Skip to main content

Ceredigion County Council website

Ceredigion county council logo

Isetholiad Ward Tirymynach

Cynhelir isetholiad Cyngor Sir ar gyfer Ward Tirymynach ddydd Iau 17 Hydref 2024, yn dilyn marwolaeth y Cynghorydd Paul Hinge ym mis Awst 2024.

Cyhoeddwyd hysbysiad o’r Etholiad heddiw ac mae gan unrhyw un sy'n ystyried sefyll fel ymgeisydd tan 4pm ddydd Gwener, 20 Medi 2024 i gyflwyno eu papurau enwebu i’r Swyddog Canlyniadau.
 
Os bydd yr etholiad yn ddiwrthwynebiad, bydd yn cael ei gynnal ddydd Iau 17 Hydref 2024.
 
Unrhyw un sy'n byw yn y Ward sydd heb gofrestru i bleidleisio, gallwch gofrestru hyd at 11.59pm ddydd Mawrth, 1 Hydref 2024 i alluogi i chi i bleidleisio yn yr isetholiad hwn.
 
I wneud cais i bleidleisio drwy'r post, gallwch wneud hynny drwy lenwi ffurflen gais a'i dychwelyd i'r Swyddog Cofrestru Etholiadol erbyn 5pm dydd Mercher 2 Hydref 2024. Am fwy o wybodaeth, ewch i www.electoralcommission.org.uk/cy/pleidleisio-ac-etholiadau/ffyrdd-i-bleidleisio/gwneud-cais-i-bleidleisio-drwyr-post 
 
I wneud cais i bleidleisio drwy ddirprwy, rhaid i chi wneud hynny erbyn 5pm dydd Mercher 06 Hydref 2024.
 
Nid oes angen dogfen adnabod â llun arnoch ar gyfer yr isetholiad hwn. 

Cewch ragor o wybodaeth yma: www.ceredigion.gov.uk/eich-cyngor/etholiadau-a-chofrestru-etholiadol/is-etholiad-ward-tirymynach-17-hydref-2024/