Dyn o Geredigion i gael ei ddedfrydu am dorri Nodau Masnach a gwerthu DVDs ffug
Yn dilyn ymchwiliad cymhleth gan Dîm Safonau Masnach Diogelu’r Cyhoedd Cyngor Sir Ceredigion, gyda chefnogaeth tîm cyfreithiol y Cyngor, ymddangosodd David R Thomas, 47, o Sarnau Ceredigion yn Llys y Goron Abertawe ddydd Gwener 05 Gorffennaf 2024, a phlediodd yn euog i droseddau nod masnach.
Clywodd y llys sut roedd David Thomas wedi bod yn cynhyrchu ac yn gwerthu DVDs ffug yn cynnwys nodau masnach cofrestredig fel Netflix, Amazon Technologies, Disney Enterprises, Sony, a Universal City Studios LLC.
Roedd Thomas wedi defnyddio offer electronig proffesiynol i gynhyrchu'r DVDs i wneud iddynt edrych fel eu bod yn gynnyrch cyfreithlon ac wedi defnyddio hunaniaethau masnachu lluosog ac allfeydd ar gyfer gwerthu'r DVDs ffug hyn a arweiniodd at wneud elw ariannol sylweddol iddo.
Cyfeiriodd y Barnwr Paul Thomas KC at David Thomas am adroddiadau asesiad ac adroddiadau prawf a disgwylir iddo gael ei ddedfrydu ar 20 Medi.