedi gweithio gyda phobl ifanc i gynhyrchu'r ffilm hon ac felly mae ei chynnwys yn fwy perthnasol i addysgu pobl ifanc am y problemau sy'n gysylltiedig â fêpio. Hoffem ganmol y Tîm Gwaith Ieuenctid Cymunedol ac Atal am ei ymdrechion wrth weithio gyda phobl ifanc heddiw ar faterion a allai fod yn niweidiol i’w hiechyd a’u lles.”
Yn y wasg yn ddiweddar, cyhoeddwyd adroddiad y Grŵp Ymateb i Ddigwyddiad (IRG) Fêpio Plant a Phobl Ifanc. Gweler y ddolen isod am fwy o wybodaeth:
Nod Prosiect Llwybrau o dan y Tîm Atal, sydd wedi bod yn rhan o greu’r ffilm, yw gweithio gydag ysgolion i wella eu hymgysylltiad â phobl ifanc anodd eu cyrraedd gan obeithio lleihau troseddu a chyfyngu’r risg o ecsbloetio yn ein cymunedau. Nod y Prosiect yw gweithio gyda phobl ifanc sydd mewn categori risg canolig/uchel, trwy sesiynau wythnosol mewn partneriaeth â sawl asiantaeth, gan gynnwys Heddlu Dyfed-Powys, y Tîm o Amgylch y Teulu, a Dewisiadau (Choices). Mae themâu’r prosiect wedi’u rhannu’n dair rhan:
- Themâu Atal – Cefnogi pobl i ymwrthod ag aildroseddu trwy godi ymwybyddiaeth, trafod yn gadarnhaol, meddwl am ganlyniadau troseddu a chynnig cyngor.
- Lles – Ymwybyddiaeth ofalgar, Gorbryder, Iechyd Corfforol, Emosiynol a Meddyliol, Gwydnwch. Perthynasau ag eraill – rhieni, cyfoedion, cymuned.
- Datblygiad Personol - Hyder. Gosod amcanion, Hunan-effeithiolrwydd, Cyfathrebu, Cyrhaeddiad, Cyfranogi, Gwirfoddoli.
Am fwy o wybodaeth, ebostiwch porthcymorthcynnar@ceredigion.gov.uk neu ewch i'w tudalen Facebook, Twitter neu Instagram: @GICeredigionYS. Neu, ewch i’w gwefan: www.giceredigionys.co.uk.