Mae tri deg o brosiectau arloesol ar draws gogledd a gorllewin Cymru wedi sicrhau cyllid gwerth cyfanswm o dros £2 filiwn drwy Gronfa Her ARFOR.

Sefydlwyd y gronfa i dreialu atebion newydd ac arloesol i heriau sy’n bodoli yn ardal ARFOR, sy’n cwmpasu Ynys Môn, Gwynedd, Ceredigion a Sir Gâr.

Gyda ffocws ar ddod â sefydliadau ynghyd i arloesi, cydweithio a datrys heriau lleol a rhanbarthol, ac i dreialu syniadau a all ddod yn endidau masnachol yn y tymor hir, nod Cronfa Her ARFOR yw sicrhau bywiogrwydd economaidd cymunedau a galluogi pobl i fyw a gweithio yn yr ardaloedd hynny.

Mae’r prosiectau llwyddiannus bellach yn cwblhau’r rhaglen, gyda phob un yn dangos angerdd dros gadarnleoedd y Gymraeg, gyda ffocws ar ysgogi twf economaidd. Mae’r tri deg prosiect a dderbyniodd gyllid yn amrywio’n fawr, o atebion digidol arloesol sydd â’r nod o gefnogi’r iaith mewn busnes; ymgyrch i ddenu’r graddedigion gorau yn ôl i Gymru; hyd at brosiectau sector-benodol ym meysydd chwaraeon, ffermio, a gofal plant.

Mae’r asiantaeth prosiectau creadigol Sgema, sydd wedi’i lleoli yng Ngheredigion, yn edrych yn rhyngwladol i gysylltu busnesau o bob rhan o’r rhanbarth. Mae’n gweithio gyda’r sefydliad aelodaeth Cymry alltud, Global Welsh. Dywedodd Meilyr Ceredig, Cyfarwyddwr Sgema: "Mae Hyb Cysylltwr Global Welsh ARFOR yn ceisio cysylltu busnesau lleol â'r rhwydwaith eang o Gymry alltud ar draws y byd. Trwy'r rhwydwaith, ein nod yw creu cyfle unigryw ar gyfer twf, arloesi a chyfnewid diwylliannol ynghyd â manteisio ar y Gymraeg fel ased economaidd strategol. Mae’r Hyb Cysylltwr yn ofod digidol lle gall cymuned o entrepreneuriaid Cymreig ledled y byd ymgysylltu, rhannu a chydweithio i ysgogi llwyddiant rhanbarthol a byd-eang."

Un o ymgeiswyr llwyddiannus y prosiect yw cwmni Goiawn, o Sir Gâr, sydd wedi bod yn llwyddiannus gyda'u prosiect Antur Amser - pecyn addysgol VR i blant. Dywedodd Osian Evans, Cyfarwyddwr Goiawn: “Rydyn ni’n cydnabod yr her mae addysg Gymraeg yn ei hwynebu yn yr oes ddigidol, lle mae’r cyfryngau Saesneg yn dominyddu. Gydag Antur Amser, ein nod yw chwyldroi llythrennedd Cymraeg gyda rhaglen ddeniadol, o’r radd flaenaf sy’n plethu hud adloniant i fyd addysg. Mae ein dull yn integreiddio’r dechnoleg ymdrochol ddiweddaraf i wneud dysgu’n brofiad deinamig a rhyngweithiol, gan sicrhau bod y Gymraeg yn ffynnu mewn ystafelloedd dosbarth modern a thu hwnt.”

Mae ARFOR yn fenter ar y cyd rhwng awdurdodau lleol Sir Gaerfyrddin, Ceredigion, Gwynedd ac Ynys Môn yn dilyn cytundeb cydweithio rhwng Llywodraeth Cymru a Phlaid Cymru. Mae bellach yn ail gam ei weithgarwch, a fydd yn rhedeg tan fis Mawrth 2025, wrth iddo geisio defnyddio datblygu economaidd fel modd o gefnogi a chynnal y Gymraeg yn ei chadarnleoedd.

Dywedodd Jeremy Miles AS, Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a’r Gymraeg – Llywodraeth Cymru: “Mae ffyniant economaidd ein cymunedau Cymraeg yn hollbwysig i sicrhau dyfodol llewyrchus i’r iaith; ac mae’n braf gweld busnesau a grwpiau cymunedol yn cydweithio er mwyn cynnig cyfleoedd i arloesi yn ei chadarnleoedd. Rwy’n edrych ymlaen at weld sut bydd y prosiectau peilot hyn yn datblygu dros y misoedd nesaf.”

Dywedodd Arweinydd Cyngor Sir Ceredigion, y Cynghorydd Bryan Davies: “Rwy’n falch iawn o weld prosiectau mor gryf ac arloesol yn dod i’r amlwg gan fusnesau sydd wedi’u lleoli yng Ngheredigion yn ogystal ag ardal ehangach ARFOR. Mae’n hollbwysig bod y prosiectau hyn yn ceisio annog cydweithio ac arloesi i ddatrys heriau lleol sy’n wynebu’r iaith yn ei chynefin. Trwy ddarparu mwy o gyfleoedd busnes cynaliadwy gallwn nid yn unig hybu ffyniant ein cymunedau lleol ond hefyd darparu cyfleoedd am swyddi hirdymor i’n pobl ifanc.”

Ychwanegodd Arweinydd Cyngor Sir Gâr, y Cynghorydd Darren Price: “Mae’n holl bwysig bod ein pobl ifanc yn medru adnabod cyfleoedd economaidd ym mröydd eu mebyd ynghyd a’r seiliau i arloesi a ffynnu ynddynt. Ein pobl ifanc yw dyfodol y Gymraeg a’i chymunedau, felly mae’n gyffrous i weld amryw o brosiectau blaengar yn Sir Gâr a thu hwnt yn derbyn cefnogaeth ariannol trwy gynllun ARFOR.”

Yn ogystal, mae prosiectau ar Ynys Môn a Gwynedd hefyd wedi bod yn llwyddiannus.

Mae’r prosiect Rhwydwaith Cymry Llundain gan M-SParc ar Ynys Môn wedi ei gymeradwyo o dan y Gronfa Her Fach. Dywedodd Lois Bevan Shaw o M-SParc: “Rydyn ni wrth ein bodd gyda chanlyniad ein cais i’r Gronfa Her Fach. Er ein bod yn frwd dros gadw pobl ifanc yn ein hardal, rydyn ni hefyd yn cydnabod bod nifer o bobl sydd wedi symud i ffwrdd bellach eisiau dychwelyd adref. Gyda’n prosiect ni, rydyn ni’n ei gwneud hi’n haws i’r 1,500 aelod o Rwydwaith Cymry Llundain gael mynediad at wybodaeth a chymorth i ddychwelyd i’r ardal, naill ai i ddechrau busnes newydd neu chwilio am gyfleoedd buddsoddi ar hyd a lled y rhanbarth.”

Un o’r ymgeiswyr llwyddiannus eraill sy'n elwa o’r Gronfa Her yw’r cwmni cyfieithu o Gaernarfon, Cymen Cyf. Gyda chyllid gan y Gronfa Her Fawr, bydd y prosiect yn casglu data model megis ffeiliau llais a thestun Cymraeg i gynhyrchu banc o ddywediadau sain yn Gymraeg.

Dywedodd Cyfarwyddwr cwmni Cymen Cyf, Aled Jones: “Rydyn ni’n edrych ymlaen at wthio ffiniau technoleg llais trwy gyfrwng y Gymraeg gyda’n prosiect Cronfa Her. O ran datblygu economaidd, bydd modd defnyddio’r model iaith y byddwn yn ei chreu i siarad â dyfeisiau personol, i drawsgrifio ac i greu lleisiau synthetig. Bydd y data ar gael yn agored i unrhyw un sydd am ei ddefnyddio. Mae’n wych y bydd y prosiect hefyd yn helpu i sbarduno cydweithio ar draws y rhanbarth. Byddwn yn manteisio ar arbenigedd yr Uned Technolegau Iaith ym Mhrifysgol Bangor, ond hefyd yn cydweithio â Stiwdiobox yn Yr Egin yng Nghaerfyrddin, gwefan Y Pod a chynhyrchwyr podlediadau i rannu gwybodaeth am ochr fwy technegol recordio lleisiau.”

Mae Cronfa Her ARFOR yn cael ei redeg gan Menter a Busnes a Menter Môn ar ran Llywodraeth Cymru.

15/05/2024