Mae’r Cynghorydd Keith Evans wedi’i ethol yn Gadeirydd Cyngor Sir Ceredigion ar gyfer 2024-25 mewn Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol a gynhaliwyd ddydd Gwener 17 Mai 2024.

Daw hyn â chyfnod y Cynghorydd Maldwyn Lewis i ben fel y Cadeirydd ar gyfer 2023-2024, lle mae wedi llywio’r Cyngor drwy gyfnod heriol iawn gyda’r cynnydd mewn costau byw a thoriadau cyllidebol.

Cafodd y Cadeirydd newydd, y Cynghorydd Keith Evans, ei ethol yn Gynghorydd Cyngor Dosbarth Ceredigion yn 1987 ac yna yng nghyfnod ad-drefnu Llywodraeth Leol, fe’i etholwyd i Ward De Llandysul, Gyngor Sir Ceredigion yn 1996.

Dros cyfnod o bron 40 mlynedd yn ymwneud â bywyd cyhoeddus, mae wedi cael profiad o weithio ar lefel Lleol, Rhanbarthol a Chenedlaethol. Yn ystod y cyfnod, mae wedi gweithredu a chadeiryddio nifer o bwyllgorau, yn Aelod Cabinet ar wahanol bortffolio ac yn Arweinydd y Cyngor. Mae hefyd yn aelod o Gyngor Cymuned Llandysul.

Mae’n wreiddiol o bentref Prengwyn ger Llandysul ac mae ganddo ddiddordeb brwd yn y byd Chwaraeon a datblygu yr Economi. Dywedodd y Cynghorydd Evans: “Mae’n fraint ac yn anrhydedd i gael fy ethol i fod yn Gadeirydd y Cyngor Sir ac rwy’n edrych ymlaen i gydweithio gyda’m cyd-aelodau a thrigolion y Sir mewn cyfnod ansicr ofnadwy. Bydd balchder y Cardi unwaith eto yn dod i’r amlwg gan mae ni yw Sir Nawdd y sioe Frenhinol eleni; y tro diwethaf i ni fod yn Sir Nawdd, fi oedd yr Arweinydd.”

Etholwyd y Cynghorydd Ann Bowen Morgan yn Is-gadeirydd.

Dywedodd y Cynghorydd Bryan Davies, Arweinydd Cyngor Sir Ceredigion: “Hoffwn longyfarch y Cynghorydd Keith Evans ar gael ei ethol yn Gadeirydd y Cyngor, y Cynghorydd Ann Bowen Morgan yn Is-gadeirydd, a diolch yn ddiffuant hefyd i’r Cynghorydd Maldwyn Lewis am ei waith diflino fel y Cadeirydd blaenorol.”

Holi’r Cyn-gadeirydd

Y Cynghorydd Maldwyn Lewis, ward Gogledd Llandysul a Troedyraur, oedd Cadeirydd Cyngor Sir Ceredigion yn ystod 2023-2024. Dyma daro golwg yn ôl ar ei flwyddyn yntau.

  • Sut brofiad oedd bod yn Gadeirydd ar Gyngor Sir Ceredigion yn ystod y flwyddyn ddiwethaf?   

Braint ac anrhydedd mwyaf fy mywyd, oedd cael bod yn Gadeirydd Cyngor Sir Ceredigion o fis Mai 2023 hyd mis Mai 2024. Fy ngobaith oedd i weithio hyd eithaf fy ngallu i gyflawni fy holl ddyletswyddau fel Cadeirydd. Braf yw cydnabod, yn ddiolchgar iawn, gymorth amrhisiadwy ar gyfer cyflawni hynny, mae fy niolch yn arbennig iawn i Sonia Davies, Lowri Edwards, fy ngwraig Carys Ann,  a llawer un arall. Teimlaf fy mod wedi cyflawni llawer yn ystod y flwyddyn.

Derbyniais groeso twymgalon ar hyd a lled y Sir, braf oedd cael cyfarfod a gwynebau newydd ynghyd a’r rhai cyfarwydd. Dysgais lawer trwy wahanol weithgareddau, mudiadau, mudiadau gwirfoddol, dysgais a gwelais drosof fy hun, am yr holl waith da sydd yn digwydd o’n hamgylch, ledled y Sir. Cefais y fraint ar aml i achlysur, o fod yng nghwmni Ffoaduriaid, rhai o Wcrain a’u teuluoedd. Ffoaduriaid sydd wedi derbyn lloches o fewn ein Sir. Profais eu gwerthfawrogiad a’u diolch diffuant am bob cymorth, parch ac anwyldeb pobl Ceredigion.

Braf oedd cael bod yn rhan o ddigwyddiadau pwysig a gynhaliwyd o fewn y Sir; megis agoriad swyddogol Canolfan Integredig i Blant Yr Eos ym Mhenparcau, adeilad braf newydd i fudiad meithrin, yn Llanarth ac ymweld ā safle’r ysgol newydd yn Nyffryn Aeron. Cyflwyno gwobrau a rhannu yn llwyddiant plant a phobl ifanc y sir trwy ymuno a hwy a’u teuluoedd yng Nghanolfan Gwersyll yr Urdd Llangrannog, yn Theatr Felinfach, a hefyd yn Siambr y Cyngor, Penmorfa, Aberaeron.

Hoffwn ddweud, fy mod yn gwerthfawrogi y cymorth, parch, gwrandawiad a chwrteisi a ddangoswyd i mi gan Aelodau, Swyddogion a Staff, ynghyd a’r cyhoedd, wrth i ni drin a thrafod dyfodol ein sir ac ein pobl. Mewn un gair, DIOLCH.

  • Beth oedd y peth gorau am eich profiad?  

Rwyf wedi cael ystod eang iawn o brofiadau; y profiad sydd yn sefyll allan oedd teimlo diolchgarwch y ffoaduriaid a gafodd loches yng Ngheredigion. Roeddent mor ddiffuant ei gwerthfawrogiad o fedru teimlo yn ddiogel, eu bod yn cael parch, gofal a chymorth. Wrth wrando ar eu profiadau, eu storiau, gallwn ninnau, ond diolch am y fraint o’u cyfarfod hw’ythau. Braint i mi yw byw yn eich plith, fel un o drigolion Ceredigion.

  • Beth yw eich neges i’r Cadeirydd newydd? 

Dymunaf yn dda i’r Cynghorydd Keith Evans a’i Gonsort Mrs Eirlys Evans am y flwyddyn nesaf, gan ddymuno pob llwyddiant, llawenydd a rhwyddineb i ofalu am y Winllan a rhoddwyd i’n gofal.

17/05/2024