Skip to main content

Ceredigion County Council website

Gwrthod system Pleidlais Sengl Drosglwyddadwy

Mewn cyfarfod arbennig o'r Cyngor a gynhaliwyd ar 14 Tachwedd 2023, pleidleisiodd Cynghorwyr Ceredigion yn erbyn mabwysiadu'r Bleidlais Sengl Drosglwyddadwy (STV) ar gyfer etholiadau lleol Cyngor Sir Ceredigion.

Cynhaliwyd ymgynghoriad cyhoeddus rhwng 15 Gorffennaf a 6 Medi. Roedd 67% o'r 475 o ymatebwyr o blaid mabwysiadu'r system STV ar gyfer etholiadau cynghorau sir leol yn y dyfodol, gyda 30% yn ffafrio'r system gyntaf i'r felin bresennol ac nid oedd gan 3% unrhyw farn o'r math o system bleidleisio a ddefnyddir yn y dyfodol.

Er mwyn mabwysiadu cynnig i newid y system rhaid i nifer yr aelodau etholedig sydd o blaid fod o leiaf dwy ran o dair o nifer y seddi ar y Cyngor sef 26/38. Yn y cyfarfod, pleidleisiodd 17 o aelodau etholedig yn erbyn gyda 18 yn pleidleisio o blaid. 

Dywedodd y Cynghorydd Bryan Davies, Arweinydd Cyngor Sir Ceredigion ac Aelod o'r Cabinet sy'n gyfrifol am y Gwasanaethau Democrataidd: “Rydym yn ddiolchgar i bawb a gymerodd ran yn y broses ymgynghori. Er bod canlyniad y bleidlais yn adlewyrchu ystod amrywiol o safbwyntiau o fewn y Cyngor, mae'n amlwg bod y drafodaeth ynghylch diwygio etholiadol yn parhau i fod yn flaenoriaeth i lawer o aelodau. Bydd pleidleisio yn etholiadau lleol Cyngor Sir Ceredigion yn parhau gyda'r system cyntaf i'r felin bresennol."