Nol yn fis Mawrth eleni bu Arad Goch yn brysur yn dathlu'r 10fed Ŵyl Agor Drysau a sefydlwyd yn 1996. Gŵyl theatr ryngwladol Cymru ar gyfer cynulleidfaoedd ifanc yw Agor Drysau, a chafodd ei drefnu gan Gwmni Theatr Arad Goch yn Aberystwyth.

Cynhelir perfformiadau, gweithdai a sgyrsiau yn nhref Aberystwyth, cartref yr ŵyl, ac mewn theatrau eraill yng Nghymru. Nod yr ŵyl yw rhoi’r cyfle i blant, pobl ifanc a theuluoedd yng Nghymru weld rhai o gynyrchiadau theatr gorau’r byd, a rhoi cyfle i raglenwyr a chynhyrchwyr rhyngwladol brofi cyfoeth celfyddydau perfformio Cymru.

Nod Strategaeth Economaidd Cyngor Sir Ceredigion yw rhoi cyfleoedd i bobl ifanc sy'n dymuno aros a datblygu gyrfa yng Ngheredigion sy'n cyd-fynd â'r gefnogaeth y mae’r Ŵyl Agor Drysau wedi ei dderbyn drwy Cronfa Ffyniant y Deyrnas Unedig (CFfGDU) ac ARFOR. Mae’r Gronfa CFfGDU yn rhan ganolog o agenda Ffyniant Bro Llywodraeth y Deyrnas Unedig a weinyddir gan dîm Cynnal y Cardi y Cyngor. Prif nod y gronfa yw meithrin balchder mewn lle a gwella cyfleoedd bywyd ledled y DU sy’n agor y llenni i Gŵyl Agor Drysau.

Yn ôl Nia Wyn Evans, Cyfarwyddwr Busnes Arad Goch: “Rydym yn falch iawn o gyhoeddi llwyddiant ein 10fed Gŵyl Agor Drysau, sef gŵyl theatr ryngwladol i gynulleidfaoedd ifanc, a gynhaliwyd rhwng 12 a 16 o fis Mawrth 2024. Cynhaliwyd cyfanswm o 53 perfformiad theatrig hudolus, gan arddangos talentau 19 cwmni gwych o Gymru, Yr Eidal, Gwlad Belg, Iwerddon, Awstralia, a Lloegr. Daeth 5,705 o gyfranogwyr / aelodau'r gynulleidfa i’r perfformiadau yn ystod yr ŵyl. Roedd ein rhaglen amrywiol yn cynnig gwead o straeon a pherfformiadau, gan ddarparu adloniant ac ysbrydoliaeth i gynulleidfaoedd o bob oed. Rydym yn edrych ymlaen at barhau â'n cenhadaeth o ddod â phrofiadau theatrig o ansawdd i gynulleidfaoedd ifanc am flynyddoedd lawer i ddod.”

Cynhaliwyd pedwar diwrnod llawn o tua 30 o berfformiadau gan 16 chwmni o Gymru ac o wledydd tramor i blant, pobl ifanc a theuluoedd Ceredigion. Y weledigaeth yw darparu’r unig ŵyl theatr ryngwladol yng Nghymru, a rhoi’r cyfle i gynulleidfaoedd gwledig Ceredigion gael yr un mynediad a chyfleodd i ddigwyddiadau rhyngwladol a’r trefi mawr. Darparwyd cyfleodd dysgu a gweithgareddau creadigol o'r radd flaenaf i blant, pobl ifanc ac oedolion yn eu cymunedau. Trefnwyd bod ysgolion cynradd Ceredigion yn mynychu’r perfformiadau, gan roi’r cyfle i blant lleol o bob cefndir ymweld â’r theatr ac ystyried Aberystwyth fel rhan o ddiwylliant byd-eang.  Bu perfformiadau hefyd yn Theatr Mwldan, Aberteifi a Theatr Felinfach, Dyffryn Aeron.

Y Cynghorydd Clive Davies yw’r Aelod Cabinet ar gyfer yr Economi ac Adfywio. Dywedodd: “Bu’r ŵyl yn llwyddiant ysgubol, yn hyrwyddo Aberystwyth a Cheredigion ar blatfform rhyngwladol drwy weithredu fel ffenestr siop i'r dref yn ogystal â'r gwaith a ddangosir. Cyfrannodd at economi'r ardal wrth ddenu ymwelwyr o rannau eraill o Brydain ac o dramor gan hybu twristiaeth drwy gyfrannu at ddelwedd Aberystwyth fel lleoliad twristaidd diwylliannol. Bu’r ŵyl yn gyfraniad at adfywio economaidd drwy godi proffil yr ardal a'i adnoddau naturiol.”

Cronfa a fu’n gefnogol iawn i Gwmni Theatr Arad Goch oedd ARFOR, sef rhaglen a ariennir gan Lywodraeth Cymru sy'n gweithredu yng nghadarnleoedd traddodiadol yr iaith Gymraeg; yng Nghyngor Sir Gaerfyrddin, Ceredigion, Gwynedd ac Ynys Môn. 

Ychwanegodd Nia: “Cwmni Theatr Arad Goch yw un o’r ychydig sefydliadau creadigol sydd yn gweithredu’n llwyr ac yn gyson drwy’r Gymraeg, yn creu eu holl gynyrchiadau yn y Gymraeg a’u trosi, wedyn, i’r Saesneg ac ieithoedd eraill. Er mwyn cyfrannu at y broses o wireddu strategaeth Cymraeg 2050, mae’n rhaid cynnig cyfleoedd cadarnhaol i blant a phobl ifanc, a’u teuluoedd, ddefnyddio’r Gymraeg yn anffurfiol.

“Bydd plant a phobl ifanc yr ardal yn elwa o’r prosiectau yma yn ogystal â theuluoedd a’r gymuned leol. Mae’n bwysig fel cwmni i gynnig trawstoriad eang o weithgareddau er mwyn bod yn agored i bob oedran i ymuno yn ein gwaith/gweithgareddau. Byddwn hefyd yn targedu ac yn helpu siaradwyr Cymraeg newydd – fel eu bod yn cael eu cynnwys yn y gweithgareddau."

Ceir pedair elfen i’r ymgyrch o dan gymorth ARFOR:

  • Arad Goch Swnllyd: Prosiect cerddoriaeth newydd a fydd yn cael ei ddatblygu gyda mudiadau eraill fel Y Selar a Gigs Cantre’r Gwaelod i ddod a cherddorion Cymraeg profiadol a phobl ifanc at ei gilydd i ysgrifennu, recordio a chynhyrchu cerddoriaeth
  • Cwmni Drama Amatur Cymraeg: Prosiect i sefydlu cwmni drama Cymraeg ar gyfer oedolion yng Nghanolfan Arad Goch a fydd yn canolbwyntio ar baratoi cynyrchiadau theatr i blant gan ddefnyddio adnoddau Arad Goch.
  • Gweithgareddau Cyfranogol i Deuluoedd: Prosiect ar gyfer teuluoedd; plant a’u rhieni / oedolion i drefnu gweithgareddau sy’n ymwneud a tu-cefn y llwyfan.
  • Cyrsiau Technegol: Prosiect sy’n darparu cyrsiau ymarferol drwy gyfrwng y Gymraeg i bobl ifanc hyd at 25 oed.

Am fwy o wybodaeth, ewch i wefan Arad Goch: Arad Goch – Cwmni Theatr Arad Goch

 

 

13/05/2024