Skip to main content

Ceredigion County Council website

Gwahodd tendrau ar gyfer Cylch Caron

Yn dilyn cymeradwyaeth y Cabinet ar 17 Gorffennaf 2024, gwahoddir tendrau am Bartner Cyflawni a fydd yn gweithio gyda'r Cyngor a'r Bwrdd Iechyd i ddarparu canolfan iechyd, gofal cymdeithasol a thai newydd integredig yn Nhregaron, Cylch Caron. Disgwylir y bydd y Partner Cyflawni yn tendro contract dylunio ac adeiladu yn ystod 2025.

Mae Cyngor Sir Ceredigion a Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn parhau'n gwbl ymrwymedig i ddarparu Canolfan Adnoddau Integredig yn Nhregaron. Bydd y cynllun hwn yn darparu model gwledig integredig ar gyfer gofal a thai cymunedol ac yn cymryd lle Cartref Gofal Preswyl Bryntirion. Bydd hyn yn mynd i'r afael â breuder y ddarpariaeth bresennol o wasanaethau yn Ysbyty Tregaron ac yn sicrhau bod gofal ar gael i'r rhai mewn angen.  

Bydd y tendr ar gyfer datrysiad dylunio ac adeiladu ei ddatblygu gyda'r nod o sicrhau'r gwerth gorau am arian a chyfleusterau iechyd, gofal cymdeithasol a gofal ychwanegol modern ar gyfer cenedlaethau heddiw a'r dyfodol.

Dywedodd y Cynghorydd Alun Williams, Dirprwy Arweinydd Cyngor Sir Ceredigion ac yr Aelod Cabinet sydd â chyfrifoldeb dros Lesiant Gydol Oes: “Fel partneriaid, rydym ni oll wedi ymrwymo i gadw'r prosiect arloesol a chydweithredol hwn ar draws iechyd, gofal cymdeithasol a thai i symud ymlaen. Rydym wedi bod yn gweithio'n ddiflino tu ôl i'r llenni ar y broses o ail-dendro, felly mae hon yn garreg filltir bwysig rwy’n hapus iawn i weld.”

Dywedodd Peter Skitt, Cyfarwyddwr Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn Sir Ceredigion: “Mae Canolfan Adnoddau Integredig Cylch Caron yn brosiect cyffrous ac unigryw sy'n ceisio cynnig llawer o gyfleoedd a manteision i bobl yn yr ardal. Mae hwn yn gynllun arloesol sy’n dod ag ystod o wasanaethau ynghyd i wasanaethu Tregaron a'r ardaloedd gwledig cyfagos. Bydd y prosiect yn creu model gwledig arloesol o ofal yn y gymuned i ddiwallu anghenion iechyd, gofal a thai yn yr ardal, sy'n addas ar gyfer heddiw ac yn gynaliadwy ar gyfer yfory."

Mae hwn yn brosiect partneriaeth rhwng Cyngor Sir Ceredigion a Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, ynghyd â Llywodraeth Cymru. Bydd yn cynnwys meddygfa, fferyllfa gymunedol, clinigau cleifion allanol a gwasanaethau nyrsio cymunedol, yn ogystal â fflatiau gofal ychwanegol ac unedau iechyd a gofal cymdeithasol integredig.